Skype for Business

Offeryn cyfathrebu a chydweithio yw Skype for Business sy'n cael ei osod yn awtomatig ar holl gyfrifiaduron personol staff yn y brifysgol ac ar holl liniaduron staff y brifysgol fel rhan o Microsoft Office 365.

Sylwch: Mae Skype for Busines a fersiwn cartref Skype yn wahanol.

Gyda Skype for Business gallwch gyfathrebu gyda chydweithwyr a grwpiau gwaith gan ddefnyddio Negeseua Sydyn (Instant Messenging), gwneud galwad llais neu fideo neu gynnal cyfarfod ar-lein. Pan fyddwch wedi mewngofnodi i Skype for Business mae'n defnyddio Presence i ddangos i gydweithwyr sydd wedi mewngofnodi eich bod ar gael, yn brysur neu i ffwrdd ac yn methu ateb.

Dyma rai o'r prif nodweddion:

  • Negeseua sydyn gyda chydweithwyr
  • Nodi eich presenoldeb fel y gall pobl eraill weld yn syth
  • Defnyddio’r cyfeiriadur cysylltiadau Bangor i ddod o hyd i bobl i gysylltu â nhw - nid oes angen cofio enwau defnyddwyr Skype
  • Cydraniad fideo 1080P llawn (gyda gwe-gamerâu cydnaws)
  • Integreiddio i system ebost a chalendr Outlook - yn ddefnyddiol i drefnu cyfarfodydd Lync 
  • Cynadledda â phobl heb unrhyw feddalwedd benodol wedi ei osod