Dod o hyd i Restrau Darllen Bangor
Mae'r dudalen hon yn cynnwys yr adrannau canlynol:
Tudalen Rhestr Ddarllen
Blackboard
Gwefan a Chatalog y Llyfrgell
Google
Tudalen Rhestr Ddarllen
Chwilio yn ôl cod neu deitl modiwl drwy'r dudalen Rhestrau Darllen: http://rhestraudarllen.bangor.ac.uk/
Blackboard
Agorwch eich modiwl Blackboard ac yna cliciwch ar yr opsiwn Llyfrau ac Offer o'r ddewislen ar y chwith.
Os nad oes rhestr yn ymddangos, neu os hoffech newid eich rhestr gysylltiedig, dewiswch yr opsiwn Rhestrau Darllen Bangor o'r ddewislen Llyfrau ac Offer Cwrs ar y dde.
Gwefan a Chatalog y Llyfrgell
- Ar wefan y llyfrgell, ceir cyswllt yn y rhestr Cysylltiadau Cyflym at y dudalen Rhestrau Darllen.
- Yng nghatalog y llyfrgell, mae dolen i Restrau Darllen ar frig y dudalen yn rhan o’r brif ddelwedd.
Google - Chwiliwch am restrau darllen ar Google trwy deipio ‘Rhestrau Darllen Bangor’ a theitl y modiwl NEU god y modiwl, e.e. Rhestrau Darllen Ymddygiad Anifeiliaid Bangor NEU Rhestrau Darllen Bangor BSX-2018.