Rhagor o Wybodaeth
- Cwestiynau Cyffredin
- Edrychwch ar ganllaw cyffredinol i'r gwasanaethau a gynigiwn
- Oriau Agor
- Cyfarwyddiadau Teithio
- Rhoddion
- Archifau a Chasgliadau Arbennig
- Cysylltwch â Ni
- Hawlfraint
Adnoddau
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Croeso i Wasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor
Mae gan Brifysgol Bangor ddwy lyfrgell mynediad agored, sy'n cwmpasu ystod eang o byncia.
Gall unrhyw un ymweld â ni yn ystod ein horiau gwasanaeth staff a phori trwy ein casgliadau yn ddi-dâl. Mae'n syniad da i fwrw trwy ein catalog llyfrgell cyn eich ymweliad er mwyn cael gwybod ym mha gangen i ddod o hyd i eitem.
Os ydych eisiau benthyca o'n casgliadau, gallwch wneud cais i ymaelodi fel fenthyciwr yn rhad ac am ddim trwy gynlluniau benthyca rhwng llyfrgelloedd lleol neu genedlaethol megis Linc y Gogledd neu Sconul Access. Darllenwch ein tudalennau gwe benthyca am ragor o wybodaeth.
Gall ymwelwyr hefyd ddefnyddio amryw o gyfleusterau llyfrgell ar y safle, megis mynediad ar y campws at E-adnoddau, offer gwylio microffilm a llungopiwyr (codir ffi). Rydym yn hapus i dderbyn ymholiadau trwy e-bost: llyfrgell@bangor.ac.uk
Mae gan ein Archifau a Chasgliadau Arbennig nifer o lawysgrifau unigryw, deunydd printiedig a llyfrau prin. Mae ein casgliadau ar agor i'r cyhoedd, ac unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda'r Archifau, gallwch eu hastudio yn ystafell ddarllen Archifau. Gweler tudalennau gwe Archifau a Chasgliadau Arbennig am ragor o fanylion.
Sylwer - Rhaid i unrhyw blant dan 16 fod yng nghmwni a than oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol drwy'r amser. Ni all Llyfrgell Prifysgol Bangor fod yn gyfrifol am unrhyw anaf a geir tra'r ydych yn yr adeilad. Rhaid i bob defnyddiwr gadw at y Polisi Defnydd Derbyniol y Llyfrgell.