Ein Casgliadau
Sut mae chwilio ein Casgliadau
Rydym yn darparu mynediad hawdd i gasgliad helaeth o lyfrau, cylchgronau a chronfeydd data ar-lein, gan gynnwys ein casgliadau treftadol unigryw. Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o e-adnoddau er mwyn sicrhau bod gennych fynediad at yr adnoddau ar y campws ac oddi arno.
Chwiliad Llyfrgell yw'r offeryn sydd ei angen arnoch i chwilio drwy'r adnoddau a'r casgliadau. Gallwch chwilio am y canlynol:
- Llyfrau ac e-lyfrau
-
Cyfnodolion ac e-gyfnodolion
-
Cronfeydd data
-
Deunyddiau clyweledol
-
Sgoriau cerddorol
-
Traethodau ac e-draethodau
-
Papurau newydd
-
Casgliadau Arbennig
I chwilio am lawysgrifau Archifol, defnyddiwch gatalog ar-lein yr Archifau.
Gyda Chwiliad y Llyfrgell mae modd:
- Gweld a yw eitemau'r casgliad ar gael a ble maen nhw
-
Cael mynediad at e-adnoddau
-
Adalw eitemau sydd eisoes ar fenthyg
-
Cael mynediad at eich Rhestrau Darllen ar lein
Mi allwch chi fewngofnodi i'ch Cyfrif Llyfrgell o Chwiliad y Llyfrgell a:
- Gweld yr eitemau rydych chi wedi'u benthyca a'r dyddiadau dychwelyd
-
Adnewyddu'r eitemau sydd ar fenthyciad
-
Cadw golwg ar y deunyddiau rydych chi wedi eu hadalw
Angen help?
Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen we am ragor o fanylion ynglŷn â sut mae chwilio ein casgliadau
Methu dod o hyd i'r adnodd sydd ei angen arnoch chi?
Gall y Tîm Cefnogaeth Academaidd eich helpu chi gael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnoch, hyd yn oed os nad ydynt yn ein casgliadau. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r adnoddau sydd gennym, neu sut i chwilio ein casgliadau, cysylltwch â Tîm Cefnogaeth Academaidd.
Sut ydw i yn cael hyd i lyfrau ar y silffoedd?
Mynediad at e-adnoddau
RHestrau Darllen
Mae'r Rhestrau Darllen yn rhoi mynediad i chi at yr holl ddeunyddiau y bydd angen i chi eu hastudio. Mae'r rhestrau'n offer defnyddiol sy'n cynnwys manylion eich holl destunau craidd, y deunyddiau darllen a argymhellir a chysylltiadau ag e-lyfrau, erthyglau o gylchgronau a phenodau o lyfrau. Cewch fynediad at eich rhestr ddarllen trwy Blackboard neu drwy Chwiliad y Llyfrgell.
Gall staff Prifysgol Bangor ddarganfod sut i greu rhestr ddarllen drwy dudalennau Cymorth Rhestrau Darllen.
Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd
Gellir gwneud cais am eitemau nad ydynt gan y llyfrgell gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd.
Benthyciadau Cyfnod Byr
Er mwyn ymdopi â'r galw trwm am lyfrau neilltuol boblogaidd, mae Casgliad Benthyciadau Byr ar gael yn holl ganghennau llyfrgell y Brifysgol.
Mae’r casgliad benthyciad byr yn cynnwys llyfrau a chylchgronau sydd wedi eu gosod fel deunydd darllen hanfodol gan staff ar gyfer eu modiwlau. Gan fod galw mawr am yr eitemau hyn mae'r cyfnod y gellir eu benthyg yn fyrrach na chydag eitemau cyffredin.
Rhestrir yr holl eitemau benthyciad byr ar gatalog y llyfrgell fel rhai sydd â “Benthyciad Byr 1 Diwrnod neu 3 Diwrnod” a gellir dod o hyd iddynt ar y silffoedd llyfrgell arferol ym mhob cangen o'r llyfrgell heblaw Deiniol, lle cânt eu cadw yn yr ystafell Benthyciadau Byr . Gofynnwch am gymorth os na ellwch ddod o hyd i'r rhain.
Sylwch: Nid yw eitemau Benthyciadau Byr yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig a chodir dirwyon trwm am eu dychwelyd yn hwyr.
Cyfnod Benthyciad Byr |
Cosb |
Benthyciad 24 awr |
£2.00 yr awr am y ddwy awr gyntaf, ac yna 50c am ran o unrhyw awr yn dilyn hynny |
Benthyciad 3 diwrnod |
50c y diwrnod |
Rhoi Llyfr yn y Casgliad Benthyciadau Byr
Canllawiau i Staff Academaidd
Gall staff dysgu drosglwyddo i'r casgliad Benthyciad Byr unrhyw deitlau ar restrau darllen sy'n ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer traethodau ac aseiniadau a rhai sy'n destunau craidd modiwl. Gellir gwneud ceisiadau trwy lenwi'r ffurflen Cais am Fenthyciad Byr ar-lein.
Mae'r llyfrgell hefyd yn cynnig gwasanaeth digideiddio a fydd yn digideiddio penodau o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion ar gais aelodau staff academaidd. Byddwn yn cysylltu â'r CLA (Copyright Licensing Agency) am ganiatâd, ac yna digideiddio'r penodau/erthyglau priodol a'u darparu i fyfyrwyr drwy Gatalog y Llyfrgell. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau cymorth Rhestr Ddarllen.
Mynediad at Lyfrgelloedd Eraill
Efallai y byddwch chi am ymweld â llyfrgelloedd eraill ledled y Deyrnas Unedig er mwyn astudio neu i weld eu casgliadau. Gweler yr wybodaeth isod ynglŷn â chael mynediad at lyfrgelloedd eraill neu i fenthyca llyfrau:
LINC y Gogledd - Llyfrgelloedd Cyhoeddus, Colegau Addysg Bellach a Prifysgolion mewn partneriaeth ledled y gogledd.
Cynllun Mynediad SCONUL - Menter gydweithredol rhwng llyfrgelloedd addysg uwch y Deyrnas Unedig.
Y Llyfrgelloedd Cenedlaethol - Sut mae cofrestru i ddefnyddio'r Llyfrgell Brydeinig (Llundain) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth).
Chwilio Catalogau Llyfrgelloedd Eraill
Library Hub Discover - Mae hwn yn rhoi mynediad ichi at fanylion deunyddiau a gedwir mewn dros 140 o lyfrgelloedd cenedlaethol, academaidd ac arbenigol y Deyrnas Unedig.
Ffeindio Llyfr yn Llyfrgelloedd Cymru - mae hwn yn dwyn ynghyd gatalogau llyfrgelloedd cyhoeddus o bob rhan o Gymru mewn un chwiliad, gyda'r gallu i gyfyngu'r canlyniadau i lyfrgelloedd Linc y Gogledd.
Defnyddio Wi-fi mewn Sefydliadau Eraill
Rhwydwaith byd-eang o sefydliadau ymchwil ac addysg yw Eduroam. Mae’n caniatáu mynediad diogel at gysylltiad rhyngrwyd ar gyfer defnyddwyr ar unrhyw safle sydd yn defnyddio Eduroam, gan ddefnyddio eu rhifau mewngofnodi o’u safle cartref. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr ym Mangor deithio i unrhyw safle sydd ar Eduroam a chysylltu â rhwydwaith Eduroam yno, a gall gwesteion o safleoedd Eduroam gysylltu â’n rhwydwaith Eduroam ni tra byddant yma.
Methu cael hyd i’r adnodd sydd rydych ei angen?
Gall y Tîm Cefnogaeth Academaidd eich helpu i gael mynediad at yr adnoddau rydych eu hangen, hyd yn oed os nad ydynt ar gael yn ein casgliadau. Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r adnoddau sydd gennym, neu ar sut i chwilio'r casgliadau, cysylltwch â'r Tîm Cefnogaeth Academaidd.
Sut i gael deunydd mewn fformatau hyrgyrch
Archebu Adnoddau Newydd (Staff y Brifysgol)
Cysylltwch â Llyfrgellydd Cefnogaeth Academaidd eich Ysgol gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn ag archebu adnoddau newydd i'w hychwanegu i stoc y Llyfrgell:
Cliciwch yma am Cysylltiadau Allweddol.
Gofynnir i staff academaidd beidio â phrynu deunydd yn uniongyrchol. Mae’r Llyfrgell fel rheol yn cael gostyngiadau gan gyflenwyr rheolaidd, felly dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir ystyried rhoi ad-daliadau.