Gwybodaeth i Ymchwilwyr
Cefnogi Ymchwil
Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau’n darparu gwasanaethau o safon uchel sy'n canolbwyntio ar anghenion ymchwilwyr ac yn cefnogi cynllun strategol y brifysgol, blaenoriaeth strategol 2: cryfhau llwyddiant ymchwil. Rydym yn cefnogi ymchwilwyr ym mhob cam o'r cylch ymchwil o helpu efo'r cais dechreuol i ledaenu'r wybodaeth a'r canlyniadau sy'n deillio o'r project ymchwil.
I wybod mwy cysylltwch â:
Michelle Walker, Rheolwr yr Ystorfa a Data Ymchwil. Ffôn: 01248 382773
Blog Cefnogaeth Ymchwil
Ein bwriad yw cyhoeddi negeseuon blog yn rheolaidd er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi ynglŷn â thueddiadau a pholisïau mewn Cyhoeddi Mynediad Agored, Rheoli Data Ymchwil, a rhoi manylion am y gefnogaeth sydd ar gael gan Wasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor.
PURE@Bangor
chat loading...