Dilysu Aml-Ffactor
Mae Prifysgol Bangor yn defnyddio Dilysu Aml-ffactor (MFA) i warchod eich cyfrifon rhag mynediad gan bobl heb awdurdod wrth weithio oddi ar y campws. Pan fyddwch chi'n gweithio ar y campws, gan ddefnyddio'r rhwydwaith gwifr neu Eduroam, ni fydd angen i chi wneud dilysiad eilaidd. Mae MFA yn cael ei gymhwyso i lawer o wasanaethau'r Brifysgol gan gynnwys Office 365, Blackboard, mynediad o bell Labstats a'r datrysiad VPN. Mae llawer o'r cymwysiadau hyn ond yn gweithio gyda'r ap Authenticator fel eich ap MFA. O'r herwydd, y dull MFA a ffafrir ar gyfer yr holl wasanaethau ledled y Brifysgol yw Authenticator.
Newid i ddefnyddio ap Microsoft Authenticator o ddull MFA arall
Gan dybio bod gennych fynediad i'r holl wasanaethau o hyd, byddwch yn gallu sefydlu'r ap Authenticator trwy ddilyn ychydig o gamau fel y gwelir isod. Os ydych chi'n ffurfweddu MFA am y tro cyntaf gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol wrth fewngofnodi'r tro cyntaf a dylid dewis ap Authenticator.
- Lawrlwythwch yr ap Authenticator o'r siop ap briodol
- Dewiswch 'Add Account'
- Gofynnir i chi sganio cod QR. I gyrchu'r cod QR ewch i https://mysignins.microsoft.com/security-info a mewngofnodwch ar ddyfais wahanol oherwydd bydd angen i chi allu sganio'r cod gan ddefnyddio'ch camera ffôn. I fewngofnodi bydd angen i chi ddefnyddio'ch dull MFA presennol (testun, galwad ffôn ac ati)
- Llywiwch i “Default sign in method” a chlicio newid
- Dewiswch ap Microsoft Authenticator. Bydd y cod QR yn cael ei arddangos
- Sganiwch y cod QR gyda'ch dyfais
- Cadarnhewch fod y rhifau symudol yn gywir fel opsiwn wrth gefn os nad yw'r ap Authenticator yn gweithio i chi.
Ffurfweddu MFA am y tro cyntaf i ddefnyddio Ap Authenticator
Gellir darllen gwybodaeth gefndir ynghylch pam y gorfodwyd MFA ar wasanaethau.