LibKey Nomad
Estyniad porwr i gyflymu eich proses ymchwil
Er mwyn helpu i symleiddio'r broses ymchwil ar-lein, rydym yn cyflwyno LibKey Nomad sef estyniad porwr am ddim sy'n eich galluogi i fynd at ein herthyglau llyfrgell wrth bori'r we!
Ar ôl i'r estyniad gael ei osod, pryd bynnag y gwelwch erthygl mewn cyfnodolyn y tu allan i gatalog y llyfrgell, bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod i chi a yw'r erthygl ar gael trwy danysgrifiadau ein llyfrgell, neu os oes copi mynediad agored ar gael trwy rybudd baner ar waelod y dudalen, fel isod:

Cliciwch ar yr eicon a ddangosir i fynd at yr erthygl!
Mae opsiynau mynediad LibKey Nomad hefyd ar gael ar dudalennau canlyniadau chwilio (e.e. PubMed, Web of Science) a gwefannau cyfeirio (e.g. Wikipedia).


Sylwer: Os ydych oddi ar y campws, cewch eich arwain at dudalen fewngofnodi Prifysgol Bangor i ddilysu. NID yw LibKey Nomad yn cadw eich cyfrinair.
Sut i osod LibKey Nomad
Mae LibKey Nomad yn cefnogi fersiwn 76.x Google Chrome a fersiynau mwy newydd. Ni fydd angen ei osod mwy nag unwaith.
1. Cliciwch ar y botwm 'Add at Chrome', ac yna ar y botwm 'Add extension'.

2. Bydd LibKey Nomad yn gofyn i chi ddewis sefydliad - 'Select Institution'. Teipiwch Bangor, ac yna dewiswch Prifysgol Bangor.


3. Mae'r broses sefydlu wedi'i chwblhau. Gallwch yn awr ddechrau defnyddio'r estyniad!
Sylwer: Dylai LibKey Nomad weithio ar Safari, a mewn porwyr eraill sy'n seiliedig ar Chrome a chaniatáu estyniadau o siop Chrome ar y we, er enghraifft y fersiwn ddiweddaraf o borwyr Microsoft Edge a Brave. Ar gyfer Edge efallai y cewch eich annog i ganiatáu estyniadau o siopau eraill - gwnewch yn siŵr eich bod yn deall goblygiadau'r dewis hwn, gan na allwn ddarparu unrhyw gefnogaeth swyddogol i Nomad ar y porwyr hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am LibKey Nomad, cysylltwch â ni neu edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.