Cynaliadwyedd
Cefnogi mentrau sy'n cael eu harwain gan y brifysgol
Mae’r llyfrgell yn cefnogi agenda cynaliadwyedd y brifysgol a'i pholisïau amgylcheddol.
Dyma rai o’r ffyrdd yr ydym yn gwneud hynny:
- Ailgylchu: Mae cyfleusterau ailgylchu ar gael ymhob un o'n llyfrgelloedd ac rydym wedi cael gwared ar finiau sbwriel yn swyddfeydd y staff i'w hannog i ailgylchu
- Ym mhob llyfrgell mae synwyryddion symudiad ar gyfer y goleuadau a chaiff clystyrau cyfrifiaduron eu diffodd yn awtomatig
- Darperir peiriannau dŵr ond mae disgwyl i'n defnyddwyr ddod â chwpan neu botel gyda nhw
- Argraffu mewn du a gwyn ar ddwy ochr y papur yw'r gosodiad diofyn
- Rydym yn argraffu cyn lleied â phosibl o gopïau papur o ganllawiau'r llyfrgell a phan fo'n bosibl caiff deunydd ysgrifenedig ei ysgrifennu mewn modd sy'n addas i'w ddefnyddio ymhell i'r dyfodol
- Caiff papur sgrap wedi ei ailgylchu ei adael wrth ymyl pob argraffydd SHARP
- Pryd bynnag y bydd yn bosibl caiff dodrefn eu hailddefnyddio a rhoddir ystyriaeth i ddodrefn modiwlaidd wrth brynu dodrefn newydd er mwyn creu opsiynau cyflunio gwahanol
-
SensusAccess - Dyma ddull hunan-wasanaeth a fydd yn galluogi myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor i drosi dogfennau'n awtomatig i fformat arall, gan gynnwys trosi deunyddiau yn lyfrau-llafar (MP3 a DAISY), e-lyfrau (EPUB, EPUB3 a Mobi) a Braille digidol. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hefyd i drosi dogfennau anhygyrch megis ffeiliau PDF delwedd yn unig, lluniau PJG a chyflwyniadau PowerPoint Microsoft i ffurfiau mwy hygyrch a llai trafferthus.
Gall defnyddwyr y llyfrgell leihau eu heffaith ar yr amgylchedd drwy wneud y canlynol:
- Defnyddio'r biniau ailgylchu a lleihau nifer yr eitemau sy'n cael eu rhoi yn y biniau tirlenwi
- Dewis y grisiau yn hytrach na'r lifft i arbed ynni
- Defnyddio potel ddŵr y gellir ei defnyddio drosodd a throsodd wrth gael dŵr o'r peiriant
- Meddwl cyn argraffu! Argraffu ar ddwy ochr y papur
- Gadewch bapurau ag un ochr wag nag oes arnoch eu hangen mwyach i bobl eraill eu defnyddio fel papur sgrap
- Dewch â'ch stampiau aton ni er mwyn i ni gael eu rhoi at elusen
- Darllenwch ein polisi am Gyfraniadau ac Rhoddion.
Darpariaethau llyfrgell ychwanegol
- Os oes gennych Gynllun Cefnogi Dysgu Personol bydd gennych fynediad i'r ystafelloedd technoleg gynorthwyol
- Mae'r llyfrgell yn darparu ystafelloedd lle gallwch gwrdd yn breifat â mentoriaid
- Os oes gennych Gynllun Cefnogi Dysgu Personol rydym yn darparu gwasanaeth casglu llyfrau
- Cynhelir sesiynau rheolaidd wedi ei ddarparu gan Undeb y Myfyrwyr, Go Wales a'r Uned Gyrfaoedd
- Rydym yn darparu gwybodaeth ynglŷn â lles ac ymwybyddiaeth ofalgar
chat loading...