Hwb Ariannol i Ymchwil Canser Gogledd Cymru

Yr haf hwn, addawodd Ymchwil Canser Cymru bron i £500,000 i gyfres o brojectau canser newydd yn y gogledd, gan ddod â chyfanswm yr arian a wariwyd dros y 5 mlynedd diwethaf ar ymchwil canser yn yr ardal i oddeutu £3M.  Isod, edrychwn ar nifer o'r projectau hynny a dderbyniodd gyllid yn ddiweddar a'r budd a ddaw yn sgil hynny i gleifion canser yn y gogledd ac ymhellach i ffwrdd. 

Mae Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru yn Wrecsam, wedi derbyn cyllid i dreialu pecyn offer ymyrraeth newydd i'w ddefnyddio mewn meddygfeydd. Mae wedi'i gynllunio i helpu adnabod y cleifion hynny sy'n debygol o gael canser, a diagnosis cynharach yn sgil hynny. Mae'r meddygfeydd hynny sydd â'r cyfraddau atgyfeirio uchaf lle bo amheuaeth o ganser, wedi gwella'u canlyniadau'n gyson, o'i gymharu â'r rhai sydd â chyfraddau atgyfeirio is. Bydd dros 90% o'r cleifion sydd yn derbyn diagnosis o ganser yn y pen draw yn mynd at eu meddyg teulu â'r symptomau yn gyntaf, ond mae symptomau canser yn aml yn amwys ac yn debyg i gyflyrau eraill llai difrifol. 

Bydd y treial newydd yn defnyddio cyfres o ymyraethau sydd wedi'u targedu ac a ddatblygwyd at anghenion penodol y meddygon teulu. Y gobaith yw y bydd y gweithdai addysgol yn fodd i nodi'r union gleifion yr amheuir bod canser arnynt ac i atgyfeirio cleifion mewn da bryd heb achosi pryder gormodol a gor-ddiagnosis.  Caiff holl staff y practis, yn ogystal â'r meddygon teulu, eu hyfforddi i sicrhau bod y cleifion sydd â symptomau annelwig trafferthus yn cael sylw ddigonol a gan sicrhau y cânt ddiagnosis cywir trwy benodi hyrwyddwyr rhag canser yn y practis. Bydd hyd at ddeg ar hugain o feddygfeydd teulu dethol ledled Cymru'n cymryd rhan yng ngham cyntaf yr astudiaeth. 

Mae tua 25% o holl oncolegwyr meddygol Ewrop wedi'u hyfforddi hyd at lefel PhD, ac mae'n hollbwysig uwchsgilio a hyfforddi'r oncolegwyr talentog sydd gennym eisoes yng Nghymru. Bydd Dr. Ramsay McFarlane o Brifysgol Bangor yn goruchwylio hyfforddiant yr efrydiaeth PhD glinigol gyntaf a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru. 

Bydd yr oncolegydd a benodir yn gweithio ar ddatblygu llwyfan glinigol a fydd yn defnyddio marcwyr canser rhagfynegol sydd newydd eu darganfod i helpu clinigwyr wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynglŷn â thriniaeth. Mi wnaiff hynny helpu sicrhau bod y cleifion iawn yn derbyn y driniaeth iawn ar yr amser iawn. Canserau'r ysgyfaint a'r coluddyn - dyna'r ddau ganser sy'n peri'r nifer fwyaf o farwolaethau o ganser yng Nghymru. Mae bron i 3000 o farwolaethau o'r rhain yn unig - a dyma fydd ffocws cyntaf yr ymchwil clinigol pwysig hwn. 

Dywedodd Dr Ramsay MacFarlane, o Brifysgol Bangor “Mae'r ymchwil y mae gwyddonwyr yn ei wneud ledled y byd, gan gynnwys Cymru, wedi dangos y gall cleifion canser ymateb i lawer o'r triniaethau cyfredol mewn ffyrdd unigolyddol iawn, ac mae hynny wedi arwain at ddatblygu triniaethau newydd. Mae'n hanfodol sicrhau bod clinigwyr dygn Cymru yn meddu ar y ddirnadaeth a'r sgiliau i fanteisio ar y datblygiadau newydd er budd y cleifion. Bydd yr arian pwysig hwn gan Ymchwil Canser Cymru'n sicrhau y bydd darganfyddiadau a datblygiadau newydd mewn ymchwil canser o bob cwr o'r byd o fudd i gleifion yng Nghymru a bydd yn helpu sicrhau bod Cymru'n parhau i gyfrannu at arwain y byd mewn ymchwil canser a lleihau'r marwolaethau o ganser.”

Mewn man arall, bydd Dr Pasquale Innominato, sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaladr yn ymchwilio i weld a ellir mabwysiadu technolegau hawdd eu defnyddio i greu prosesau symlach yn ystod amser y clinigau.  Tra mae'r cleifion yn aros yn y clinig, cânt gyfle i ddefnyddio tabled electronig i lenwi e-holiaduron am eu hiechyd cyffredinol i sicrhau bod y cysywllt rhwng y claf a'r clinigwyr yn fwy effeithlon.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cynnwys ffactorau fel blinder, poen, colli cwsg, pryderon, ymhlith pethau eraill. Bydd y dull cyfannol hwn yn fodd i drefnu amser yr ymgynghoriad yn well a sicrhau y caiff yr holl fateruion sydd ar feddwl y cleifion sylw ac y bydd y profiad cyffredinol iddynt yn well. Os bydd yn llwyddiannus, caiff yr astudiaeth ei hymestyn i gynnwys profi llwyfannau digidol o'r fath yng nghartrefi'r cleifion i helpu creu system frysbennu aml-ddimensiwn.

Dywedodd Ann Tate, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru, 'Mae'n bwysig iawn i Ymchwil Canser Cymru helpu meithrin ac annog amgylchedd o ymchwil dwys yn y Byrddau Iechyd lleol a'r Prifysgolion sy'n gysylltiedig â nhw, oherwydd mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod y rhai sy'n cyflawni hynny bob amser yn sicrhau gwell canlyniadau i'r cleifion.  Gobeithiwn y bydd y buddsoddiad newydd mewn ymchwil canser yn y gogledd yn gyfle i glinigwyr lleol wireddu eu potensial llawn a helpu gwneud diagnosis cynharach a thriniaethau gwell yn nes at adref.  Hoffem ddiolch hefyd i'n holl gefnogwyr ledled Cymru, heb eu cymorth a'u haelioni, ni fyddai dim o'r uchod yn bosibl'.  

Nodiadau i olygyddion: 

Ynglŷn ag Ymchwil Canser Cymru:

  • Founded in 1966 by a small group of professors based at Velindre Hospital in Cardiff, Cancer Research Wales has since grown to become a major force in the discovery of new precision treatments for cancer, early diagnosis and progress towards cures. 
  • The charity is heavily supported by ordinary people from across Wales, via legacies, incredible fundraising challenges, donations and charity shop purchases. Every donation made to Cancer Research Wales goes straight to the teams of leading, world-class scientists based in Wales, for the benefit of cancer patients everywhere.  

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019