Mwy ar gyfer Mynediad Agored
- Pam cyhoeddi ar ffurf Mynediad Agored?
- Sut i gyhoeddi ar ffurf Mynediad Agored ?
- Cwestiynau cyffredin
Mynediad Agored
Beth Yw Mynediad Agored
Mae Mynediad Agored (OA) yn golygu bod ymchwil ysgolheigaidd ar gael am ddim ar-lein gydag ychydig o gyfyngiadau ar ei ailddefnyddio.
Yr ysgogiad am Fynediad Agored yw'r gred bod canlyniadau ymchwil er lles y cyhoedd a dylent fod ar gael i bawb, waeth beth fo'r gallu i dalu am fynediad. Ar y cyfan, bydd hyn yn golygu bod copïau wedi eu cymeradwyo (ôl-brint) o erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gyfoedion a thrafodion cynadleddau ar gael.
Mae dau brif lwybr i awduron sy'n dymuno cyhoeddi erthygl Mynediad Agored:
Mynediad Agored Aur - telir ffi i'r cyhoeddwyr i sicrhau bod y fersiwn cyhoeddedig terfynol ar gael am ddim, gan amlaf trwy eu gwefan
- Gellir cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolyn Mynediad Agored llawn, neu fel erthygl Mynediad Agored mewn cyfnodolyn tanysgrifio traddodiadol, er enghraifft Elsevier (a elwir yn cyhoeddi Mynediad Agored Cymysg).
- Yn aml mae cyhoeddwyr yn codi tâl prosesu (Article Processing Charge neu APC) ar erthyglau a dderbynnir er mwyn talu am gostau adolygu gan gyfoedion, paratoi testun, a chael lle ar y gweinydd.
Mynediad Agored Gwyrdd - mae awduron yn rhoi erthygl yn yr Ystorfa Sefydliadol (IR) neu drwy ystorfa ddisgyblaeth benodol fel ei bod ar gael am ddim.
- Gall hwn fod yn fersiwn sydd heb ei gymeradwyo (rhagbrint) na'i adolygu gan gyfoedion, ond fel rheol bydd yr awdur yn cyhoeddi ei waith mewn cyfnodolyn yn y ffordd draddodiadol ac yna'n rhoi'r fersiwn wedi ei gymeradwyo gan gyfoedion yn yr archif ei hun.
- Fel rheol ni chodir tâl am roi erthygl mewn Ystorfa Sefydliadol (IR), ond os ydych yn rhoi erthygl yno a gyhoeddwyd yn wreiddiol mewn cyfnodolyn heb Fynediad Agored, yna gall y cyhoeddwr fynnu eich bod yn cadw at rai amodau, megis cyfnod embargo.
- Mae'r erthygl ar gael am ddim heb dalu costau prosesu erthygl.