Adnoddau cyffredinol
E-Adnoddau
Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor fynediad i e-lyfrau, e-gylchgronau, erthyglau ar-lein ac e-adnoddau eraill. Gellir cyrchu'r rhain wrth bori catalog y llyfrgell neu bori'r we.
- Cafwyd 1,400 o E-Lyfrau y flwyddyn academaidd ddiwethaf
- Cyrchwyd 100,000 o gyfnodolion ar-lein y tanysgrifiwyd iddynt
Cyrchu deunydd o fewn catalog y Llyfrgell:
Wrth ddewis chwilio am gynnwys hygyrch ar-lein yn unig yng nghatalog y llyfrgell, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis naill ai cwmpas chwilio E-adnoddau Bangor neu'r cwmpas chwilio Erthyglau.
Cael mynediad at ddeunydd wrth chwilio'r rhyngrwyd (Oddi ar y campws):Hestyniadau Porwr.
Os yw'n well gennych chwilio am ddeunydd ar borwr gwe fel Google, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gosod un o'n hestyniadau Porwr. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu cyrchu deunydd y mae Prifysgol Bangor yn tanysgrifio iddo heb daro wal dalu. Darllenwch fwy am Estyniadau Porwr yma.
Darllenwch ein geirfa e-adnoddau i'ch helpu i ddeall rhai o'r ymadroddion a'r jargon cyffredin.
Problemau hygyrchedd? Ewch i'n tudalen Cefnogaeth Hygyrchedd am fanylion.
Ymwelwyr allanol
Gallwch barhau i gael mynediad at ein hadnoddau ar-lein os ydych yn cofrestru i ddefnyddio ein Gwasanaeth Mynediad Cerdded i Mewn. (Oherwydd cyfyngiadau presennol ar gampws y brifysgol, mae’r gwasanaeth hwn wedi’i atal hyd nes y clywir yn wahanol.)
Unrhyw gwestiynau? Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin am E-Adnoddau.