Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd
Gellir gwneud cais am eitemau nad ydynt gan y llyfrgell gan ddefnyddio'r gwasanaeth benthyciadau rhwng llyfrgelloedd. Gall benthyciadau rhwng llyfrgelloedd gymryd 2 - 3 wythnos i gyrraedd, ond gall copïau o erthyglau mewn cyfnodolion gyrraedd o fewn 1 - 4 diwrnod. Weithiau nid yw'n bosib cael eitem oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol.
Mae gwybodaeth bellach ar sut i wneud cais am fenthyciad rhwng llyfrgelloedd ar gael ar ein gwe-dudalen cwestiynau cyffredin:
Sut ydw i'n gwneud cais benthyciad rhwng llyfrgelloedd?
Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgelloedd?
Gall y defnyddwyr a ganlyn ddefnyddio'r gwasanaeth os oes ganddynt gyfrif llyfrgell dilys:
- Israddedigion
- Ôl-raddedigion Ymchwil ac Ôl-raddedigion Hyfforddedig
- Staff, yn cynnwys Staff Cysylltiol Prifysgol Bangor
Ni chaniateir i'r defnyddwyr llyfrgell a ganlyn ddefnyddio'r gwasanaeth hwn:
- Holl Ddefnyddwyr Allanol, yn cynnwys Myfyrwyr Cysylltiol
- Ymwelwyr sy'n galw heibio ac aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol
Mae'r llyfrgell yn cynnig nifer cyfyngedig o gredydau benthyciad rhwng llyfrgelloedd am ddim i bob defnyddiwr. Os ydych yn defnyddio'ch cwota o gredydau am ddim, codir tâl dilynol o £11.45 ar gyfer erthyglau/penodau a £16.75 am lyfrau ar gyfer unrhyw geisiadau ychwanegol.
Y cwota yw:
Israddedig | 5 cais |
Ôl-raddedig addysgir | 10 cais |
Ôl-raddedig Ymchwil | 20 cais |
Staff | 30 cais |
Mae'r llyfrgell yn rhoi cymhorthdal tuag at y gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgelloedd ac felly rydym yn gofyn yn garedig i chi beidio â gofyn am ddeunyddiau nad ydynt yn hanfodol ar gyfer eich ymchwil a'ch astudiaethau.
Yn achos myfyrwyr sy'n gwneud adolygiad systematig, a fyddech cystal â chysylltu â'r Tîm Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd cyn gwneud unrhyw geisiadau: ill@bangor.ac.uk
Erthyglau Electronig o'r Llyfrgell Brydeinig
Caiff erthyglau electronig a gyflenwir gan y Llyfrgell Brydeinig eu darparu drwy'r system 'DRM Lite Article Delivery'.
Pan dderbyniwch eich erthygl gyntaf o'r Llyfrgell Brydeinig bydd angen i chi gofrestru ar gyfer On Demand (mae cyswllt i gofrestru i'w gael yn yr e-bost o'r Llyfrgell Brydeinig) a defnyddir y cyfrinair hwn i agor eich holl ddogfennau yn y dyfodol.
Bydd arnoch angen Adobe Reader fersiwn 10 neu uwch. Rydym yn argymell i chi ddefnyddio Firefox, Safari neu IE, ond, os yw'n well gennych ddefnyddio Chrome, mae yna gam ychwanegol. Nid yw syllwr pdf y porwr yn gymhathus â danfon diogel, felly byddwch yn cael tudalen wag wrth lawrlwytho eich erthygl. Ar waelod y sgrin fe welwch yr eicon pdf ac enw'r ffeil, cliciwch y saeth i lawr a dewiswch 'Always open in Adobe Reader'.
Am wybodaeth bellach a chyfarwyddyd, ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin am DRM Lite neu cysylltwch â ni yn: ill@bangor.ac.uk neu 01248 388200.