FyMangor
Beth yw FyMangor?
Mae FyMangor yn rhoi mynediad i chi at ystod o wasanaethau ar-lein gan gynnwys:
- Mynediad at eich amserlen modiwlau, marciau asesiadau ac arholiadau, datganiad ariannol,
- Newyddion, digwyddiadau a chyhoeddiadau'r Brifysgol
- Newid eich cyfrinair, prynu credydau argraffu, mynd at godau trwyddedau
- Offer ar gyfer diweddaru eich gwybodaeth gyswllt
a llawer mwy .....

Tudalen gartref FyMangor i fyfyrwyr - cewch yr holl newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf....
Bydd paneli eraill, yn benodol y panel ‘Newyddion Gwasanaeth FyMangor’ a’r paneli ‘Eich Cyhoeddiadau’ ar y dudalen gartref FyMangor yn rhoi gwybodaeth, cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n berthnasol i chi’n benodol. Gallent gynnwys gwybodaeth am weithdy cyflogadwyedd a gynhelir i fyfyrwyr yn eich ysgol, rhoi gwybod i chi bod rhaid i chi ailgofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eto, gwybodaeth am swyddi, cyhoeddiadau system TG, negeseuon gan gynrychiolwyr eich cwrs neu arweinwyr cyfoed neu unrhyw gyhoeddiadau eraill y mae staff neu eraill sy’n cefnogi eich astudiaethau eisiau i chi eu gweld neu a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Gwasanaethau Ar-lein i staff a myfyrwyr sydd ar gael trwy FyMangor
Ar ôl i chi fewngofnodi, byddwch yn gweld nifer o wasanaethau ar-lein yn yr adran 'Gwasanaethau Ar-lein' ar ddewislen y safle (yn y bar du ar frig y dudalen).
Gwybodaeth Gyffredinol
Un o swyddogaethau FyMangor yw darparu newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau a gwybodaeth arall i chi sy’n amserol ac yn berthnasol. Mae tudalen gartref FyMangor yn cynnwys paneli sy’n dangos y wybodaeth hon. Cyflwynir newyddion a digwyddiadau o’r holl ysgolion a cholegau academaidd ar y dudalen hon i roi newyddion ymchwil, newyddion myfyrwyr a newyddion cyffredinol am y brifysgol i chi.