Mannau Addysgu a Dysgu

Cyfleusterau clywedol neu gyfrifiadur diffygiol?
Os ydych chi'n gweld cyfrifiadur neu ddarn o offer clywedol diffygiol, rhowch wybod i ni amdano fel y gallwn ei drwsio cyn gynted ag y bo modd!
Gwneud cais am Gynhadledd Fideo
Mae'r Brifysgol yn cynnig yr opsiynau canlynol ar gyfer fideo-gynadledda:
- Prif Ystafelloedd Fideo-gynadledda
- Ystafelloedd Cynadledda Caniatâd Blaenorol (Adrannol)
- Fideo-gynadledda Bwrdd Gwaith
- Addysgu 'wyneb yn wyneb' o bell i grwpiau yn y Brifysgol a’r tu allan
- Telegynadledda (sain)
Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol
Meddalwedd ac offer cynorthwyol i ddefnyddwyr ag anableddau. Mae gan y brifysgol ddwy Ystafell Technoleg Cynorthwyol (ATRs); un yn Llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau, ac un yn Llyfrgell Deiniol.