Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Cynhadledd Cyfraith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mis diwethaf, fe cafodd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y gyfraith o brifysgolion ar draws Cymru cyfle i fynychu cynhadledd cyfraith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd. Trefnwyd y gynhadledd gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gyfraith Bangor, Dr Hayley Roberts a Huw Pritchard, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.Huw Pritchard (cyntaf o'r chwith) a Dr Hayley Roberts (cyntaf o'r chwith, rhes cyntaf) gyda fyfyrwyr yn adeilad y Senedd, Bae CaerdyddHuw Pritchard (cyntaf o'r chwith) a Dr Hayley Roberts (cyntaf o'r chwith, rhes cyntaf) gyda fyfyrwyr yn adeilad y Senedd, Bae Caerdydd

Cafwyd sesiynau amrywiol gan gynnwys cyflwyniadau gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr proffesiynol oedd yn rhannu eu profiad o weithio yng Nghymru, ac o weithio drwy'r Gymraeg, gan roi cyngor i fyfyrwyr ynglŷn â sut i gychwyn eu gyrfaoedd cyfreithiol.

Cynhaliwyd sesiynau ymarferol gyda darlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar wahanol elfennau o'r gyfraith, gan gynnwys cyfraith teulu (Dr Hayley Roberts), cyfraith trosedd (Ffion Llewelyn, Prifysgol Aberystwyth) a chyfraith gyhoeddus (Manon George, Prifysgol Caerdydd). Cafwyd hefyd gyfle i ymweld â'r Senedd a dysgu mwy am waith cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan un o’i gyfreithwyr.

Rhoddwyd prif araith y gynhadledd gan Elwen Evans CF o Siambrau Iscoed, Abertawe, gyda chefnogaeth sefydliad Hywel Dda, Abertawe. Cafwyd araith hynod o angerddol oedd yn cyfleu pwysigrwydd y Gymraeg fel iaith cyfiawnder yng Nghymru gan greu argraff sylweddol ar y myfyrwyr a pawb oedd yn bresennol. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Gomisiwn y Gyfraith am eu hymgynghoriad presennol ar 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith yng Nghymru' oedd yn rhoi cipolwg i'r myfyrwyr ynglŷn â datblygiad y gyfraith yng Nghymru.

Dywedodd Nicola Roberts, un o'r myfyrwyr fynychodd y gynhadledd: “Cefais ddau ddiwrnod ardderchog yn y gynhadledd ac mae wedi atgyfnerthu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg os am swydd yng Nghymru. Dwi wedi cael hyder i'w defnyddio hi, er fy mod yn meddwl bod safon fy iaith ddim digon da ar hyn o bryd, ond dim ond wrth ddefnyddio'r iaith Gymraeg mae modd ei gwella. Felly rwyf am ymdrechu rŵan i ehangu fy ngeirfa Cymraeg”.

Dywedodd Dr Hayley Roberts: “Mae’n grêt ac yn galonogol iawn gweld cymaint o’n myfyrwyr Cymraeg yn mynd lawr i Gaerdydd i gymryd rhan, ac yn gwneud y gynhadledd yn llwyddiant. Diolch arbennig i’r Coleg Cymraeg am eu cefnogaeth ariannol, i’r holl siaradwyr am roddi yn haelionus eu hamser, ac i Huw Pritchard a Siôn Jobbins (Coleg Cymraeg) am eu gwaith caled”.

Mae pob modiwl craidd Ysgol y Gyfraith yn cael eu haddysgu yn ddwyieithog ac mae'r ysgol yn cynnig modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Gyfraith yn Gymraeg, Cyfraith Datganoli a Chyfraith y Môr. Mae nifer o gyrsiau'r Ysgol yn gymwys ar gyfer Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob cwrs yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaethau cymhelliant. Dyddiad cau nesaf ar gyfer gwneud cais ar gyfer ysgoloriaethau cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw 8 Mai 2015. Mae croeso i ddarpar fyfyrwyr gysylltu â Dr Hayley Roberts neu Huw Pritchard am fwy o wybodaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015