Llyfrgelloedd a Lleoliadau Astudio Cymdeithasol
Trosolwg
Trosolwg
Cliciwch ar y tab i bob cangen unigol i gael gwybodaeth benodol am yr oriau agor a'r gwasanaethau sydd ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd a lleoliadau astudio cymdeithasol.
Sylwer: Darperir yr holl wasanaethau a threfniadau gweithio yn unol â chanllawiau a chyngor y llywodraeth a'r brifysgol. O'r herwydd, gall gwasanaethau a mynediad i adeiladau newid ar fyr rybudd.
Mygydau Rhaid i chi wisgo mwgwd bob amser pan fyddwch yn adeiladau’r llyfrgell (oni bai eich bod wedi eich eithrio.).
Mesurau Diogelwch - Cliciwch ar ein tudalennau gwybodaeth i gael gwybodaeth am y mesurau diogelwch sydd ar waith yn ein lleoliadau.
Lleoliadau - Lawrlwythwch Map y Campwsi ddod o hyd i'n gwahanol ganghennau.. .
Llyfrgell ar-lein - gwnewch ddefnydd hefyd o'n casgliad helaeth o adnoddau ar-lein sydd ar gael trwy chwiliad llyfrgell
Polisi Defnydd Derbyniol - Rhaid i bob defnyddiwr gadw at
- Bolisi Defnydd Derbyniol y Gwasanaeth Llyfrgell
Y Brif Lyfrgell
Prif Lyfrgell a Chefnogaeth Addysgu a Dysgu
Mae’r Brif Lyfrgell wedi ei lleoli yng nghwad allanol Prif Adeilad y Celfyddydau, mae'n cynnwys gwerslyfrau ac adnoddau printiedig eraill ar bob pwnc, yn ogystal â'r Llyfrgell Gymraeg - casgliad nodedig o ddeunydd printiedig, yn Gymraeg ac ieithoedd eraill, yn ymwneud â Chymru a gwledydd Celtaidd eraill.
Yn ystod oriau gwasanaeth gyda staff (gweler y tabl isod) mae ein tîm cefnogaeth wrth law i'ch helpu gyda'n gwasanaethau a'n cyfleusterau. Gallwch gysylltu â'r tîm trwy anfon e-bost i llyfrgell@bangor.ac.uk
Mae'r Brif Lyfrgell hefyd yn gartref i'r tîm cefnogaeth addysgu a dysgu. Mae'r tîm hwn yn cynnig cefnogaeth academaidd fanwl a phwnc-benodol yng nghyd-destun y llyfrgell, yn ogystal â sgiliau astudio i'ch helpu i wneud y mwyaf posib o'ch astudiaethau academaidd. Gallent hefyd gefnogi staff sydd eisiau defnyddio technoleg yn eu haddysgu a dysgu.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein Harchifau a Chasgliadau Arbennig, sydd drws nesaf i'r Brif Lyfrgell.
Oriau Agor
|
Oriau agor yr adeilad - mynediad i gyfrifiaduron desg a mannau astudio |
Oriau gwasanaeth gyda staff |
Llun - Gwener |
8.30yb - 6.00yh |
8.30yb - 6.00yh |
Sadwrn a Sul |
12.00yh - 5.00yh |
12.00yb - 5.00yh |
Gwasanaethau a Chyfleusterau
Casgliadau'r Llyfrgell, pori, benthyca a dychwelydNid oes unrhyw gyfyngiadau ar bori ar hyn o bryd ac rydych yn rhydd i fenthyca a dychwelyd deunydd y gellir ei fenthyca gan ddefnyddio un o'r ciosgau hunanwasanaeth yn ystod oriau agor. Fel arall, efallai yr hoffech ddefnyddio ein gwasanaeth Clicio a Chasglu.
Ar ôl i'r llyfrgell gau, mae modd dychwelyd llyfrau yn y bin dychwelyd yn y cyntedd allanol tan 9pm bob nos. Nid oes angen eich cerdyn adnabod arnoch i ddychwelyd llyfrau. Gallwch hefyd ddychwelyd eitemau drwy’r locer llyfrau ar Safle’r Normal a’r biniau dychwelyd llyfrau yn neuaddau preswyl y Brifysgol.
Mannau astudio a chyfrifiaduron
Mae’r Brif Lyfrgell yn cynnig amrywiaeth o wahanol fannau astudio, yn fannau cymdeithasol a chydweithredol yn yr ystafell ddysgu gymdeithasol ger y dderbynfa ac yn fannau tawel a distaw yn yr ystafelloedd darllen – sylwer bod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith ar hyn o bryd mewn rhai mannau eistedd.
Mae nifer gyfyngedig o gyfrifiaduron desg ar gael ar y safle. Mae lleoliadau’r holl ystafelloedd cyfrifiaduron a’r mannau astudio ledled y campws i'w gweld yma.
Argraffu, Copïo, Sganio
Mae peiriannau ar gael i argraffu, copïo a sganio. Gallwch brynu credydau ar-lein yma.
Ystafell Dechnoleg Gynorthwyol
Gall myfyrwyr sydd â Chynllun Cefnogi Dysgu Personol ddefnyddio'r ystafell Dechnoleg Gynorthwyol, ger yr ystafell ddysgu cymdeithasol. Mae'r ystafell ar gael i unigolion alw heibio a'i defnyddio.
Bwyta ac yfed
Mae peiriant gwerthu ar gael yn yr ystafell ddysgu gymdeithasol. Mae croeso i chi ddod â’ch bwyd a’ch diod eich hun i mewn hefyd ond cofiwch fwyta yn yr ystafell ddysgu gymdeithasol neu ar un o’r soffas coch neu ddu yn unig – peidiwch â bwyta yn yr ystafelloedd darllen.
Prif Lyfrgell
Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG
Ffôn: 01248 382983
e-bost: llyfrgell@bangor.ac.uk
View Larger Map
Adeilad Deiniol
Llyfrgell Deiniol
Mannau cymdeithasol a chefnogaeth TG DeiniolAdeilad Deiniol yw cartref ein tîm cefnogaeth TG ac mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ystafelloedd cyfrifiadurol a mannau dysgu/astudio cymdeithasol. Mae’r tîm cefnogaeth TG wedi eu lleoli ger y cyntedd, ond gellir cysylltu â hwy ar-lein (desg-gymorth@bangor.ac.uk) neu dros y ffôn (01248 388111) ac nid yn y cnawd yn unig.
Mae aelod o dîm cefnogaeth y llyfrgell hefyd wedi ei leoli yn y cyntedd a gall gynorthwyo gydag ymholiadau llyfrgell yn ogystal â chefnogaeth gyda gwasanaethau ac offer yn yr adeilad. I gael cymorth manwl pwnc-benodol, cysylltwch â'r Tîm Cefnogaeth Addysgu a Dysgu.
Y ddesg gymorth yn y cyntedd hefyd yw'r lle i fynd i gasglu eich cerdyn adnabod. Sylwer: Os oes gennych gwestiwn am eich cerdyn adnabod, anfonwch e-bost i llyfrgell@bangor.ac.uk yn y lle cyntaf.
Oriau Agor
. |
Oriau agor yr adeilad - mynediad i gyfrifiaduron personol a mannau astudio |
Desg Cefnogaeth Llyfrgell |
Llun - Gwener |
9.00am to 5.00pm |
9.00am to 1.00pm 2.00pm to 5.00pm |
Sadwrn a Sul |
ar gau |
ar gau |
Cyfleusterau
Mae cyfrifiaduron desg sefydlog ar gael i chi eu defnyddio (wedi eu ffurfweddu ar hyn o bryd ar gyfer gweithio'n ddiogel yn unol â rheoliadau Covid). Mae lleoliadau’r holl ystafelloedd cyfrifiaduron a’r mannau astudio ledled y campws i'w gweld yma.
Mae hefyd digon o le i weithio gyda'ch gliniadur/llechen gyda chysylltiad diwifr a digon o socedi i ailwefru. Gall myfyrwyr sydd â Chynllun Cefnogi Dysgu Personol ddefnyddio'r Ystafell Dechnoleg Gynorthwyol, sydd ar gael ar sail galw heibio.
Mae peiriannau argraffu/copïo/sganio ar gael hefyd. Gallwch brynu credydau ar-lein yma
Diweddariad ar symud llyfrau rhwng y llyfrgelloedd, mis Chwefror 2022
- Mae casgliadau llyfrau Gwyddoniaeth, Seicoleg a Gwyddorau Gofal Iechyd a oedd ar y safle bellach wedi eu symud i'r Brif Lyfrgell.
- **Mae ciosg a bin llyfrau hunanwasanaeth ar gael yn y cyntedd i ddychwelyd llyfrau ond fel arall, gallwch ddychwelyd eich llyfrau i’r Brif Lyfrgell.
Manylion cyswllt
TECHNOLEG GWYBODAETH
Ffôn: 01248 383617
Y Llyfrgell
E-bost: llyfrgell@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 382984
View Larger Map
Safle’r Normal
Llyfrgell Safle'r Normal
Mannau cymdeithasol a dysgu Safle’r Normal
Ar safle'r Normal, Ffordd Caergybi, mae'r man cymdeithasol a dysgu wedi ei leoli yn hen Lyfrgell Safle'r Normal. Mae’r llyfrau a arferai fod yn llyfrgell Safle’r Normal wedi eu symud i’r Brif Lyfrgell.
Mae'r cyfleuster ar gael 24/7 (sylwer - bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch ar adegau). Mae cyfrifiaduron desg sefydlog ar gael i chi eu defnyddio (wedi eu ffurfweddu ar hyn o bryd ar gyfer gweithio'n ddiogel yn unol â rheoliadau Covid). Mae lleoliadau’r holl ystafelloedd cyfrifiaduron a’r mannau astudio ledled y campws i'w gweld yma.
Mae hefyd digon o le i weithio gyda'ch gliniadur/llechen gyda chysylltiad diwifr a digon o socedi i ailwefru.
Mae peiriannau argraffu/copïo/sganio ar gael hefyd. Gallwch brynu credydau ar-lein yma.
Mae’n bosib i staff/myfyrwyr sydd wedi eu lleoli ar safle’r Normal godi deunyddiau trwy’r gwasanaeth clicio a chasglu o’r locer llyfrau yn y Man Cymdeithasol a Dysgu Myfyrwyr. Dewiswch “Locer Safle’r Normal” wrth wneud eich cais ar Chwiliad Llyfrgell. Gellir dychwelyd llyfrau hefyd drwy'r locer llyfrau.
Location map
Wrecsam
Llyfrgell Wrecsam
Mae’r llyfrgell ar Gampws Wrecsam yn darparu adnoddau helaeth i staff a myfyrwyr sy’n gweithio ac yn astudio ar y safle, ac mae’n cynnwys casgliadau print nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg a gwyddorau iechyd.
Yn ystod oriau gwasanaeth gyda staff (gweler y tabl isod) mae ein tîm cefnogaeth wrth law i'ch helpu gyda'n gwasanaethau a'n cyfleusterau. Gallwch gysylltu â'r tîm trwy anfon e-bost i llyfrgell@bangor.ac.uk
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein tîm cefnogaeth addysgu a dysgu. Mae'r tîm hwn yn y Brif Lyfrgell ac yn cynnig cefnogaeth academaidd fanwl a phwnc-benodol yng nghyd-destun y llyfrgell, yn ogystal â sgiliau astudio i'ch helpu i wneud y mwyaf posib o'ch astudiaethau. Gallent hefyd gefnogi staff sydd eisiau defnyddio technoleg yn eu haddysgu a dysgu.
Oriau Agor
. |
Oriau agor yr adeilad - mynediad i gyfrifiaduron personol a mannau astudio |
Oriau gwasanaeth gyda staff |
Llun - Iau |
9.00yb to 6.00yh |
9.00yb to 6.00yh |
Gwener |
9.00yb to 5.00yh |
9.00yb to 5.00yh |
Sadwrn a Sul |
ar gau |
ar gau |
Gwasanaethau a Chyfleusterau
Casgliadau'r Llyfrgell, pori, benthyca a dychwelydNid oes unrhyw gyfyngiadau ar bori ar hyn o bryd ac rydych yn rhydd i fenthyca a dychwelyd deunydd y gellir ei fenthyca gan ddefnyddio un o'r ciosgau hunanwasanaeth yn ystod oriau agor. Fel arall, efallai yr hoffech ddefnyddio ein gwasanaeth Clicio a Chasglu.
Pan fydd y llyfrgell ar gau, mae'n bosib dychwelyd llyfrau yn y bin dychwelyd y tu allan i'r adeilad.
Mannau astudio a chyfrifiaduron
Mae'r llyfrgell yn cynnig mannau astudio a mynediad i gyfrifiaduron desg. Sylwer: Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith ar hyn o bryd mewn rhai mannau eistedd.
Mae nifer gyfyngedig o gyfrifiaduron desg ar gael ar y safle. Mae lleoliadau’r holl ystafelloedd cyfrifiaduron a’r mannau astudio ledled y campws i'w gweld yma.
Argraffu, Copïo, Sganio
Mae peiriannau ar gael i argraffu, copïo a sganio. Gallwch brynu credydau ar-lein yma
Manylion cyswllt
E-bost: llyfrgell@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383919
Prifysgol Bangor - Llyfrgell Wrecsam
Berwyn House, Canolfan Archimedes
Parc Technoleg Wrecsam,
Wrecsam. LL13 7YP
Location map
Pontio
Astudio Cymdeithasol Pontio
Mae ein hystafelloedd cyfrifiadurol a’n mannau dysgu cymdeithasol wedi eu lleoli ar lefel 5 adeilad Pontio (bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad ar adegau).
Mae cyfrifiaduron desg sefydlog ar gael i chi eu defnyddio (wedi eu ffurfweddu ar hyn o bryd ar gyfer gweithio'n ddiogel yn unol â rheoliadau Covid). Mae lleoliadau’r holl ystafelloedd cyfrifiaduron a’r mannau astudio ledled y campws i'w gweld yma
Mae hefyd ddigon o le i weithio gyda'ch gliniadur/llechen gyda chysylltiad diwifr a digon o socedi i ailwefru.
Mae’r lleoliadau yn adeilad Pontio yn agored am oriau maith a gallwch fwynhau cyfleusterau eraill Pontio hefyd, sy’n ei wneud yn lle gwych i weithio yn eich amser eich hun.