Cysylltu â'ch cyfrifiadur personol gan ddefnyddio DesktopAnywhere
Beth yw'r Gwasanaeth Desktop Anywhere?
Mae Desktop Anywhere yn eich caniatáu i gysylltu â'ch cyfrifiadur Windows ar y campws o bell. Bydd angen i’ch cyfrifiadur fod ymlaen, a bydd angen i'r Gwasanaethau TG ei osod cyn y gellir gwneud hyn. I gael mynediad i'ch cyfrifiadur o bell, llenwch y Ffurflen Cysylltiad Desktop Anywhere.
Beth sydd ei angen arnaf i allu defnyddio DesktopAnywhere?
Bydd DesktopAnywhere yn gweithio ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau sy'n defnyddio fersiynau cyfredol o Windows, Mac, Linux, Android ac iOS.
I gael y perfformiad gorau dylai cyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows a Macs osod y cleient o'r ddewislen Opsiynau Cleient.
I gael manylion am sut i’w osod ewch i’r arweiniad cysylltu.
Dim ond unwaith yn unig y bydd angen i chi gysylltu â'r fersiwn wedi'i diweddaru o DesktopAnywhere a hynny pan fyddwch yn ei wneud am y tro cyntaf.
Mae'r gwasanaeth Desktop Anywhere yn gweithio'n rhwydd hefyd ar Apple iPads a thabledi Android.
- I gael manylion llawn am gleientiaid a gefnogir ewch i’r dogfennau Oracle.
- Mae cefnogaeth ar gyfer Java a HTML5 hefyd ar gael o'r ddewislen Opsiynau Cleient.
Cysylltu â DesktopAnywhere gan ddefnyddio HTML5 - ar gyfer tabledi Apple ac Android neu os na allwch gysylltu trwy ddefnyddio'r cyswllt uchod.