Cysylltu eich rhestr ddarllen â Blackboard

 

Sut mae cysylltu eich rhestr ddarllen â Blackboard

Oherwydd newid a wnaed gan Blackboard yn yr uwchraddio diweddar, mae'r peirianwaith a oedd yn cysylltu myfyrwyr â'r rhestrau darllen wedi torri ac ni ellir ei drwsio nes bydd Blackboard yn cael ei ddiweddaru eto.   Mae yna broses faniwal sy'n creu'r cyswllt ac rydym wedi creu ciplun byr i ddangos sut i wneud hynny.   Fel y byddwch yn gweld, mae'n haws os yw eich rhestr ddarllen yn agored gennych yn Talis cyn i chi agor y modiwl Blackboard mewn tab ar wahân.

Pan mae eich rhestr ddarllen yn agored, copïwch y gwe gyfeiriad (gan ddefnyddio de glicio a chopïo), yna ewch i Blackboard a dewiswch 'create web link' yn y ddewislen 'tynnu i lawr' (lle rydych yn ychwanegu botymau cynnwys).   Yn y ffenestr cyswllt gwe, ychwanegwch y teitl Rhestr Ddarllen ac yna pastio'r gwe gyfeiriad i'r bocs url.

 

Gweler fideo o'r broses yma: https://www.screencast.com/t/OimF2cKf1