Cysylltu gyda Wi-Fi (Eduroam)
Staff a Myfyrwyr
Mae Wi-fi ar gael ar draws y campws ac ym mhob neuadd breswyl, ac mae’n hawdd iawn cysylltu i ddefnyddio Eduroam.
Cysylltu consolau gemau a dyfeisiau eraill mewn neuaddau preswyl
Dylid cysylltu consolau a dyfeisiau eraill megis ffyn cyfryngau / e-ddarllenwyr i’r rhwydwaith diwifr ResNet.
Bydd angen allwedd arnoch i ymuno â’r rhwydwaith hwn – cliciwch ar y botwm ‘Cysylltu â Resnet’ isod.
Gellir defnyddio allweddi ar hyd at dair dyfais, ac mae angen eu hadnewyddu bob blwyddyn.

Cysylltu eich cyfrifiadur Windows gyda’r rhwydwaith gwifredig mewn neuaddau
I gysylltu eich Windows PC at y rhwydwaith gwifredig yn eich ystafell, bydd angen i chi lawrlwytho a rhedeg yr offeryn perthnasol i’ch fersiwn o Windows.
Argraffu diwifr ar gyfer Staff a Myfyrwyr
Argraffwch i unrhyw un o argraffwyr y Brifysgol yn ddiwifr dros y rhyngrwyd. Y ffordd hawsaf yw cysylltu â Phorth Argraffu’r Brifysgol – Everyone Print (E-print).
Ymweld â Pontio?
Os ydych chi’n ymweld â Pontio, efallai y byddwch am gysylltu â gwasanaeth rhwydwaith ‘Y Cwmwl’.
Defnyddio Eduroam i gysylltu â sefydliadau eraill y DU
Gellwch hefyd gysylltu ag Eduroam mewn sefydliadau eraill ar draws y DU a thramor. Darperir Eduroam yn y DU gan JANET, rhwydwaith cyflym iawn ar gyfer cymuned ymchwil ac addysg y DU – mae gwefan JANET yn darparu rhestr o sefydliadau’r DU sy’n cynnig gwasanaeth eduroam.
Defnyddio Eduroam ledled y byd
Ar ôl cychwyn yn Ewrop, mae eduroam wedi ehangu’n gyflym drwy’r gymuned ymchwil ac addysg, a bellach, mae ar gael mewn 80 o wledydd ar draws y byd.
Wrth ddefnyddio eduroam, rhaid i chi gadw at Bolisïau Defnydd Derbyniol Prifysgol Bangor, JANET a’r safle yr ydych yn ymweld ag ef.