Llyfrgelloedd Cenedlaethol
Y Llyfrgell Brydeinig (Llundain)
I gael y manylion llawn am ofynion mynediad i ystafelloedd darllen y Llyfrgell Brydeinig yn St Pancras ynghyd â ffurflen gais ewch fan hyn. Cofiwch na fydd israddedigion, a graddedigion sy’n dilyn cyrsiau dysgu, yn cael defnyddio deunyddiau yn y Llyfrgell Brydeinig os bydd y deunyddiau ar gael yn rhywle arall.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Cewch fynediad at y casgliadau sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth trwy Docyn Darllenwr. Medrwch gofrestru arlein cyn eich ymweliad fel cam cyntaf i ddod yn ddarllenydd.
Ewch â’r ffurflen gais wedi ei chwblhau, ynghyd â dau lun pasport, gyda chi pan fyddwch yn mynd i’r Llyfrgell Genedlaethol, a chyflwynwch hwy wrth gownter y dderbynfa ar y prif lawr. Dylech hefyd ddarparu dau brawf adnabod, gyda’ch cyfeiriad presennol ar un ohonynt. Ni fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi tocynnau darllenwr heb brawf adnabod digonol.
Bydd eich tocyn darllenwr ar gael mor fuan ag y bo modd, a byddwch yn gallu defnyddio’r Ystafelloedd Darllen yn syth. I gael rhagor o wybodaeth a’r catalog ewch i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.