Mynd at eich storfa yn y cwmwl o unrhyw le
Defnyddiwch OneDrive ar gyfer Busnes a Teams i Greu, Storio, Golygu a Rhannu Ffeiliau Ar-lein
Mae Prifysgol Bangor yn argymell defnyddio Onedrive a Teams i storio'r rhan fwyaf o'ch data. Mae Onedrive yn disodli gyriant M, mae Teams yn disodli gyriant U.
Os nad ydych eisoes wedi symud o yriant M i Onedrive rydym yn awgrymu eich bod yn ystyried gwneud hynny. Gellir mynd at Onedrive ar unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd ac mae'n cynnig llawer o fanteision. Mae mwy o wybodaeth am fanteision Onedrive ar gael ar we-dudalennau Onedrive
Y ffordd hawsaf o fynd at OneDrive a Teams yw teipio office.com yn y bar cyfeiriad yn eich porwr gwe. Os gofynnir i chi fewngofnodi gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis defnyddio eich cyfrif Gwaith/Ysgol a defnyddio <username> @ bangor.ac.uk fel eich cyfeiriad e-bost, ni fydd eich enw arall yn gweithio.
Gallwch hefyd fynd at yr apiau o'ch e-bost ar-lein ar y we-dudalen, cliciwch yr “eicon waffl” (yn y gornel chwith uchaf) a dewis Teams neu OneDrive