Hawlfraint
Gwybodaeth am Hawlfraint i Fyfyrwyr
Hawlfraint yw hawl perchenogaeth gyfreithiol sy'n galluogi i grëwr gwaith ysgrifenedig, artistig neu gyhoeddedig reoli'r modd y caiff ei ddefnyddio.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gydymffurfio â rheolau hawlfraint ac mae disgwyl i chithau fel myfyriwr gydymffurfio â chyfraith bresennol y DU ar hawlfraint.
Trwy gydol eich cwrs, efallai y byddwch eisiau copïo deunydd, h.y. cynnwys o we-dudalennau, erthyglau cylchgronau, delweddau etc. Dylech sylweddoli y bydd y deunydd hwn, fel rheol, wedi’i warchod gan hawlfraint, a dylech ddeall beth y caniateir i chi wneud copi ohono.
Dylech ystyried cyfraith hawlfraint drwy fynd i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin yn ymwneud â hawlfraint.
Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr o unrhyw fater sy'n ymwneud â hawlfraint.
Gwybodaeth i Staff am Hawlfraint
Hawlfraint yw hawl perchenogaeth gyfreithiol sy'n galluogi i grëwr gwaith ysgrifenedig, artistig neu gyhoeddedig reoli'r modd y caiff ei ddefnyddio.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gydymffurfio â rheolau hawlfraint ac mae disgwyl i chithau fel gweithiwr gynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel ar gyfer eich addysgu/dysgu neu unrhyw adnoddau eraill o fewn y brifysgol; mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw gynnwys a ddefnyddir yn gyfreithlon.
Os ydych wedi defnyddio neu wedi ystyried defnyddio cynnwys trydydd parti mewn unrhyw fformat, dylech fod wedi ystyried cyfraith hawlfraint trwy edrych ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am hawlfraint.
Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr o unrhyw fater sy'n ymwneud â hawlfraint.
Gwybodaeth hawlfraint ar gyfer gwaith ymchwil a thraethodau ymchwil
Fel y nodir ym Mholisi Eiddo Deallusol y Brifysgol, chi yw perchennog cyntaf hawlfraint yn eich gwaith ysgolheigaidd oni bai ei fod wedi'i gomisiynu gan y brifysgol neu fod contract cyllido yn hawlio perchnogaeth. Wrth gyflwyno erthygl i'w chyhoeddi mewn cyfnodolyn, bydd gofyn i chi lofnodi ffurflen cytuno hawlfraint, gwiriwch fanylion y cytundeb hawlfraint yn ofalus.
Os ydych yn cyhoeddi erthygl Mynediad Agored, cynigir nifer o drwyddedau hawlfraint mynediad agored i chi: trwyddedau eiddo creadigol cyffredin. Ewch i http://creativecommons.org/licenses/ i gael rhagor o wybodaeth am y trwyddedau hyn. Os ydych yn cael eich cyllido gan RCUK ac yn defnyddio nawdd RCUK i dalu i gyhoeddi erthygl mynediad agored, yna fe'ch gorfodir i gyhoeddi gyda thrwydded hawlfraint CC-BY.
Eiddo Deallusol
Am ragor o wybodaeth gweler y Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith (RIIO): Eiddo deallusol, masnacheiddio ac ymgynghoriaeth.
Ar gyfer eich Traethawd Ymchwil
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, er y gofynnwn i chi wneud pob ymdrech i ofyn caniatâd am ddeunydd hawlfraint trydydd parti, os na fyddwch yn sicrhau caniatâd ni fydd hynny'n effeithio ar y marc a gewch am eich gwaith. Fodd bynnag, heb y caniatâd sy'n ofynnol, ni ellir gwneud eich gwaith ar gael i'r cyhoedd yn storfa ddigidol y brifysgol, sef eBangor.
Dylech ystyried cyfraith hawlfraint drwy fynd i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin yn ymwneud â hawlfraint.
Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr o unrhyw fater sy'n ymwneud â hawlfraint.
Trwyddedau hawlfraint a ddelir gan Brifysgol Bangor
Mae Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) yn rhoi caniatâd i lungopïo a sganio cyfnodolion a llyfrau argraffedig droeon, a defnyddio deunyddiau digidol gwreiddiol.
Mae Trwydded yr Asiantaeth Recordio Addysgol (ERA) yn hwyluso recordio darllediadau daearol oddi ar yr awyr at ddibenion addysgol.
Mae Trwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Papurau Newydd (NLA) yn galluogi llungopïo darnau o bapurau newydd cenedlaethol ar ddibenion dysgu.
Mae gan yr holl e-adnoddau delerau ac amodau ychwanegol y dylid cyfeirio atynt ar y cyd â Ddeddf Hawlfraint. Gweler ein Canllawiau Defnydd Cyffredinol ar Gyfer E-adnoddau.
I gael rhagor o wybodaeth am y Deddfau Hawlfraint a Phatentau, gweler y wefan Eiddo Deallusol.
Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr o unrhyw fater sy'n ymwneud â hawlfraint.
Arweiniad ar ddefnyddio cynnwys trydydd parti
Mae hawlfraint yn faes cymhleth a chynhyrchwyd y gwe-dudalennau canlynol fel arweiniad i staff a myfyrwyr ac ni fwriedir iddynt gymryd lle cyngor cyfreithiol. Nid yw unigolion na sefydliadau academaidd wedi’u heithrio o’r deddfau hyn, a gall torri unrhyw un ohonynt arwain at gymryd camau cyfreithiol.
Mae angen rhoi sylw arbennig i ganiatâd trydydd parti gydag unrhyw waith a gyflwynir ar ffurf electronig. Golyga hyn unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan awdur neu grëwr arall gan fod ganddynt hawliau eiddo deallusol sy'n gyfreithiol rwymol. Mae'r diogelwch hwn yn awtomatig, ac mae copïo unrhyw beth heb ganiatâd yn anghyfreithlon. Ceir camsyniad cyffredin ei fod yn ddigon cydnabod a chyfeirnodi, ond nid yw hyn yn wir bob amser.
Beth alla'i ei ailddefnyddio heb ganiatâd?
Ceir eithriadau sy'n caniatáu defnyddio gwaith hawlfraint o fewn amodau a chyfyngiadau penodol, er enghraifft; defnyddio dyfyniad byr ar gyfer ymchwil nad yw'n fasnachol ac astudiaeth breifat (Eithriadau Delio Teg) - neu i ganiatáu ar gyfer beirniadaeth neu adolygiad. Fodd bynnag, rhaid cydnabod pob ffynhonnell yn llawn ac yn gywir. Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am ganiatâd.
Bydd rhai perchnogion hawlfraint yn caniatáu rhai mathau o ddefnydd; mae bob amser yn werth gwirio'r datganiad ar hawlfraint yn y cyfnodolyn, ar dudalen deitl y llyfr neu edrych ar unrhyw gyfyngiadau ar y wefan. Ymhob achos mae'n rhaid i chi gydnabod y ffynhonnell.
Ar gyfer beth ydw i angen caniatâd?
Ar gyfer dyfyniad mwy helaeth, unrhyw fath o ddelwedd (darluniau, delweddau graffig, lluniau, mapiau, tablau) deunydd a gyhoeddwyd ar y rhyngrwyd, gweithiau heb eu cyhoeddi a hefyd unrhyw gerddoriaeth. Ceir camsyniad cyffredin bod deunydd sydd ar gael yn gyhoeddus ar y we yn rhydd i'w ddefnyddio - mae deddfau hawlfraint yn berthnasol. Nid yw'r ffaith fod deunydd yn y 'Parth Cyhoeddus' yn golygu ei fod ar gael yn gyhoeddus.
Sut ydw i’n cael caniatâd?
Gall y broses yma gymryd peth amser, ac mae'n hanfodol gofyn caniatâd mor fuan ag sy'n bosibl. Man cychwyn da fel rheol yw'r cyhoeddwr. Mae perchennog hawlfraint delweddau fel rheol wedi'i nodi ar y ddelwedd neu wrth ei hochr, neu'n cael ei gydnabod ar y dechrau. Mae hefyd yn werth edrych ar wefan WATCH o gysylltiadau hawlfraint. Am fwy o wybodaeth am gael hyd i berchnogion hawlfraint, edrychwch ar wefan yr IPO.
Os ydych yn ei chael yn anodd dod o hyd i'r perchennog, cysylltwch â'ch goruchwyliwr am gymorth ac arweiniad.
Mae gennym dempled i ofyn am ganiatâd y gellir ei defnyddio: [Word] [pdf].
Beth os na roddir caniatâd?
Os na ellwch chi ddod o hyd i berchennog yr hawlfraint, neu os na chewch chi ateb (rhaid cadw cofnod o'r ymdrechion yn yr achosion hyn) neu os gwrthodir rhoi caniatâd, gellwch dynnu'r darn a naill ai rhoi cyfeiriad yn ei le, neu leihau'r darn er mwyn ei ystyried yn ‘ddelio teg’.
Fel myfyrwyr prifysgol Bangor, tra gofynnwn i chi wneud yr ymdrechion gorau i geisio caniatâd am ddeunydd hawlfraint trydydd parti, ni fydd methu â sicrhau caniatâd yn effeithio ar farcio'r gwaith. Fodd bynnag, heb y caniatâd sy'n ofynnol, ni ellir gwneud eich gwaith ar gael i'r cyhoedd yn y storfa. Cofiwch y dylid cyfeirnodi a chydnabod pob ffynhonnell a ddefnyddir mewn gwaith a gyflwynir, p’un a geir caniatâd i’w defnyddio neu beidio. Llên-ladrad yw peidio â chyfeirnodi a chydnabod ffynonellau, a bydd hynny’n arwain at gymryd camau yn unol â threfn y brifysgol ar ymarfer annheg.
Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr o unrhyw fater sy'n ymwneud â hawlfraint.Cadw Eich Thesis yn Gyfreithlon
Eiddo deallusol, masnacheiddio ac ymgynghoriaeth
Cwestiynau Cyffredin ar Hawlfraint
Rhagor o wybodaeth a chymorth
Cyflwyniadau a gwybodaeth ddefnyddiol:
Fideo - ‘Through the Copyright Jungle’
Fideo - ‘CLA Copyright Essentials’
Cyflwyniad - Copyright for OER
Copyright MOOC - Cyflwyniad i hawliau eiddo deallusol yw hwn ac yn fwy penodol i hawlfreintiau. Ni fwriedir i'r cwrs hwn fod yn gwrs academaidd ond, yn hytrach, yn gyflwyniad ymarferol i unrhyw un sy'n creu deunyddiau gwreiddiol neu sy'n defnyddio, ailddefnyddio, cymysgu neu addasu deunyddiau gwreiddiol a grëwyd gan eraill.
Cysylltiadau defnyddiol pellach:
Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988
Cymdeithas Cyhoeddwyr Cerddoriaeth
Arweiniad ar Gyfraith Hawlfraint
Ffynonellau pellach:
JISC IPR Toolkit - sy'n rhoi cyngor ar arfer da i rai'n creu cynnwys.
Canllawiau Defnyddwyr CLA - mae'n rhoi canllawiau manwl i delerau ac amodau'r Drwydded ar gyfer y Brifysgol.
Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr o unrhyw fater sy'n ymwneud â hawlfraint.
Polisïau'r Brifsygol
Polisi Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ar Ddefnyddio Deunydd Hawlfraint Trydydd Parti (Polisi'r Brifysgol ar Hawlfraint)
Polisi'r Brifysgol ar Eiddo Deallusol
Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr o unrhyw fater sy'n ymwneud â hawlfraint.