Argraffu o un o gyfrifiaduron  neu liniaduron y brifysgol

Argraffu i unrhyw un o beiriannau argraffu Sharp y brifysgol

Argraffu o unrhyw un o gyfrifiaduron neu liniaduron y brifysgol, hynny yw peiriant mewn unrhyw adeilad yn y brifysgol sydd â chebl rhwydwaith yn sownd iddo (Dim Wi-Fi).  Dangosir canllaw cymorth cyflym wrth ochr pob peiriant argraffu.

  • Dewiswch File ac yna Print (neu Control + P)
  • Argraffu mewn du a gwyn ar ddwy ochr y papur yw'r gosodiad diofyn i'r holl beiriannau argraffu Sharp
  • Newid y gosodiadau os oes angen: - newid y gosodiadau ar gyfrifiadur Windows - newid y gosodiadau ar Mac
  • Gwnewch yn siwr mai Sharp on Print-prnps neu \\print-prnps\Sharp yw enw'r peiriant argraffu.
  • Pwyswch naill ai Print neu OK, yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych yn ei defnyddio.
  • Ewch i unrhyw argraffydd Sharp, cyflwynwch eich cerdyn myfyriwr coch/eich cerdyn adnabod myfyriwr i'r teclyn darllen, a bydd eich dogfen yn cael ei hargraffu.

Cyfeiriwch at y Canllaw ar-lein i gael rhagor o wybodaeth a nodweddion uwch.