Polisi Defnydd Derbyniol
Mae rheolau’r llyfrgell yn bodoli er budd holl ddefnyddwyr gwasanaeth llyfrgell y Brifysgol. I ddefnyddio’r gwasanaeth llyfrgell rhaid cadw at y rheolau, y rheoliadau a’r canllawiau hyn. Nid yw diffyg gwybodaeth neu ddealltwriaeth o unrhyw reol neu reoliad yn esgusodi defnyddiwr rhag bod yn ddarostyngedig i’r rheolau neu’n ei eithrio rhag cosbau neu unrhyw gam gweithredu arall oherwydd ei fethiant i gydymffurfio.Edrychir yn ddifrifol iawn ar unrhyw achos o dorri’r rheolau a’r rheoliadau a gall arwain at ddiddymu hawliau benthyca, diarddel o’r llyfrgell a chamau disgyblu pellach.
Prynwyd mynediad i adnoddau electronig, megis e-gyfnodolion ac e-lyfrau, o dan drwydded gan y Llyfrgell ar ran y Brifysgol. Mae union delerau’r drwydded yn amrywio o adnodd i adnodd, ond yn gyffredinol maent yn awdurdodi myfyrwyr a staff cyfredol Prifysgol Bangor yn unig i ddefnyddio’r adnodd at bwrpas ymchwil academaidd.
1. Ymddygiad yn y Llyfrgell
- Mae’n ofynnol i bob defnyddiwr fod yn ystyriol o anghenion defnyddwyr eraill y llyfrgell.
- Ni chaiff defnyddwyr fod yn sarhaus tuag at unrhyw aelod staff wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
- Ni ddylai myfyrwyr geisio neilltuo mannau astudio trwy adael eiddo personol wrth ddesgiau ar ôl iddynt adael yr adeilad. Bydd unrhyw lyfrau neu eiddo personol a adewir yn cael eu symud gan aelod o staff y llyfrgell neu gan yr awdurdodau priodol.
- Ni ddylai defnyddwyr adael eiddo yn y fath ffordd ei fod yn peri anhawster i ddefnyddwyr eraill gael mynediad at fannau astudio.
- Bydd archebu ystafell i astudio mewn grŵp yn cymryd blaenoriaeth dros ddefnydd arferol o ofod ac ystafelloedd. Gall defnyddwyr sydd wedi archebu ystafell grŵp ddisgwyl i unrhyw ddefnyddwyr eraill sydd yn yr ystafell ar yr adeg a neilltuwyd adael.
- Ni chaiff neb ysmygu, defnyddio e-sigarennau nac yfed alcohol mewn unrhyw ran o’r llyfrgell. Ar dir y Brifysgol, mae ysmygu wedi ei wahardd hefyd o fewn pum medr i unrhyw adeilad, ac eithrio ym mannau ysmygu dynodedig y brifysgol.
- Ni chaniateir cysgu yn y llyfrgell. Os canfyddir defnyddwyr ynghwsg cânt eu deffro i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn.
- Ni cheir bwyta ac yfed ac eithrio yn y mannau lluniaeth dynodedig. Caniateir dŵr potel yn yr ystafelloedd darllen ac yn y mannau astudio.
- Rhaid gosod ffonau symudol ar y modd distaw tra byddwch yn y llyfrgell. Rhaid i ddefnyddwyr adael ystafelloedd darllen a mannau astudio er mwyn ffonio neu dderbyn galwadau ffon.
- Dylai defnyddwyr sicrhau nad yw chwaraewyr sain yn tarfu ar eraill.
- Rhaid gwneud cyn lleied o sŵn â phosib yn y llyfrgell, ac eithrio yn y mannau dynodedig.
- Rhaid peidio â marcio, difwyno na difrodi eiddo’r llyfrgell.
- Ni ellir dod ag anifeiliaid, ac eithrio cŵn tywys, i’r llyfrgell.
- Caiff defnyddwyr ddod â phlant (o dan 18) i’r llyfrgell, ond rhaid eu goruchwylio ar bob adeg er mwyn sicrhau eu diogelwch ac i rwystro unrhyw amharu ar ddefnyddwyr eraill.
- Rhaid i ddefnyddwyr adael y llyfrgell yn brydlon cyn amser cau, neu ar gais staff y llyfrgell neu’r awdurdodau priodol.
- Os bydd defnyddwyr yn methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn, neu’n ymddwyn yn amhriodol yn y llyfrgell, gofynnir iddynt adael. Bydd unrhyw ddigwyddiadau dilynol yn arwain at waharddiad, neu at eu cyfeirio at yr ysgol/coleg academaidd o dan delerau trefnau disgyblu’r Brifysgol.
2. Eiddo Personol a Materion cysylltiedig â Diogelwch
- Nid yw’r Brifysgol yn derbyn dim cyfrifoldeb am ddiogelwch eiddo personol y defnyddiwr tra bydd yn y llyfrgell.
- Bydd unrhyw lyfrau neu eiddo personol a adewir yn cael eu symud gan aelod o staff y llyfrgell neu’r awdurdodau priodol.
- Dylai defnyddwyr ymgyfarwyddo â rheoliadau tân a diogelwch a arddangosir a rhaid iddynt adael y llyfrgell yn syth os clywant larwm tân.
- Os defnyddir cyfrifiaduron cludadwy personol ac offer eraill sy’n gweithio ar y prif gyflenwad trydan yn y llyfrgell rhaid i’r perchennog dderbyn cyfrifoldeb am ddifrod i eiddo’r brifysgol y gall eu hoffer ei achosi. Cyfrifoldeb y perchennog yw cael yr eitem wedi ei phrofi o ran diogelwch trydanol.
- Rhaid i ddefnyddwyr sicrhau nad yw eu heiddo yn achosi perygl i ddefnyddwyr llyfrgell eraill – h.y. gadael bagiau ar lawr neu geblau gliniaduron mewn ffordd a allai beri perygl o faglu.
- Rhaid adrodd am ddamweiniau, lladradau a digwyddiadau diogelwch eraill i aelod o staff y llyfrgell ar unwaith.
- Rhaid i ddefnyddwyr ddweud pwy ydynt, neu roi eu cerdyn benthycwr i unrhyw aelod o staff y llyfrgell os gofynnir iddynt.
- Rhaid i ddefnyddwyr ganiatáu i staff y llyfrgell archwilio eu bagiau neu eitemau eraill yn eu meddiant.
3. Rheoliadau Benthyca
- Dim ond yr unigolyn a enwir ar y cerdyn benthyca sydd i fod i’w ddefnyddio. Y sawl y rhoddwyd y cerdyn iddo sy’n gyfrifol am ei ddefnyddio a’i gadw’n ddiogel bob amser. Ni ddylid ei fenthyca i neb arall ac ni ddylai neb arall ei ddefnyddio.
- Os caiff cerdyn ei golli neu ei ddwyn dylid adrodd am hyn ar unwaith. Codir ffi am gerdyn newydd.
- Rhaid i ddefnyddwyr sicrhau bod eu cyfeiriadau post ac e-bost cyfredol gan y llyfrgell bob amser. Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell yn gohebu gyda’i ddefnyddwyr trwy gyfrwng e-bost i roi gwybod iddynt am eitemau hwyr ac eitemau a adalwyd, ynghyd ag unrhyw negeseuon eraill. Dylai myfyrwyr roi gwybod i’r Brifysgol os bydd eu gwybodaeth gyswllt yn newid.
- Dim ond un aelodaeth fenthyca o’r llyfrgell caiff defnyddwyr feddu arni ar unrhyw adeg. Gofynnir i ddefnyddwyr sydd â chymhwysedd lluosog i aelodaeth llyfrgell (h.y. myfyriwr presennol sydd hefyd yn aelod staff) enwebu pa gategori aelodaeth a ddymunant.
- Ni all defnyddiwr fynd ag eitem o’r llyfrgell nes iddi fynd trwy’r broses fenthyca swyddogol. Mae ceisio mynd ag eitemau o’r llyfrgell heb ddilyn gweithdrefnau cywir yn drosedd difrifol a gellir adrodd am y weithred i awdurdodau’r Brifysgol fel y gallant gymryd camau pellach.
- Cyfrifoldeb y defnyddiwr y rhoddwyd y llyfrau ar ei d/thocyn llyfrgell yw cadw eitemau y mae’n eu benthyca mewn cyflwr da, a dod â hwy yn ôl mewn da bryd.
- Os yw benthyciwr yn honni ei fod wedi dychwelyd eitem ond nad yw’r eitem ar y silff, bydd y llyfrgell yn rhagdybio bod yr eitem dal ar fenthyg gan y benthyciwr.
- Mae defnyddwyr yn gyfrifol am dalu cost eitem newydd yn lle unrhyw eitem a gollwyd neu a ddifrodwyd tra oedd ar fenthyg iddynt yn ogystal â thâl gweinyddu. Ni fydd y llyfrgell yn derbyn copïau yn lle eitemau coll neu eitemau sydd wedi’u niweidio.
- Mae marcio, neu ddifwyno stoc y llyfrgell mewn unrhyw ffordd yn drosedd difrifol. Bydd yn ofynnol i unrhyw un y gwelwyd eu bod yn gyfrifol dalu cost eitem newydd yn lle’r eitem a ddifrodwyd yn ogystal â ffi tâl gweinyddu.
- Os bydd benthyciad yn cael ei adalw rhoddir gwybod i’r defnyddiwr bod angen yr eitem yn ôl yn gynt a rhaid iddynt gydymffurfio neu gael eu cosbi am ddychwelyd yr eitem yn hwyr.
- Rhoddir cosbau am ddychwelyd benthyciadau’n hwyr ac am beidio â chydymffurfio â pholisïau benthyca. Mae cosbau ar ffurf dirwyon arian parod ac/neu atal hawliau benthyca.
4. Canllawiau Cyffredinol ar Ddefnydd Adnoddau Electronig
- Mae Llyfrgell Prifysgol Bangor yn tanysgrifio i adnoddau electronig (cronfeydd data, cylchgronau electronig a llyfrau electronig) a’u darpau drwy wefan y llyfrgell i ddefnyddwyr awdurdodedig (myfyrwyr a staff cyfredol Prifysgol Bangor).
- Mae’r llyfrgell yn llofnodi trwydded gyda chyhoeddwr pob adnodd electronig. Rhoddir mynediad at adnoddau electronig dan delerau pendant a nodir yn y drwydded ac yn unol â deddf hawlfraint.
- Mae cyhoeddwyr adnoddau electronig yn monitro ein defnydd o’r adnoddau hyn a gallant atal hawliau defnydd, naill ai dros dro neu’n barhaol, os torrwyd amodau trwydded. Gall y brifysgol hefyd gael ei chosbi pe baem yn torri deddf hawlfraint.
- Mae gan holl aelod Prifysgol Bangor gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau electronig mewn ffordd sy’n cydymffurfio â deddf hawlfraint, yn ogystal ag amodau trwydded a bennwyd gan gyhoeddwyr.
- Mae telerau’r drwydded yn amrywio o gyhoeddwr, ond dyma rai egwyddorion cyffredinol:
Defnyddiau a Ganiateir Defnyddiau Gwaharddedig Defnydd i ddibenion ymchwil anfasnachol, addysgu neu astudio preifat Defnydd at unrhyw ddiben masnachol, neu i ailgyhoeddi, addasu cynnwys neu greu gweithiau deilliadol (mashups) Argraffu neu lawr lwytho un copi o erthygl neu bennod o lyfr at ddefnydd personol Lawr lwytho, arbed neu argraffu erthyglau neu benodau o lyfrau yn systematig (e.e. yr holl erthyglau o rifyn o gyfnodolyn) Rhannu linc i erthygl neu bennod o lyfr gyda staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor Rhannu erthyglau neu benodau o lyfrau gydag unrhyw un nad yw’n fyfyriwr nue aelod staff presennol ym Mhrifysgol Bangor - Os ydych eisiau defnyddio adnodd electronig i unrhyw ddiben heblaw i wneud copïau unigol at ddefnydd personol, fe’ch cynghorir i ymgynghori â thelerau’r drwydded, sydd i’w chael ar wefannau y rhan fwyaf o gyhoeddwyr. Os na restir unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Datblygiadau Digidol am gyngor.
- Mae rheoliadau hawlfraint yn berthnasol i adnoddau electronig. Fel rheol gwaherddir tynnu, cuddio neu addasu enwau awduron, hysbysiadau hawlfraint neu ddulliau eraill o adnabod. Gweler tudalen y brifysgol ar Hawlfraint i gael mwy o wybodaeth am hyn a materion hawlfraint cyffredinol eraill, yn cynnwys hawlfraint ar ddeunydd printedig.
5. Adnoddau electronig ar Blackboard – Cyngor i staff academaidd
- Fel rheol mae telerau trwydded cyhoeddwyr yn datgan nad yw’n dderbyniol i lawr lwytho erthygl fel dogfen PDF i Blackboard er mwyn i fyfyrwyr fedru mynd ati. Fel rheol caniateir ‘cyswyllt dwfn’ (deep link) o fewn Blackboard i erthygl ar wefan y cyhoeddwr.
- Mae rhesymau eraill dros gysylltu yn hytrach na lawr lwytho (nad ydynt yn ymwneud yn unig â’n rhwymedigaethau i ddeiliad hawlfraint y gwaith) yn cynnwys:
- Mae darparu cyswllt i erthygl drwy wefan cyhoeddwr yn galluogi cyhoeddwyr i fonitro traffig i’r erthygl a thrwy hynny roi data i ni ar ei defnyddio. Rydym yn defnyddio’r data hyn wrth benderfynu pa gyfnodolion i’w canslo a pha rai i barhau i’w derbyn fel rhan o’n hadolygiad blynyddol o gyfnodolion. Nid yw erthygl a gaiff ei lawr lwytho i Blackboard yn dangos unrhyw ddata defnydd, ac felly gallai gael ei hystyried yn deitl defnydd isel a’i chanslo.
- Yn aml mae amodau trwydded yn newid neu ddod i ben, mae cyfnodolion yn symud rhwng cyhoeddwyr neu hyd yn oed yn peidio â chael eu cyhoeddi mwyach. Ni ellir adlewyrchu unrhyw rai o’r newidiadau hyn os bydd rhywun yn mynd i erthygl drwy PDF wedi ei lawr lwytho yn hytrach na thrwy gyswllt ar wefan y cyhoeddwr. Gall hyn wneud i ni dorri amodau ein trwydded; er enghraifft, gall eich myfyrwyr barhau i ddefnyddio erthygl o gyhoeddiad gwyddonol nad ydym yn tanysgrifio i’w dderbyn mwyach.
- Cysylltwch ag eresources@bangor.ac.uk i gael cymorth gyda chysylltu ag adnoddau electronig.
6. Cyffredinol
- Ym mhob achos o gopïo deunydd y llyfrgell a phob achos o gopïo a gyflawnir yn adeiladau’r llyfrgell rhaid cydymffurfio â Deddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 a, lle bo’n briodol, â’r cytundebau trwyddedu hawlfraint mae’r Brifysgol o bryd i’w gilydd wedi ymrwymo iddynt.
- Rhaid i ddefnyddwyr barchu telerau’r Ddeddf Gwarchod Data 1998 mewn perthynas â datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud â defnyddwyr eraill y llyfrgell.
- Rhaid i ddefnyddwyr gydymffurfio â rheoliadau ehangach y Brifysgol ac ag unrhyw ddeddfwriaeth sifil a throseddol berthnasol wrth ddefnyddio’r llyfrgell.
7. Datganiad Gwarchod Data
- Caiff y wybodaeth a roddwyd gennych wrth gofrestru â Llyfrgell Prifysgol Bangor ei chadw’n unol â thelerau Deddf Gwarchod Data 1998. Defnyddir y data i hwyluso eich aelodaeth llyfrgell ac i alluogi darparu gwasanaethau llyfrgell.