Gradd MBA The Chartered Banker
Ysgol Fusnes Bangor yw'r unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig gradd MBA The Chartered Banker. Mae hwn yn gymhwyster arloesol sy'n eich galluogi i ennill cymhwyster dwbl, sef MBA mewn Bancio a Chyllid yn ogystal â ’r statws 'Bancwr Siartredig' y mae galw mawr amdano â y cymhwyster proffesiynol uchaf sydd ar gael i fancwyr ledled y byd.
Mae gradd MBA The Chartered Banker, a fwriadwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur, yn rhoi pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol a galwedigaethol, gan wella'r ddealltwriaeth a'r defnydd a wneir o'r sgiliau sy'n angenrheidiol ym maes bancio yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r radd MBA hon yn cyfuno'r sgiliau a'r wybodaeth o safon uchel a geir gan Brifysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac sy'n ganolfan ragoriaeth ym maes ymchwil, gyda chymwyseddau proffesiynol a rheolaethol un o sefydliadau proffesiynol mwyaf blaenllaw'r byd ym maes bancio.
Yn gryno, mae gradd MBA The Chartered Banker yn gymhwyster sy'n cynnwys popeth y mae'r byd bancio'n galw amdano yn dilyn y cyfnod argyfyngus yn ei hanes.
I gael rhagor o wybodaeth am radd MBA The Chartered Banker, ewch i’r wefan annibynnol charteredbankermba.bangor.ac.uk
Neu, gallwch ffonio +44 (0) 1248 3659 83/ 84 neu anfon neges e-bost at cbmba-admissions@bangor.ac.uk