Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

OneDrive - Creu, Golygu a Rhannu Ffeiliau Ar-lein

OneDrive for Business yw'r llwyfan storio ar-lein y mae Prifysgol Bangor yn ei gefnogi. Mae'n rhan o Office 365 sydd hefyd yn darparu gwasanaethau e-bost a chalendr Prifysgol Bangor. Gyda Onedrive for Business mae modd gweld yr holl ddogfennau sydd gennych wedi'u storio o unrhyw gyfrifiadur sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd. Mae OneDrive yn cynnig 1Tb o ofod storio i bob defnyddiwr y gellir cael mynediad ato o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd. Gallwch rannu ffeiliau’n gyflym ac yn rhwydd gyda phobl eraill ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.

Mae OneDrive for Business yn gysylltiedig â'ch cyfrif Prifysgol ac yn annibynnol ar unrhyw gyfrif OneDrive personol sydd gennych chi.

Canllawiau Diogelwch Gwybodaeth wrth Ddefnyddio Onedrive for Business

  • Mae storfa Office365 yn y cwmwl yn cydymffurfio â Pholisi Diogelwch GwybodaethPrifysgol Bangor
  • Ar y cyfan ni ddylid cadw data am fwy na phum mlynedd, gweler y polisïau cadw data
  • Mae Microsoft yn sicrhau bod yr holl ddata a gedwir yn Office 365 yn cael ei gadw yn unol â nifer o safonau diogelwch data ac amgryptio. Os byddwch yn rhannu data gydag eraill eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau na chaiff y data hwn ei ryddhau i drydydd parti heb awdurdod o ganlyniad i ddefnyddio dulliau trosglwyddo anghywir, neu trwy ei rannu'n anghywir. Mae'r holl ddull storio yn cydymffurfio â'r rheoliadau Diogelu Data newydd - Y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
  • Gall defnyddwyr gliniaduron wedi'u hamgryptio a reolir gan y brifysgol ddefnyddio cleient cysoni Onedrive for Business i gysoni data rhwng y cwmwl a'ch gliniadur. Ni chaniateir cysoni data o'r cwmwl i gyfrifiaduron bwrdd gwaith o dan y polisi diogelwch data gan nad ydynt wedi'u hamgryptio.
  • Yn yr Ystafelloedd Mynediad Agored ac yn y Darlithfeydd, ni fydd y cleient cysoni ar gael oherwydd cyfyngiadau storio lleol a mynediad cyffredin at ddata.
  • Am resymau diogelwch data, dim ond ar gyfarpar sy'n eiddo i Brifysgol Bangor y bydd OneDrive Sync ar gael ac o'r herwydd nid yw ar gael ar beiriannau sy'n eiddo i fyfyrwyr neu staff. Nid yw'r nodwedd hon ar gael ar ddyfeisiau MacOS ar hyn o bryd. Mae Microsoft ac Apple yn ymwybodol o hyn a disgwylir i hyn gael ei ddatrys yn y fersiynau nesaf. Rydych chi'n dal i allu defnyddio'r rhyngwyneb gwe i gael mynediad at ffeiliau Onedrive o unrhyw borwr
  • Gellir gweld rhestr gyflawn o gyfyngiadau technegol wrth ddefnyddio Onedrive for Business yma:
  • Pan gaiff data ei ddileu, bydd gennych 30 diwrnod i adfer y data o fersiynau blaenorol Office 365, ni chedwir copi wrth gefn o'r data ar ôl hynny
  • Wrth gydweithio ag eraill, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau mai dim ond pobl sydd wedi eu hawdurdodi i weld y data sy'n ei dderbyn, a sicrhau eu bod yn cael gwybod am unrhyw faterion diogelu data a / neu gyfrinachedd, ac unrhyw gyfyngiadau sy'n effeithio ar y data.

Manteision Defnyddio OneDrive for Business

  • 1Tb o ofod storio ar gyfer ffeiliau o unrhyw fath. Mae'r storfa hon yn ddiogel, yn gadarn a chaiff copïau wrth gefn eu cadw. Mae hyn yn cyfateb i 200 DVD, neu i tua 1 miliwn o ffeiliau testun.
  • Mae OneDrive for Business ar gael o unrhyw le cyn belled â bod gennych gysylltiad â'r rhyngrwyd
  • Bydd unrhyw ffeiliau sy'n cael eu creu ar-lein yn Office yn defnyddio'ch dyfeisiau symudol yn cael eu cysoni'n awtomatig i OneDrive.
  • Mae'r ffeiliau ar gael ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys tabledi a ffonau, a gellir eu gweld trwy ddefnyddio'r darllenwyr ar-lein sydd wedi eu darparu heb fod angen lawrlwytho neu osod unrhyw feddalwedd ychwanegol
  • Gellir rhannu ffeiliau gyda chydweithwyr yn y brifysgol a thu hwnt i'r brifysgol.
  • Gellir rhannu ffeiliau a ffolderi gyda chyd-fyfyrwyr a staff a gall sawl person eu golygu ar yr un pryd.
  • Gellir adfer ffeiliau neu newid yn ôl i fersiynau blaenorol yn hawdd. Mae gwerth 30 diwrnod o gopïau wrth gefn yn cael eu cadw ar-lein gan Microsoft. Does DIM copïau wrth gefn yn cael eu cadw ar ôl hynny.
  • Chi sy'n rheoli mynediad at eich ffeiliau trwy wahodd unigolion yn defnyddio eu cyfeiriad e-bost. Os ydych chi'n gweithio fel rhan o dîm project strwythuredig mae Microsoft Teams hefyd ar gael. Os credwch y gallai hynny fod yn ateb gwell i chi, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth TG i ofyn am gyngor.
  • Os ydych chi'n defnyddio gliniadur Windows 10 sy'n cael ei reoli gan y brifysgol, bydd unrhyw ffeiliau sydd wedi'u cadw yn Dogfennau, neu ar y Bwrdd Gwaith yn cael eu cysoni â OneDrive a bydd modd cael mynediad atynt o unrhyw ddyfais arall. Anfonir manylion pellach at ddefnyddwyr gliniaduron.
  • Yn ogystal â'r lleoliadau uchod gallwch ddewis cysoni ffeiliau eraill trwy eu symud i mewn i ffolder Onedrive Bangor ar eich gliniadur.
  • Dylai Onedrive for Business olygu nad oes angen i'r rhan fwyaf o bobl ddefnyddio cof bach ar ffon USB. Mae nifer o fanteision o fedru gwneud hynny gan gynnwys gwydnwch ac amgryptio. Dim ond er mwyn storio rhywbeth yn y tymor byr wrth symud data o un ddyfais i un arall y dylid defnyddio cof bach.
  • Mae'r holl ddata wedi ei amgryptio trwy'r amser

Dyma'r pethau y dylid defnyddio OneDrive for Business ar eu cyfer

  • Storio dogfennau y gallech fod eisiau gweithio arnynt pan nad ydych yn y brifysgol.
  • Cysoni data sy'n cael ei storio ar liniaduron neu ddyfais symudol sy'n cael eu rheoli gan y brifysgol fel bod y data'n ddiogel pe baech yn colli'r ddyfais.
  • Creu a storio dogfennau rydych chi'n cydweithio arnynt ar sail ad hoc. Gallai hynny fod â chydweithwyr mewnol neu â chydweithwyr y tu allan i Brifysgol Bangor. Mae'n arbennig o ddefnyddiol gyda dogfennau Office y gellir eu golygu ar-lein.
  • Creu copïau lleol wedi eu cysoni o'ch OneDrive - dim ond ar liniaduron sy'n cael eu rheoli gan y brifysgol. Os ydych yn cysoni â gliniadur mae'n rhaid bod y ddyfais wedi ei hamgryptio yn unol â Pholisi Diogelwch y Brifysgol.
  • Storio ffeiliau mawr, gan gynnwys fideo a lluniau, y byddent, yn hanesyddol, wedi cael eu storio ar yriannau allanol neu eu storio ar y rhwydwaith.
  • Mae ffeiliau Microsoft Office a grëwyd yn Office 2016 wedi eu cynllunio'n arbennig i gael eu storio yn Onedrive for Business

Dyma'r pethau na ddylid defnyddio OneDrive for Business ar eu cyfer

  • Ni ddylai gymryd lle eich gyriant M. Mae eich gyriant M yn parhau i fod yn ateb gwell os ydych chi'n gweithio gyda data y mae arnoch angen mynediad cyflym ato.
  • Ni allwch osod meddalwedd, na data rhaglenni ar OneDrive for Business.
  • Nid yw'n addas i'w ddefnyddio fel ffordd o beidio rhannu dogfennau ar y gyriant U, fodd bynnag, efallai y byddai Microsoft Teams yn ffordd addas o wneud hynny. Pe byddwch yn hoffi defnyddio Microsoft Teams, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth TG i asesu a fyddai hynny'n briodol.

OneDrive a'ch Gliniadur

Os ydych yn defnyddio gliniadur Windows 7, mae angen ei ddiweddaru i Windows 10. Mae llawer o fanteision i'w cael o wneud hynny yn ychwanegol at y ffaith eich bod yn cael cynnig Onedrive. Mae System Weithredu Windows 10 yn gyflymach, ac mae'n defnyddio amgryptio caledwedd brodorol er mwyn lleihau'r effaith ar y perfformiad. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth TG i drefnu i uwchraddio eich gliniadur i Windows 10. Bydd hyn fel arfer yn cymryd rhwng 3 a 5 diwrnod. Gallwch fenthyg gliniadur tra bod eich gliniadur chi yn cael ei amgryptio.

Ydy OneDrive for Business yr un peth â OneDrive

  • Nac ydy. Maen nhw'n debyg ond nid yn union yr un fath. Mae'r ddau yn darparu lleoliad i chi storio'ch dogfennau, ond mae OneDrive for Business yn cynnig nodweddion cydweithio gwell.
  • Mae Onedrive for Business yn cynnig amgryptio o un pen i'r llall felly does dim risg o ryddhau data wrth ei drosglwyddo.
  • Ni fydd eich cyfrif OneDrive for Business Prifysgol Bangor yn cysoni â'ch cyfrif OneDrive personol.
  • Ni ddylech roi dogfennau sy'n ymwneud â Phrifysgol Bangor yn unrhyw storfa ar-lein heblaw am OneDrive for Business.

Sut alla i rannu ffeiliau gyda phobl eraill yn defnyddio OneDrive for Business

Y ffordd hawsaf o rannu ffeil yn OneDrive gyda phobl eraill yw e-bostio dolen atynt. Fel hyn does dim rhaid i bobl eraill dyrchu trwy'r holl ffeiliau eraill at yr un yr ydych chi eisiau ei rhannu â nhw. Cyfarwyddiadau manwl

Sut ydw i'n cael mynediad at OneDrive for Business

Gallwch gael mynediad at OneDrive ar unrhyw ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd trwy ddefnyddio porth ar-lein Office 365

  1. Mewngofnodwch yn mail.bangor.ac.uk
  2. Cliciwch ar y waffl (eicon grid) yng nghornel uchaf y sgrin ar y chwith
  3. Dewiswch OneDrive

Os ydych chi'n defnyddio gliniadur ar rwydwaith Prifysgol Bangor gallwch hefyd gael mynediad at eich ffeiliau trwy'r Cleient Cysoni a fydd wedi ei osod ar eich cyfrifiadur.

Gosod OneDrive for Business ar eich Dyfais Symudol

Gallwch gael mynediad at OneDrive for Business yn defnyddio'r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol (gan gynnwys rhai Windows, Android ac Apple). Gallwch weld cynnwys eich OneDrive a'ch ffeiliau yn defnyddio unrhyw un o'r dyfeisiau hyn cyhyd â bod darllenydd wedi'i osod ar eich dyfais. Dylech osod yr ap OneDrive for Business o'r siop apiau briodol.

Chwiliwch am Microsoft OneDrive

Wrth ei ffurfweddu dylech sicrhau eich bod yn dewis "Work / School Account" ac yn defnyddio <enwdefnyddiwr>@bangor.ac.uk fel eich cyfeiriad e-bost, ni fydd eich enw amgen yn gweithio.

Defnyddio OneDrive for Business yn hytrach na Dropbox

Mae llawer o ddefnyddwyr ar draws y Brifysgol wedi bod yn defnyddio Dropbox neu Dropbox Professional ers sawl blwyddyn. Mae'n rhaid talu am y gwasanaeth hwnnw.

Mae OneDrive yn cynnig nifer o nodweddion Dropbox ac mae wedi ei gynnwys fel rhan o'r pecyn Office 365 sydd eisoes gennym. Rydym yn annog y rhai sy'n defnyddio Dropbox i symud eu holl ddata o Dropbox i OneDrive for Business.

Os oes gennych lawer o ddata yn Dropbox, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth TG gan fod dull wedi ei awtomeiddio y gallwn ei ddefnyddio i'ch helpu.

I wneud hyn:

  • Agorwch Dropbox mewn ffenestr File Explorer
  • Agorwch OneDrive yn Chrome neu Edge (wrth ddefnyddio'r porwyr hyn bydd modd i chi gopïo ffolderi yn ogystal â ffeiliau)
  • Llusgwch y ffeiliau a'r ffolderi o Dropbox i OneDrive.
  • Gadewch i'r data gysoni. Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, bydd unrhyw ffeiliau y methwyd â'u trosglwyddo yn cael eu rhestru yn y ffenestr OneDrive gan nodi'r rheswm.

Ychwanegu Ffolderi i'ch Llyfrgell OneDrive for Business (Gliniaduron Windows 7 sy'n cael eu rheoli gan Brifysgol Bangor)

Rydym yn argymell bod defnyddwyr gliniaduron Windows 7 yn cysylltu â'r Gwasanaeth Cymorth TG i gael uwchraddio eu gliniaduron i Windows 10

Dim ond ffolderi sydd wedi'u cadw yn &cwotOneDrive Prifysgol Bangor" fydd yn cael eu cysoni. Ni chaiff unrhyw ffolder arall ei chysoni â'r cwmwl ac felly ni fyddent yn ddiogel pe bai'r caledwedd yn methu neu pe bai ffeiliau'n mynd ar goll.

Rydym yn argymell bod eich Dogfennau / Lluniau / Bwrdd Gwaith yn cael eu hychwanegu at lyfrgell OneDrive i sicrhau bod eich data'n cael ei gysoni.

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y drefn hon eich hun dim ond os ydych chi'n hapus gyda'r camau isod. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth TG pan fydd eich gliniadur wedi ei gysylltu â'r rhwydwaith ac yna bydd modd iddyn nhw wneud hyn ar eich rhan.

  • Agorwch Computer / File Explorer
  • Ewch i'ch ffolder OneDrive lleol - C:\Users\<enwdefnyddiwr>\OneDrive - Prifysgol Bangor
  • Crëwch ffolder o'r enw Cysoni Gliniadur
  • Yn y ffolder hon, crëwch Bwrdd Gwaith, Dogfennau a Lluniau
  • Caewch y goeden hon
  • Cliciwch â botwm dde'r llygoden ar y ffolder yr ydych eisiau ei hadleoli (e.e. Dogfennau)
  • Priodweddau
  • Dewiswch y tab "Lleoliad"
  • Newidiwch enw'r ffolder i gynnwys lleoliad OneDrive Prifysgol Bangor "C:\Users\<enwdefnyddiwr>\OneDrive - Prifysgol Bangor \" e.e. Bydd Dogfennau yn newid o "C:\Users\<enwdefnyddiwr>\Dogfennau" i "C:\Users\<enwdefnyddiwr>\OneDrive Prifysgol Bangor\Dogfennau"
  • Cliciwch Iawn pan ofynnir i chi.

Bydd pob ffeil a ffolder nawr yn cael eu cysoni y tro nesaf y bydd eich gliniadur yn cysylltu â'r Rhyngrwyd. Bydd tic gwyrdd yn dangos bod hyn wedi digwydd.

 

Hafan

  • Gwasanaethau TG
    • Hafan
    • Dechrau Arni
    • Ein gwasanaethau
      • Office 365 E-bost, Calendr ac Apiau eraill
      • Printio / Copïo a Sganio
      • Gweithio i ffwrdd o’r Campws
      • Meddalwedd
      • Di-Wifr
      • Storio Ffeiliau a chopiau wrth gefn
      • FyMangor
      • Offer TG
      • Gofodau Dysgu & Addysgu
      • Diogelwch
      • Ffonau
      • Technoleg Dysgu
      • Fideo-gynadledda a Chyfarfodydd Ar-lein
      • Systemau Busnes y Brifysgol (ar gyfer Staff)
      • Gwasanaethau Technegol TG / Ceisiadau Project
      • Cefnogaeth Ymchwil & Rheolaeth Data
      • Hyffordiant TG ar gyfer Staff
    • Sut i gael cymorth TG
    • Newyddion
    • Polisïau, Gweithdrefnau, Cynlluniau TG
    • Amdanom ni
    • Cysylltu
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor