Digwyddiad Hyfforddi a Datblygiad Busnes Proffesiynol
Gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant wedi’u hariannu
Ymunwch â chynrychiolwyr o Dîm Hyfforddi a Datblygu GLLM yn Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor mewn Digwyddiad Hyfforddi Proffesiynol am ddim.
Dydd Iau, 18fed o Hydref 2.30yp-6.30yh (Sesiynau 1 awr)
Neuadd Hugh Owen, Y Ganolfan Rheolaeth, Bangor
Bydd y digwyddiad yn cynnwys stondinau masnach, sesiynau gwybodaeth 1 awr (gwelwch yr amserlen yma) a chyngor ar sut y gallech fod yn gymwys i gael hyd at 70% o gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddiant proffesiynol. Dewch i gwrdd â’r cynrychiolwyr o’r Cyrff Dyfarnu canlynol a fydd yn mynychu:
- Cymwysterau Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig a Cymwysedig (ACCA)
- Cymwysterau Sefydliad Siartredig Datblygiad Personel (CIPD)
- Cymhwyster Proffesiynol Sefydliad Siartredig Caffaeliad a Chyflenwad (CIPS)
- Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM)
- Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI)
- Academi Busnes Gogledd Cymru
- Prosiect Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr (SEE)
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael
Cofrestrwch yma