Syniadau Da wrth weithio gartref
A ydych chi'n defnyddio Meddalwedd ADOBE (Creative Cloud), Matlab neu Texthelp Read and Write?
Os ydych chi, mae datblygwyr y meddalwedd yn cynnig trwyddedau gweithio gartref i holl aelodau'r Brifysgol trwy gydol y pandemig Covid-19. Os oes angen mynediad at un o'r tri arnoch chi, e-bostiwch y ddesg gymorth i wneud cais.
CYSGLIAD - Caiff holl Staff Bangor osod Cysgliad ar eu cyfrifiaduron personol
Gall yr holl staff osod Cysgliad trwy gofrestru eu cyfrif gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost Bangor - https://www.cysgliad.com/en/download-cysgliad/
A yw'n hen bryd i chi symud eich gyriant U i Teams neu'ch gyriant M i OneDrive?
- Os ydych chi'n symud nifer fach o ffeiliau (<200) o'r gyriant U i Teams, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r Teams client neu office.com trosoch eich hun trwy ddewis yr opsiwn uwchlwytho sydd yn Ffeiliau. Gweler y Fideo
- Os ydych chi am symud sawl ffolder a ffeil o U i Teams, mi wnaiff y Gwasanaethau TG hynny drosoch chi (PEIDIWCH CHI Â CHEISIO GWNEUD HYNNY).Logiwch achos gyda'r ddesg gymorth gan roi'r manylion a byddwn mewn cysylltiad i drefnu amser.
Er mwyn medru symud popeth ar eich rhan chi bydd angen bod yr holl ffeiliau ar gau gan bawb sy'n eu defnyddio. - Symud data o'ch gyriant M i OneDrive, gellir symud niferoedd bach, <200 ffeil neu 3 ffolder o ffeiliau, trwy ddefnyddio'r staff Desktop ar Desktop Anywhere. Cofiwch y bydd angen i chi ganiatáu amser i'r ffeiliau uwchlwytho. Os bydd angen i chi symud mwy bydd angen i chi wneud hynny mewn sawl trosglwyddiad. Os ydych chi'n ansicr ynghylch symud y ffeiliau eich hun, gall y Gwasanaethau TG eu symud drosoch chi. Os hoffech iddynt symud eich ffeiliau logiwch achos gyda'r ddesg gymorth.
Defnyddio Teams ar gyfer mynediad at Ffeiliau a Chyfathrebu
DOES DIM ANGEN DesktopAnywhere i ddefnyddio Teams. Mae'r ap neu office.com yn cynnig rhyngwyneb glân a defnyddiol ar gyfer Teams, gan gynnwys mynediad at eich holl ffeiliau, sgyrsiau a galwadau. Mae'n fodd ichi gadw cysylltiad â'ch cydweithwyr (gan gynnwys pobl allanol) a chithau'n gweithio i ffwrdd o'r swyddfa. Os nad oes gennych feddalwedd diweddaraf Microsoft Office 365 (Word, Excel ac yn y blaen) ar eich cyfrifiadur gartref mi allwch chi lawrlwytho hwnnw hefyd o office.com
Diogelwch TG
Er ein bod ni'n gweithio mewn gwahanol leoliadau, mae angen bod yn ystyriol o Ddiogelwch TG ar bob adeg. Mae troseddwyr eisoes yn targedu pobl yn ystod y cyfnod hwn i geisio cael mynediad at ddata neu fanylion. Cofiwch ddarllen y negeseuon y mae'r Gwasanaethau TG yn eu hanfon yn gyngor i bawb.
Cofiwch ddefnyddio Technoleg Bangor i Gyfathrebu â'ch Cydweithwyr
Dewiswyd y systemau sy'n gymeradwy gan y Gwasanaethau TG, sef OneDrive, Teams, Chat ac yn y blaen ar ôl eu hymchwilio'n drylwyr o ran sefydlogrwydd a diogelwch a'u cymeradwyo er cydymffurfiaeth. Peidiwch â dibynnu ar ddulliau cyfathrebu neu gyflwyno eraill yn ystod yr amser hwn. Gallai hynny beri rhyddhau cyfathrebiadau neu ddata Bangor i lwyfannau di-gefnogaeth neu anniogel.
Defnyddio Teams a Blackboard yr un pryd
Bellach mae gan bob modiwl Blackboard safle Teams sy'n gysylltiedig â nhw. Mae cysylltiadau â'r Tîm wedi'u postio i hysbysiadau modiwl Blackboard er hwylustod. Mae safleoedd Teams wedi'u paratoi ymlaen llaw yn barod i'w defnyddio gan y darlithwyr a'r myfyrwyr. Mae croeso i chi ychwanegu aelodau eraill at eich Tîm heb orfod eu hychwanegu trwy Blackboard.
'Amser Tawel' a Hysbysiadau Teams
Mae yna lawer o opsiynau o fewn Microsoft Teams i sicrhau mai dim ond yn ystod eich oriau dewisol y cewch eich hysbysu neu y gellir cysylltu â chi. Mae esboniad o'r holl opsiynau yng nghanllawiau'r hysbysiadau
Cefndiroedd Teams
Mae cefndiroedd corfforaethol ar gael bellach i'w defnyddio mewn cyfarfodydd Teams
Ffyrdd gwell o Ddefnyddio Teams os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae'r Rhyngrwyd yn wael
Nid oes gan bawb ryngrwyd cyflym. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae'ch cysylltiad yn araf mae yna rai canllawiau cyffredinola allai helpu.
Syniadau Da ar gyfer DesktopAnywhere
- Ar “Workspace” “ORACLE Secure Global Desktop”, cliciwch y cyswllt i’r gwasanaeth yr ydych ei angen unwaith yn unig. Os cliciwch ddwywaith, byddwch yn dechrau dwy sesiwn ar yr un pryd a gall hynny arwain at broblemau gyda’ch gosodiadau.
- Weithiau gall Bwrdd Gwaith Myfyrwyr a Bwrdd Gwaith Staff Prifysgol Bangor aros ar sgrin ddu am sawl munud – byddwch yn amyneddgar, bydd y bwrdd gwaith yn ymddangos yn y pen draw fel arfer. Bydd clicio ar y cyswllt eto yn dechrau sesiwn arall ac yn debygol o wneud pethau’n waeth.
- Os ydych yn defnyddio’r Bwrdd Gwaith Myfyrwyr neu’r Bwrdd Gwaith Staff, dylech allgofnodi – cliciwch yr eicon “pen ac ysgwyddau” uwchben y botwm Dechrau – pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith. Bydd hyn yn sicrhau bod eich gosodiadau’n cael eu cadw’n iawn. Yna gallwch glicio allgofnodi yn y ffenestr “ORACLE Secure Global Desktop”. Os byddwch yn cau’r ffenestr Bwrdd Gwaith Staff/Myfyrwyr gyda’r X yn y gornel dde uchaf, bydd hyn yn eich datgysylltu chi ac efallai na fydd eich gosodiadau’n cael eu cadw.
- Mae’r ffenestr bwrdd gwaith a grëir fel arfer yn ymddangos ar “primary display” y cyfrifiadur rydych yn eistedd o’i flaen. Os oes gennych liniadur gyda sgrin allanol fwy efallai y byddai’n well gwneud y sgrin allanol yn “primary display”. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych gysylltiad MyDesktop – bydd y ffenestr bwrdd gwaith yn cael ei chwyddo ar y “primary display”. Gweler y cyfarwyddiadau.
- Os ydych yn cysylltu â DesktopAnywhere trwy agor “Oracle Secure Global Desktop Client” o’r ddewislen dechrau neu lwybr byr (oherwydd anawsterau wrth ei ddefnyddio yn y gorffennol) edrychwch ar y canllaw cysylltu yn /itservices/desktopanywhere/ gan fod defnyddio’r cleient o’r sgrin fewngofnodi yn llawer symlach nag yr arferai fod. Mae hyn yn arbennig o bwysig os mai’r gweinydd a gynigir yn y cleient yw connect-gw1 neu connect-gw2 gan y bydd y rhain yn cael eu diffodd yn fuan.