
Modiwl CXD-2124:
O'r Llyfr i'r Llwyfan
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Manon Williams
Amcanion cyffredinol
O gychwyn cyntaf y traddodiad theatr Cymraeg a ddatblygodd er y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae testunau llenyddol wedi dylanwadu’n arw ar gwrs y ddrama. Bwriad y modiwl hwn yn trafod y broses o addasu testunau llenyddol ar gyfer y llwyfan. Bu addasiadau o nofelau Daniel Owen yn hynod boblogaidd, a man cychwyn priodol ar gyfer y modiwl hwn fydd fersiwn J.M. Edwards o Rhys Lewis. Ond yn ogystal â chynnig trawsolwg hanesyddol, bydd y modiwl hwn hefyd yn ystyried llu o faterion eraill, e.e. cymhellion yr addaswr, gweledigaeth yr awdur gwreiddiol ac un yr addaswr, y sialensau a wynebwyd wrth fynd ati i addasu, y cyfaddawdu a orfodir gan ystyriaethau ymarferol, pa mor glòs neu lac yw’r berthynas rhwng y llyfr gwreiddiol a’r addasiad llwyfan, swyddogaeth cyfarwyddwr. Amcenir at drafod amrediad o destunau, e.e. Rhys Lewis (Daniel Owen), Cysgod y Cryman (Islwyn Ffowc Elis), Te yn y Grug (Kate Roberts), Un Nos Ola Leuad (Caradog Prichard), a Bitsh! (Eirug Wyn). Ar sail astudiaeth o ddetholiad o destunau, bydd cyfle i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol mewn addasiad o waith llenyddol. Bydd y gwaith llenyddol y addesir gan yr ail a'r drydedd flwyddyn yn amrywio o ran her.
Cynnwys cwrs
Mewn cyfres o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a chyflwyniadau, bydd y modiwl hwn yn trafod y broses o addasu testunau llenyddol ar gyfer y llwyfan. Trafodir ystod o destunau gan wahanol awduron, o addasiad J.M. Edwards o Rhys Lewis gan Daniel Owen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd addasiad mwy diweddar Siôn Eirian o Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis ar gyfer y Theatr Genedlaethol. Bydd cyfle i glywed addaswyr a chynhyrchwyr yn trafod y sialensau a’u hwynebodd. Bydd cyfle hefyd i baratoi addasiad o waith llenyddol byr. Bydd y gwaith llenyddol y addesir gan yr ail a'r drydedd flwyddyn yn amrywio o ran her.
Meini Prawf
trothwy
D: Trothwy
- Dangos gallu i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg
- Dangos gallu i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu
- Dangos gallu i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir.
- Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.
- Dangos gallu i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol
da
B: Da
- Dangos gallu da i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg
- Dangos gallu da i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu
- Dangos gallu da i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir
- Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.
- Dangos gallu da i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol
ardderchog
A: Ardderchog
- Dangos gallu sicr i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg
- Dangos gallu sicr i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu
- Dangos gallu sicr i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir
- Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.
- Dangos gallu sicr i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol
Canlyniad dysgu
-
Sylweddoli rôl flaenllaw testunau llenyddol yn hanes mudiad y ddrama Gymraeg.
-
Adnabod priod nodweddion testunau dramatig a llenyddol.
-
Dadansoddi testunau o ddau wahanol gyfrwng a'u cymharu mewn modd deallus.
-
Gweithio’n annibynnol ac mewn grwpiau a chyflwyno syniadau’n raenus ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
Darllen yn annibynnol a phwyso a mesur y deunydd
-
Mewn traethawd, llunio trafodaeth ar addasiad llwyfan o nofel (na astudiwyd yng nghwrs y modiwl) gan ddadansoddi'r modd yr aethpwyd ati i'w haddasu ar gyfer y llwyfan.
-
Dadansoddi technegau addasu ar gyfer y llwyfan a'u cymhwyso mewn addasiad o waith llenyddol byr.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd 2800 o eiriau | 60 | |
GWAITH CWRS | Addasiad o waith llenyddol byr | 40 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 22 awr o ddarlithoedd (11 sesiwn x 2 awr yn ystod Wythnos 1-12) |
22 |
Workshop | 11 | |
Private study | 167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxd-2124.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)