Cysylltu gydag Eduroam

Ar gyfer defnyddwyr Prifysgol Bangor iddynt ei ddefnyddio ar y campws, ac wrth deithio i safleoedd eraill sy'n defnyddio eduroam.

Dylai defnyddwyr o safleoedd eraill gysylltu â’u sefydliad cartref am arweiniad a chymorth ynglŷn â chysylltu.

Gan ddefnyddio’r cysylltiadau isod, lawrlwythwch a lansiwch y ffeil sefydlu ar gyfer eich system gweithredu. Efallai y bydd angen i chi dde glicio ar y cyswllt a dewis 'Save As' neu debyg, gan ddibynnu ar y porwr a system weithredu sydd gennych.

Bydd angen i chi ddefnyddio 'username@bangor.ac.uk' wrth redeg yr offer cysylltu.