Lle i Ymchwilio ac Astudio

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio hyblyg sy’n addas i anghenion unigol a grwpiau, yn cynnwys mannau i gydweithio, mannau cymdeithasol a mannau astudio’n dawel. Mae gennym hefyd ystafelloedd  cyfarfod a chyfleusterau i ôl-raddedigion.

Mae cyswllt Wi-Fi yn holl adeiladau'r llyfrgell, ac mae nifer o beiriannau argraffu ym mhob llyfrgell i argraffu, copio a sganio.

Mae staff y llyfrgell wrth law i helpu ag ymholiadau trwy gydol y diwrnod.

Gellwch fynd at wefan, catalog, llyfrau electronig, cyfnodolion electronig a chronfeydd data'r llyfrgell 24/7 ar www.bangor.ac.uk/llyfrgell