Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Sut mae dechrau Sganio

Sut i sganio i gael fersiwn electronig o ddogfen bapur.

  • Dangosir canllaw cymorth cyflym wrth ochr pob peiriant argraffu.
  • Mewngofnodwch i unrhyw beiriant argraffu Sharp
  • Dewiswch naill ai Enable Device Black/White neu Enable Device Colour (nid oes ots pa un os ydych yn sganio)
  • Dewiswch Scan neu Scan2Me yn dibynnu ar y ddyfais
  • Dewiswch naill ai Scan2email neu Scan2folder
  • Newidiwch y gosodiadau ar hyd gwaelod y sgrin
  • Gosodwch y ddogfen wreiddiol gyntaf ar y plât gwydr yn y safle cywir
  • Pwyswch Scan2me
  • Ar ôl y dudalen gyntaf bydd bocs deialog yn ymddangos -Start or Readend? Os oes gennych dudalen arall i'w sganio pwyswch Start eto. Gwnewch hyn nes bod yr holl dudalennau wedi eu sganio yna pwyswch Readend. Caiff y ddogfen electronig ei hanfon yn y fformat a ddewiswyd gennych naill i'ch cyfrif ebost neu i'r ffolder a ddewiswyd gennych.

Cofiwch allgofnodi!

Cyfeiriwch at y Cyfeirlyfr i gael rhagor o wybodaeth a nodweddion uwch.