Eich Gyrfa
Mae graddedigion y Gyfraith wedi mwynhau rhagolygon gyrfa rhagorol erioed. Mae ein graddau wedi’u cynllunio’n ofalus i ddatblygu law yn llaw â’r amgylchedd cyfreithiol sy’n newid yn barhaus, ac i roi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r medrau cyfreithiol sy’n ofynnol gan ddiwydiant sy’n dod yn fwyfwy byd-eang.
Yn yr amgylchedd gwaith cyfnewidiol sydd ohoni heddiw, caiff gradd LLB y Gyfraith ei gwerthfawrogi gan y byd busnes a chan ddiwydiant. Mae hyn yn golygu bod ein graddedigion yn mynd ymlaen i nifer o gyrchfannau.
Mae ein holl gynlluniau gradd LLB yn Raddau Cymhwysol yn y Gyfraith, sy’n golygu eu bod wedi’u cymeradwyo gan Gymdeithas y Gyfraith dros Gymry a Lloegr ac wedi’u cydnabod ar gyfer mynediad at yr hyfforddiant galwedigaethol proffesiynol sydd ei angen i ddod yn Gyfreithiwr neu’n Fargyfreithiwr. Mae ein rhaglenni Ôl-radd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd gyda chwmnïau cyfreithiol, sefydliadau rhyngwladol, llywodraeth leol, addysgu ac ymchwil.
Mae’r profiad academaidd a gynigir gan yr Ysgol wedi’i gyfoethogi gan raglen o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i annog myfyrwyr i gyflymu eu datblygiad personol ac i feithrin medrau a fydd yn rhoi mantais iddynt yn y farchnad swyddi sy’n dod yn fwyfwy cystadleuol.
Gyrfaoedd yn y Gyfraith
Mae’r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi ei rannu’n ddwy gangen, sydd ar wahân ac yn annibynnol. Mae cyfreithwyr yn cael eu rheoli’n broffesiynol gan Gymdeithas y Gyfraith tra bo Cyngor Cyffredinol y Bar (a elwir yn “Gyngor y Bar”) yn rheoli mynediad a chynnydd darpar fargyfreithwyr.
Os ydych yn bwriadu ymarfer y gyfraith fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, yna yn y lle cyntaf, bydd angen ichi wneud gradd LLB gyda statws Cymhwyso yn y Gyfraith. Ym Mangor mae ein graddau LLB i gyd yn raddau cymhwyso yn y gyfraith sy'n cael eu cydnabod gan Gymdeithas y Cyfreithwyr a Chyngor Bar Cymru a Lloegr a Chymdeithas Cyfreithwyr Iwerddon er dibenion proffesiynol yn y tair gwlad. Yna bydd angen ichi ymgymryd ag astudio a hyfforddiant gyrfaol pellach, fel a amlinellir isod.
Mynd yn gyfreithiwr
Ar ôl ennill gradd LLB, mae’n rhaid i fyfyrwyr sydd eisiau hyfforddi fel cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr lwyddo mewn Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) sy’n para blwyddyn gyda chontract hyfforddi i ddilyn. Mae gwybodaeth bellach am gymhwyso fel cyfreithiwr ar gael ar wefan Prospects.
Mynd yn fargyfreithiwr
I fynd yn fargyfreithiwr, mae'n rhaid i raddedigion wneud y cwrs blwyddyn, Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar (BPTC), yn cael ei ddilyn gan gyfnod o hyfforddiant a elwir yn dymor prawf. Mae cystadleuaeth ffyrnig am y BPTC a'r tymhorau prawf ac mae llawer o’r cwmnïau mawr yn recriwtio hyfforddeion yn syth o’u cynlluniau lleoli. Cewch ragor o wybodaeth am gymhwyso fel bargyfreithiwr ar wefan Bwrdd Safonau'r Bar.
Gyrfaoedd y tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol
Mae nifer fawr o opsiynau ar gael i raddedigion yn y gyfraith sydd yn dymuno dilyn gyrfa y tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol. Trwy astudio’r gyfraith mae myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth dda iawn o sgiliau trosglwyddadwy, e.e. cyfathrebu, datrys problemau, cyd-drafod a gwaith tîm.
Mae'r un faint o alw am sgiliau felly mewn meysydd megis gwaith cynghori (yn cynnwys cyngor ar les a thai), awdurdodau lleol (e.e. swyddogion safonau masnach), cyfrifeg (yn arbennig archwilio sy’n gofyn am fedrusrwydd ariannol a chyfreithiol), rheoli adnoddau dynol, Cyllid y Wlad, y Gwasanaeth Sifil (yn cynnwys Adran Yr Arglwydd Ganghellor), yr Heddlu, Newyddiaduraeth, a Rheoli Gwybodaeth.
Mae graddau LLB ‘ Y Gyfraith gyda’ Bangor hefyd yn galluogi myfyrwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau mewn meysydd pwnc eraill. Mae'r cynlluniau gradd hyn yn arbennig o addas i ymgeiswyr sy’n ystyried gyrfaoedd mewn meysydd gwaith y tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol.
Cefnogaeth gyda gyrfaoedd
Er mwyn manteisio i’r eithaf ar eu profiad yn y brifysgol, anogir myfyrwyr i wneud defnydd llawn o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd bywiog ac arloesol sydd yn y Brifysgol. Yn ogystal â chynnig arweiniad a gwybodaeth am yrfaoedd, mae’n cynnig rhaglen lleoliadau gwaith, siop swyddi, rhaglen entrepreneuriaeth a llwyth o adnoddau eraill.
Mae Ysgol y Gyfraith hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau a gweithgareddau i wella eich rhagolygon gyrfa - gwelwch ein tudalennau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd am wybodaeth bellach.
Cyrchfannau diweddar graddedigion
Yn ddiweddar, mae graddedigion o Fangor wedi cael gwaith neu gyfleoedd ar gyfer astudiaeth bellach yn rhai o’r sefydliadau isod:
- Lincoln’s Inn (Bar)
- Y Deml Ganol (Bar)
- Coleg y Gyfraith (Hyfforddiant ar gyfer Cyfreithwyr)
- Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi, Cyfreithiwr Trysorlys
- Bar Efrog Newydd
- Prifysgol Arizona
- Banc Shanghai
- Y Cenhedloedd Unedig
- Llywodraeth Prydain
- Gweinyddiaeth Datblygiad Cyfalaf Ffederal yn Nigeria
- Rheolaeth ar Fewnfudo
- Banc Cronfa Malawi
- Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
- Swyddfa’r Cabinet, Llundain
- Sefydliad Rhydychen dros Ymarfer Cyfreithiol (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol)
- Cyfreithwyr Wilson Browne
- Coleg y Gyfraith, Caer
- Cyfreithwyr Stephenson LLP
- Cyngor Gwynedd
- Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol yn y Bar)
- Comisiwn Henoed Cymru
- Marsden a Rawthorn
- Cyfreithwyr Edward Hughes
- Y Llu Awyr Brenhinol
- Cyngor Ar Bopeth
- Cyfreithwyr Cordner Lewis
- Tudur Owen Roberts Glynne a’r Cwmni
- Howell Davies a’r Cwmni
- Prifysgol Caer-wysg
- Ernst a Young (adran Cyfalaf Dynol)
- Monbus (adran gyfreithiol)
- FoxMandal Little
- Prifysgol Portsmouth
- Banc Canolog Llywodraeth Sindh