Fideo Gynadledda
Mae fideo gynadledda yn galluogi cyfathrebu a chydweithio gyda chyfranogwyr o unrhyw le yn y byd. Mae nifer o fanteision i gyfathrebu fel hyn:
- Mae’n arbed amser ac arian o ran teithio
- Gellir cydweithio gyda sefydliadau eraill ar draws y byd
- Gellir cymryd rhan mewn cyfarfodydd, cyfweliadau, seminarau, addysgu rhithwir
- Manteision amgylcheddol
Mae’r Brifysgol yn cynnig y dewisiadau canlynol ar gyfer fideo-gynadledda:
- Defnyddio Galwadau Teams (a ddefnyddir yn gyffredin)
- Prif Ystafelloedd Fideo-gynadledda (ar gyfer cyfarfodydd grŵp mawr gan ddefnyddio technoleg fideo-gynadledda "draddodiadol" – heb ei defnyddio'n gyffredin)
Prif Ystafelloedd Fideo Gynadledda:
-
Bangor-Stryd y Deon (Ystafell fideo gynadledda yn yr adeilad Cymraeg i Oedolion)
Bangor-Thoday (Thoday Bld, ystafell G7)