Mynediad i Blackboard
Gellir mynd at Blackboard o ble bynnag yr ydych yn gweithio cyn belled â bod gennych gysylltiad â'r rhyngrwyd.
Os ydych yn defnyddio dyfais symudol i gael mynediad at Blackboard rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho ap Blackboard i'ch dyfais symudol o'r siop apiau briodol. Mae'r ap symudol ar gael i staff a myfyrwyr heb unrhyw gost. Gall hyfforddwyr ar Blackboard hefyd lawrlwytho'r ap Hyfforddwr o'r siop apiau.