Hyfforddiant Sgiliau TG i Staff
Mae'r Gwasanaethau TG yn darparu hyfforddiant sgiliau TG i staff mewn perthynas â'r pecynnau Microsoft Office isod. Os oes gennych ddiddordeb, llenwch ffurflen gais y ddesg gymorth. Mae arnom angen o leiaf 6 aelod o staff i gynnal sesiwn hyfforddi.
Weithiau, byddwn yn cynnig cyrsiau o'r fath yn ystod y tymor ar sail ad hoc. Caiff y cyrsiau eu hysbysebu ar wefan hyfforddiant sgiliau Adnoddau Dynol.