Ailagor ein Adeiladau a Gwasanaethau Llyfrgell
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ar agor. Isod cewch arweiniad i ba wasanaethau sydd ar gael, a pha fesurau sydd ar waith i gadw pawb mor ddiogel â phosibl.
Sylwch - Rhaid cyflwyno'r holl wasanaethau a threfniadau gweithio yn unol â chanllawiau a chyngor y llywodraeth a'r brifysgol. O'r herwydd, gall gwasanaethau a mynediad i adeiladau newid ar fyr rybudd.
Gorchuddion Wyneb – Rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb bob amser pan fyddwch yn adeilad y llyfrgell (oni bai eich bod yn eithriedig).
Am fwy o wybodaeth, ewch at ein tudalennau Cwestiynau a Ofynnwyd yn Aml (FAQ). Os nad yw eich cwestiwn wedi ei restri, cysylltwch â ni drwy library@bangor.ac.uk
Mynediad at Lyfrau
Sylwch: Erbyn hyn mae modd pori'r silffoedd llyfrau yn y Brif Lyfrgell. Bydd llyfrgelloedd Deiniol a Wrecsam yn agor i'w pori o 27 Medi. Gallwch astudio mewn ardaloedd dynodedig yn ein holl lyfrgelloedd.
Adnoddau Arlein
Yr ydym yn darparu mynediad hawdd at gasgliad eang o lyfrau, cyfnodolion a databasau arlein, gan gynnwys ein casgliadau treftadol unigryw. Mae gan y llyfrgell gasgliad enfawr o e-adnoddau er mwyn sicrhau fod gennych fynediad at adnoddau ar, ac oddi ar y campws.
Yr ydym hefyd wedi ei gwneud yn haws i gael mynediad i’n e-adnoddau testun llawn trwyddedig a mynediad agored tra’n pori’r we oddiar y campws gyda’n hychwanegiadau porwr am-ddim: LibKey Nomad Lean Library.
- Chwiliad Llyfrgell yw’r arf sydd ei angen arnoch i chwilio am ein hadnoddau a’n casgliadau. Gallwch chwilio am e-lyfrau, e-gyfnodolion, databasau, papurau newydd arlein, papurau cynhadleddau a llawer mwy.
- Mae’r cysylltiadau i adnoddau electronig ar gyfer eich modiwlau ar gael trwy restrau darllen eich modiwlau ar Blackboard.
- Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm cefnogaeth academaidd.
Dychwelyd Llyfrau
Angen dychwelyd llyfrau?
Mae holl ganghennau’r llyfrgell nawr yn derbyn dychwelyd llyfrau ar y safle pan mae’r adeiladau ar agor. Cofiwch ddefnyddio y biniau dychwelyd llyfrau a ddarparwyd. Gallwch hefyd ddychwelyd llyfrau yn swyddfeydd neuaddau Santes Fair a Ffriddoedd. Gwelwch ein tudalennau cwestiynau cyffredin am ragor o fanylion.
Os nad ydych yn dychwelyd i Fangor ond am anfon llyfrau’n ôl inni, gallwch defnyddio ein cynllun rhadbost. Cliciwch yma am y manylion.
Nodwch – er mwyn lleihau’r peryg o ledu’r firws, bydd yr holl lyfrau a ddychwelir yn cael eu gosod dan gwarantin am 72 awr ar y dechrau, cyn cael eu tynnu oddi ar eich cyfrif.
Mynediad at Fannau Astudio a Chyfleusterau
Mae pethau ychydig yn wahanol yn ein llyfrgelloedd eleni. Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, mae llai o fynediad i'n lleoedd astudio, o ran nifer a'r mathau o leoedd sydd ar gael.
Mae ein holl lyfrgelloedd yn cynnig gwasanaeth Clicio a Chasglu i gael mynediad at lyfrau print y gellir eu benthyg.
Os nad ydych yn dychwelyd i Fangor ond am anfon llyfrau’n ôl inni, gallwch defnyddio ein cynllun rhadbost. Cliciwch yma am y manylion.
Nodwch – er mwyn lleihau’r peryg o ledu’r firws, bydd yr holl lyfrau a ddychwelir yn cael eu gosod dan gwarantin am 72 awr ar y dechrau, cyn cael eu tynnu oddi ar eich cyfrif.
Y Brif Lyfrgell
Mae gan y Brif Lyfrgell nifer o fannau astudio â chyfrifiaduron personol a gliniaduron ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Efallai y bydd y llyfrgelloedd yn llawn ar adegau ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros y tu allan nes bydd lle ar gael. Gwelwch wybodaeth am y gangen benodol i gael manylion llawn.
Llyfrgell Deiniol
Mae gan Lyfrgell Deiniol nifer o fannau astudio â chyfrifiaduron personol a gliniaduron ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Efallai y bydd y llyfrgelloedd yn llawn ar adegau ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros y tu allan nes bydd lle ar gael. Gwelwch wybodaeth am y gangen benodol i gael manylion llawn.
Llyfrgell Safle'r Normal
Gallwch gael mynediad i ystafell â chyfrifiaduron personol 24/7 ar Safle’r Normal er mwyn astudio. Bydd angen eich cerdyn staff/myfyriwr arnoch i ddod i mewn. (O 7 Ebrill) Bydd mannau astudio ychwanegol ar gael ar y safle.
Llyfrgell Maelor Wrecsam
Mae gan Lyfrgell Maelor Wrecsam nifer o wahanol fannau astudio y gellir eu harchebu. I archebu'ch sedd, e-bostiwch iss60a@bangor.ac.uk i ofyn am le i astudio. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Mae gan Pontio leoedd cyfrifiadur ac astudio ychwanegol os oes angen.
Archifau a Chasgliadau Arbennig
(O 12 Ebrill) Gallwch archebu lleoedd astudio i weld deunydd archifol ac eitemau o'n casgliadau arbennig. Cysylltwch â ni yn archifau@bangor.ac.uk neu 01248 383276 cyn eich ymweliad er mwyn archebu lle i astudio a thrafod eich gofynion.
Ystafell Technoleg Gynorthwyol
Gall myfyrwyr sydd â Chynllun Cefnogi Dysgu Personol gael mynediad at Ystafell Technoleg Gynorthwyol y Brif Lyfrgell trwy’r gwasanaeth Neilltuo a Darllen.
(O 7 Ebrill) Mae mynediad i'r Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol yn Llyfrgell Deiniol yn gweithio ar sail galw heibio.Gwasanaethau a Chefnogaeth Arlein
Rydym o hyd wedi ymrwyno at ddarparu cefnogaeth o safon arlein, felly mae’n dal i fod gennych fynediad at:
- Filoedd o e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data ar gael drwy Chwiliad Llyfrgell
- Cymorth a chefnogaeth yn syth drwy sgwrs fyw
- Cefnogaeth arbenigol gan ein Llyfrgellwyr Cefnogaeth Academaidd
- Arweiniad cymorth a hyfforddiant i roi ichi’r sgiliau lyfrgell rydych eu hangen i ddysgu ac astudio’n effeithiol
- Mynediad at erthyglau nad oes gennym fynediad tanysgrifiwr atynt drwy’r gwasanaeth Benthyca Rhwng Llyfrgelloedd.
Cardiau Adnabod Myfyrwyr/Staff
Os oes gennych ymholiad ynglŷn â’ch cerdyn adnabod, anfonnwch ebost at llyfrgell@bangor.ac.uk.
Mesurau Diogelwch ar Safle
Ein cadw i gyd yn diogel
Rydyn ni'n cymryd camau i'ch cadw chi a'n staff mor ddiogel â phosib.
- Gorchuddion Wyneb – Rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn adeiladau’r llyfrgell bob amser (oni bai eich bod yn eithriedig).
- Diogelwch Drws – Er mwyn atal mynediad heb awdurdod, bydd angen i chi ddefnyddio'ch cerdyn adnabod staff neu fyfyriwr i fynd i mewn i adeiladau llyfrgell.
- Systemau Un Ffordd – Mae’r rhain ar waith ar y safle er mwyn gallu cerdded yn ddiogel o amgylch adeiladau. Dilynwch gyfeiriad yr arwyddion yn yr adeilad.
- Cadw pellter Cymdeithasol - Mae hyn ar waith ar bob safle a rhaid cadw ato. Oherwydd canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ni allwn gynnig cyfleusterau astudio grŵp (h.y. dysgu cymdeithasol) nac ystafelloedd y gellir eu harchebu yn ein llyfrgelloedd ar yr adeg hon.
- Niferoedd Gostyngedig - Er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn mannau astudio, mae nifer y lleoedd astudio a chyfrifiaduron yn Llyfrgelloedd Deiniol, y Normal a Maelor Wrecsam wedi'i ostwng (mae'r Brif Lyfrgell yn gweithredu Gwasanaeth Neilltuo a Darllen i gael mynediad at ddeunydd na ellir ei fenthyg). Efallai y bydd y llyfrgelloedd yn llawn ar adegau ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros y tu allan nes bydd lle ar gael (gellwch archebu mannau yn Llyfrgell Maelor Wrecsam).
- Darparu Gel Dwylo a Chadachau - Bydd hylif diheintio dwylo ar gael yn ein holl fannau cyhoeddus. Defnyddiwch y rhain wrth gyrraedd. Bydd gorsafoedd glanhau o amgylch adeiladau hefyd. Gofynnir yn garedig i chi lanhau eich man astudio wrth gyrraedd a gadael er eich diogelwch chi a diogelwch pobl eraill.
- Mwy o Awyru - Oherwydd yr angen i gadw lleoedd llyfrgell wedi'u hawyru'n dda, bydd ffenestri'n cael eu cadw ar agor a bydd unrhyw systemau awyru yn cylchredeg aer oer. Efallai y bydd hi’n oer ar brydiau, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad cynnes!
- Trefniadau glanhau - Mae staff o'r Gwasanaethau Eiddo a Champws yn glanhau'n amlach ac yn fwy trylwyr ar y safle, yn cynnwys glanhau pwyntiau cyffwrdd yn aml trwy'r dydd.
- Cwarantîn i lyfrau - Caiff yr holl lyfrau a ddychwelir eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr ar ôl eu defnyddio er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo firws.
Gwybodaeth Penodol i Ganghennau
Oriau Agor
Please contact the relevant Academic Support Librarian for your School with any queries about ordering new resources to be added to Library stock.
Click here for contact details.
Academic staff are discouraged from purchasing material directly. The Library usually obtains discounts from regular suppliers, therefore reimbursement will only be considered under exceptional circumstances.