Cymorth gyda Hygyrchedd
Mae Llyfrgell Prifysgol Bangor yn cynnig ystod eang o wasanaethau yn benodol ar gyfer defnyddwyr sydd â Chynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP).
Alla i archebu copi fformat hygyrch o adnoddau’r llyfrgell?
- Hawliau benthyca ychwanegol:
Mae gan ddefnyddwyr sydd â PLSP yr hawl i fenthyca eitemau benthyciad byr yn unig am gyfnod hirach: 48 awr yn hytrach na 24 awr, a 6 diwrnod yn hytrach na 3 diwrnod ar gyfer eitemau benthyciad byr. - Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol - Bydd gan fyfyrwyr sydd ganddynt PLSP hefyd fynediad i’r ystafell dechnoleg gynorthwyol yn Llyfrgell Deiniol ar gyfer galw i mewn. Mae’r ystafell dechnoleg gynorthwyol yn y Brif Lyfrgell ar gael drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Cadw a Darllen.
- Gwasanaeth casglu llyfrau: Mae defnyddwyr sydd â PLSP ac sy'n ei chael hi'n anodd cyrchu'r silffoedd yn gymwys i ddefnyddio ein gwasanaeth casglu llyfrau. Os hoffech chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, e-bostiwch eich rhestr ddarllen i llyfrgell@bangor.ac.uk
- Hawlio arian yn ôl am lungopïo:
Efallai y bydd defnyddwyr sydd wedi eu cymeradwyo gan y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn gallu hawlio eu costau llungopïo yn ôl oddi wrth yr adran Cyllid Myfyrwyr. I wneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb bob tro y byddwch yn prynnu credyd argraffu. Dylid anfon y derbynebau i'r adran Cyllid Myfyrwyr. - Canllawiau Cymorth
- Ffurflen gais fformat hygyrch
- Cyfleusterau'r Canghenau
- Sensus Access (Dull hunan-wasanaeth sy’n galluogi myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor i drosi dogfennau’n awtomatig i fformat arall)
- Cysylltwch â ni
- Holi ar-lein
- Datganiad Hygyrchedd
Cysylltiadau Ychwanegol yn y Brifysgol
chat loading...