Hyrwyddo eich Cynnyrch Ymchwil
Dadamwyso: rhoi'r clod lle mae i fod
Argymhellwn fod awduron yn gyson o ran ffurf yr enw a ddefnyddir mewn cyhoeddiadau. Oherwydd y posiblrwydd bod gan lawer o ymchwilwyr yn yr un maes neu mewn maes gwahanol yr un enw cyntaf ac enw olaf, mae problem adnabod awduron o fewn y gymuned ymchwil ysgolheigaidd. I osgoi'r broblem hon mae'n werth rhoi "rhif adnabod awdur unigryw" i bob awdur. Dwy o'r systemau mwyaf adnabyddus sy'n rhoi rhifau adnabod unigryw i awduron yw ResearcherID, sydd yn rhan o Thomson Reuters Web of Science; ac ORCID (Open Researcher & Contributor ID).
Mae’n bwysig bod awduron yn defnyddio cyfeiriad llawn y brifysgol yn gyson yn eu cyhoeddiadau. Peidiwch â defnyddio enw grŵp ymchwil neu ganolfan ymchwil heb enw a chyfeiriad llawn y brifysgol.
Nid yw’n anarferol i gronfa ddata wneud camgymeriad a phriodoli erthygl i'r unigolyn neu'r sefydliad anghywir. Mae'n werth rhoi amser i chwilio cronfeydd data megis Web of Science a Google Scholar i wneud yn siŵr bod eich papurau i gyd yn gywir ac wedi eu priodoli i chi.
Mynediad Agored
Mae rhoi mynediad agored i'ch gwaith yn rhoi mwy o amlygrwydd iddo ac mae tystiolaeth bod yna fwy o ddyfynnu o erthyglau mynediad agored. Dangoswyd yn ogystal bod rhoi mynediad agored hefyd i'r data sy'n sail i'r papur yn codi nifer y dyfyniadau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: http://www.bangor.ac.uk/library/OpenAccess.php.cy
Cyfryngau Cymdeithasol
Ceir tystiolaeth bod defnyddio Twitter, blogiau, podlediadau a dulliau fel Research Gate yn rhoi mwy o amlygrwydd i'ch ymchwil ac yn cynyddu nifer y dyfyniadau a'r lawrlwythiadau.
Ailbostio
Rhowch gysylltiadau i'ch erthygl yng nghadwrfa ddigidol y brifysgol, ar wefannau project, neu ar dudalennau gwe personol i wneud eich erthyglau'n fwy amlwg.
Hyrwyddo yn y cyfryngau
Ysgrifennwch ar gyfer gwefannau megis The Conversation a chyfryngau newyddion lleol a rhowch gyswllt â'ch gwaith ymchwil gwreiddiol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg: http://www.bangor.ac.uk/news/index.php.cy
Crynodebau Graffig neu Fideo a Chrynodebau Lleyg
Gall lluniau a chyfryngau cyfoethog eraill gynyddu'r diddordeb yn eich erthygl. Chwilio am gyfle i ychwanegu fideos gwe-ddarllediad byr i'ch erthyglau, neu i ychwanegu crynodebau fideo neu graffig. Chwiliwch am gyfleoedd hefyd i ychwanegu crynodebau lleyg neu 'Saesneg plaen'.