Rheoli Perfformiad Strategol (7002)
Ar y cwrs ymarferol a dwys hwn, sy'n para deuddydd, cewch eich cyflwyno i sgiliau Arwain Strategol mewn dull pragmatig a fydd yn gwella'ch gallu i arwain.
Beth fyddwch yn ei ddysgu?
Ar ddiwedd y ddau ddiwrnod, byddwch yn gallu:
- Pennu targedau perfformiad timau er mwyn cyflawni amcanion strategol
- Cytuno ar dargedau perfformiad tîm er mwyn cyfrannu at gyflawni amcanion strategol
- Monitro camau gweithredu a gweithgareddau a ddiffiniwyd er mwyn gwella perfformiad tîm
- Rhoi sgiliau dylanwadu a pherswadio ar waith yng nghyd-destun deinameg a gwleidyddiaeth rhyngweithio personol
Beth yw nod y rhaglen hon?
Nod y rhaglen hon yw eich galluogi i:
- Sicrhau bod nodau tîm yn cyd-fynd â'r strategaeth gorfforaethol
- Ennyn diddordeb pobl a datblygu perfformiad
- Deall cymhelliad a dylanwadu arno
- Monitro, mesur a gwella perfformiad
Pwy Fydd yn Elwa o'r Cwrs?
Bwriadwyd y cymhwyster Lefel 7 hwn mewn Arwain Strategol ar gyfer:
- Uwch reolwyr sydd ag awdurdod, sy'n gyfrifol, ac sydd â'r weledigaeth bersonol i droi strategaeth sefydliad yn berfformio effeithiol. Ar y cwrs hwn, disgwylir i uwch reolwyr adeiladu ar y sgiliau arwain sydd ganddynt eisoes, gan ganolbwyntio ar anghenion a chynaliadwyedd eu sefydliad eu hunain.
- Uwch reolwyr sydd wedi cael dyrchafiad o swydd benodol ac angen ehangu’ch gwybodaeth.
- Uwch reolwyr sydd newydd eu penodi neu rai sy'n paratoi ar gyfer eu dyrchafiad nesaf.
- Perchnogion busnesau sydd wedi cael rhywfaint o hyfforddiant ym maes arwain a rheoli neu sydd â chymwysterau ym maes Arwain Strategol.
Hanfodion y Cwrs
Mewn cyfres o sesiynau a gynlluniwyd yn ddeallus, byddwch yn dilyn canllaw’r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI) a'r deunyddiau atodol a fydd yn eich helpu i roi theori a gwybodaeth ar waith yn ddi-oed er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y gweithle.
Bydd y sesiynau'n rhyngweithiol, yn gwneud i chi feddwl ac yn ymarferol. Felly, yn ogystal â deall y theori greiddiol, byddwch hefyd yn dysgu sut i roi'r theori ar waith, gan feithrin eich gallu a'ch hygrededd fel arweinydd effeithiol, ac mae hynny yr un mor bwysig.
Ni fydd mwy na 15 ym mhob grŵp, felly bydd gan eich tiwtor amser i roi sylw i chi a chewch ddigon o gyfle i ddeall sut y gallwch ddefnyddio'r hyn a ddysgwch yn eich amgylchedd arbennig chi.
Os dewiswch astudio ar gyfer y cymhwyster, ar ôl pob sesiwn, cewch gymorth ac anogaeth i'ch helpu i gyrraedd y safon sy’n ddymunol.
Ynghylch y Tiwtor
Dewiswyd pob tiwtor yn ofalus, gan ofalu bod ganddynt y sgiliau a'r profiad perthnasol, yn ogystal â'r gallu i ddarparu hyfforddiant o'r safon uchaf bosibl i weithwyr proffesiynol.
Beth Nesaf?
Gallwch fynd ymlaen i astudio'r ddwy ddisgyblaeth ar wahân mewn rhaglenni deuddydd eraill. Bydd ein Cynghorwyr Hyfforddi'n falch o'ch helpu ymhellach drwy ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Sut i gysylltu â ni
Ffoniwch ein Tîm Hyfforddi heddiw ar 01248 365 981 neu anfonwch neges e-bost i training@themanagementcentre.co.uk