
Module CXC-2119:
Gweithdy Rhyddiaith
Module Facts
Run by School of Welsh and Celtic Studies
20 Credits or 10 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Prof Angharad Price
Overall aims and purpose
Mewn dosbarthiadau seminar byddir yn astudio'n fanwl enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg yn ogystal â darnau o draddodiadau llenyddol eraill (mewn cyfieithiad) - esiamplau y gall egin lenorion eu cymryd fel patrymau ar gyfer eu gwaith eu hunain. Y mae ymdrechu i ymgydnabod ag amrywiaeth o wahanol genres, dulliau a chonfensiynau llenyddol yn rhan hollbwysig o ddatblygiad pob llenor. Rhoddir y prif sylw i ystyriaethau megis ffurfiau llenyddol a chrefft y llenor. Byddir yn tynnu sylw at nifer o ddamcaniaethau beirniadol ynghylch perthynas llenor â'i waith, a pherthynas y gwaith hwnnw â chynulleidfa. Gosodir tasgau wythnosol yn y seminarau, a chynhelir dosbarthiadau tiwtorial er mwyn trafod cynnyrch a chynnydd gwaith y myfyrwyr. Cymar i'r modiwl hwn yw 'Gweithdy Barddoniaeth'.
Course content
Mewn dosbarthiadau seminar byddir yn astudio'n fanwl enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg yn ogystal â darnau o draddodiadau llenyddol eraill (mewn cyfieithiad) - esiamplau y gall egin lenorion eu cymryd fel patrymau ar gyfer eu gwaith eu hunain. Y mae ymdrechu i ymgydnabod ag amrywiaeth o wahanol genres, dulliau a chonfensiynau llenyddol yn rhan hollbwysig o ddatblygiad pob llenor. Rhoddir y prif sylw i ystyriaethau megis ffurfiau llenyddol a chrefft y llenor. Byddir yn tynnu sylw at nifer o ddamcaniaethau beirniadol ynghylch perthynas llenor â'i waith, a pherthynas y gwaith hwnnw â chynulleidfa. Gosodir tasgau wythnosol yn y seminarau, a chynhelir dosbarthiadau tiwtorial er mwyn trafod cynnyrch a chynnydd gwaith y myfyrwyr. Cymar i'r modiwl hwn yw 'Gweithdy Barddoniaeth'.
Assessment Criteria
threshold
Dylai'r traethawd ddangos cynefindra â'r syniadau beirniadol a drafodwyd ac â nifer dda o awduron, testunau a genres, ynghyd â gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddigyblaeth, a gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilradd. Dylai'r gwaith creadigol amlygu dealltwriaeth o ofynion y cyfrwng dan sylw, gallu i gynllunio a datblygu syniadau, a dogn o wreiddioldeb a dychymyg. Yn y gwaith creadigol a'r gwaith dadansoddol dylid dangos gafael ar deithi'r Gymraeg a gallu i gymhwyso'r patrymau llenyddol a astudir at gyd-destunau creadigol a beirniadol. Dylai ymateb y myfyrwyr yn y dosbarthiadau tiwtorial amlygu gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill a pharodrwydd i gynnig barn bersonol.
good
Dylai'r traethawd amlygu gwybodaeth dda o'r testunau creadigol a beirniadol a astudir a hefyd am rychwant o awduron, testunau a genres mewn gwahanol gyfnodau. Dylai hefyd ddangos gallu i gasglu gwybodaeth ddefnyddiol o nifer fawr o ffynonellau, yn ysgrifenedig, llafar ac electronig. Dylai hefyd amlygu gafael dda ar dermau technegol y maes hwn. Dylai'r gwaith creadigol ddangos dealltwriaeth o'r cyfrwng dan sylw, gallu i ymdrin yn feirniadol â gwaith personol, gafael dda ar dechnegau arddull a strwythur, a chryn dipyn o wreiddioldeb a dychymyg. Yn y gwaith creadigol a'r gwaith dadansoddol dylid dangos gafael dda ar ramadeg y Gymraeg ynghyd â menter wrth gymhwyso'r patrymau llenyddol a astudir at gyd-destunau newydd. Dylai perfformiad y myfyrwyr yn y dosbarthiadau tiwtorial ddangos gallu i ymateb yn ddeallus i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl yn glir ac yn rhesymegol.
excellent
Dylai'r traethawd ddangos gwybodaeth drylwyr am rychwant eang o awduron, testunau a genres llenyddiaeth Gymraeg a rhai llenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad) mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth drylwyr ohonynt, a gallu aeddfed i'w cymharu â'i gilydd a'u gosod yn eu cyd-destunau hanesyddol a llenyddol priodol. Dylai hefyd amlygu gallu i gywain gwybodaeth ddadlennol o rychwant eang o ffynonellau ac i ddefnyddio'r wybodaeth honno'n dreiddgar. Dylai'r gwaith hefyd amlygu gafael gadarn ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth. Dylai'r gwaith creadigol ddangos meistrolaeth ar dechnegau arddull a strwythur, gwreiddioldeb a dychymyg anghyffredin wrth fynd i'r afael â phwnc, ynghyd â gallu datblygedig i drafod gwaith personol yn feirniadol adeiladol ac i sicrhau prifiant llenyddol o dasg i dasg. Yn y gwaith creadigol a'r gwaith beirniadol dylid amlygu gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg, a dawn i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau'r iaith mewn amryw gyd-destunau. Yn ogystal dylai'r gwaith ddangos dyfeisgarwch a pharodrwydd i arbrofi wrth gymhwyso'r patrymau llenyddol a astudir at sefyllfaoedd newydd. Dylai ymateb y myfyrwyr yn y dosbarthiadau tiwtorial ddangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed, ac i ddatblygu dadl estynedig yn ystyrlon ac yn effeithiol.
Learning outcomes
-
Dadansoddi'n feirniadol ddefnydd nifer o lenorion o wahanol gyfnodau a thraddodiadau llenyddol o iaith, delweddaeth genre ac ati.
-
Priodi'r profiad beirniadol a'r wybodaeth hanesyddol a enillwyd yn y modd hwn â chreadigolrwydd personol, a defnyddio'r enghreifftiau llenyddol a astudir fel ysbrydoliaeth a chyfarwyddyd yn eu gwaith creadigol a dadansoddol eu hunain.
-
Dehongli syniadau beirniadol traddodiadol a chyfoes yn ymwneud â'r drindod Llenor - Gwaith - Cynulleidfa, a phwyso a mesur defnyddioldeb y cysyniadau hyn i'r llenor ei hun.
-
Llunio darnau o waith creadigol amrywiol eu cynnwys a'u dull ac arnynt stamp unigolyddol.
-
Asesu'n feirniadol eu gwaith creadigol eu hunain er mwyn sicrhau eu datblygiad fel egin lenorion.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd | 50 | ||
Portffolio | 50 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | 2 awr darlith x 10 |
20 |
Seminar | 1 awr seminar x 10 |
10 |
Private study | 170 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Courses including this module
Compulsory in courses:
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
Optional in courses:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)