Modiwl UXC-3033:
Newyddiaduraeth Ddigidol Ymarf

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Music and Media

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 1

Trefnydd: Dr Ifan Jones

Amcanion cyffredinol

Yn y modiwl hwn bydd disgwyl i fyfyrwyr addasu'r sgiliau ysgrifennu, darlledu a chasglu newyddion a ddysgwyd ganddynt yn y modiwl Cyflwyniad i Newyddiaduraeth a'r modiwlau ymarfer newyddiaduraeth yn yr ail flwyddyn ar gyfer yr oes ddigidol, amlgyfrwng. Yn ogystal â chynhyrchu amrywiaeth o gynnwys ar ffurf testun, fideo a sain i lwyfannau digidol, byddant hefyd yn dysgu sut i gynhyrchu cynnwys i ffrydiau'r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac aps er mwyn rhannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach. Bydd ystafelloedd newyddion rhithwir a gwaith maes yn meithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol mewn diwydiant lle mae'r newyddiadurwr yn awdur, dyn camera, cyhoeddwr, darlledwr, argraffydd a chyflwynydd ei newyddion ei hun.

Cynnwys cwrs

Bydd y cwrs yn dechrau gyda chyflwyniad i newyddiaduraeth ar-lein, dylanwad technoleg ddigidol newydd ar newyddiaduraeth a'i goblygiadau i'r cyfryngau traddodiadol. Byddwn hefyd yn trafod y materion moesegol a chyfreithiol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu cynnwys ar-lein. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau yn cynnwys sut i gasglu newyddion ar-lein, ysgrifennu a chynhyrchu deunydd gweledol a sain i lwyfannau newyddion digidol a sut i sicrhau bod y cynnwys yn cyrraedd cynulleidfa eang. Bydd disgwyl i chi roi'r sgiliau hyn ar waith a chreu eich llwyfan newyddion digidol eich hun, creu cynnwys i'r llwyfan hwnnw a rhannu'r cynnwys hwnnw gyda'r gynulleidfa fwyaf eang posib.

Meini Prawf

trothwy

Trothwy (D-)

Dealltwriaeth o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein

da

Da (B/C)

Dealltwriaeth dda o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth dda o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth dda o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein

ardderchog

Rhagorol (A-)

Dealltwriaeth ragorol o hanfodion creu gwefan newyddion Dealltwriaeth ragorol o gyfraith, moeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol Dealltwriaeth ragorol o ymarferoldeb casglu newyddion ar-lein

Canlyniad dysgu

  1. Dysgu, ymarfer a datblygu uwch dechnegau ymchwil a chasglu newyddion ar-lein gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau academaidd ac anacademaidd mewn modd dadansoddol a beirniadol

  2. Dysgu, defnyddio a meistroli amrywiaeth o dechnegau cymhleth ar gyfer casglu a lledaenu newyddion digidol

  3. Creu a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth o gynnwys gwreiddiol i lwyfannau digidol amlgyfrwng, gyda'r nod o gynhyrchu portffolio o safon broffesiynol

  4. . Mewn modd beirniadol, gwerthuso, dewis a datblygu llwyfannau addas megis aps, blogiau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, gyda'r nod o gynhyrchu portffolio o safon broffesiynol

  5. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o gyfraith a moesegau'r cyfryngau ym maes cymhleth newyddiaduraeth ddigidol

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
Seminarau Newyddion 15
Straeon Newyddion ac URL Gwefan 85

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Practical classes and workshops
  1. Sesiwn o waith ymarferol 1 awr pob wythnos x 11 wythnos
11
Individual Project

Ymchwilio straeon newyddion a chyfweld â cysylltiadau

16
Private study

Set readings and research

162
Lecture
  1. Darlith 1 awr pob wythnos x 11 wythnos
11

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
  • Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
  • Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.

Sgiliau pwnc penodol

  • An understanding of creative and critical processes, and of the wide range of skills inherent in creative writing. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.1).
  • An awareness of writing and publishing contexts, opportunities and audiences in the wider world (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.1).
  • Artistic engagement and ability to articulate complex ideas in oral and written forms. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
  • Ability to connect creative and critical ideas between and among forms, techniques and types of creative and critical praxis. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
  • Awareness of how different social and cultural contexts affect the nature of language and meaning (English Benchmark Statement 3.2).
  • Reflective practitioner skills, including awareness of the practice of others in collaborative learning (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
  • The ability to synthesize information from various sources, choosing and applying appropriate concepts and methods (English Benchmark Statement 3.3).
  • Ability to formulate and solve problems, anticipate and accommodate change, and work within contexts of ambiguity, uncertainty and unfamiliarity (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
  • Ability to engage in processes of drafting and redrafting texts to achieve clarity of expression and an appropriate style. (English Benchmark Statement 3.3; NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
  • Ability to gather information, analyse, interpret and discuss different viewpoints (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
  • Information technology (IT) skills broadly understood and the ability to access, work with and evaluate electronic resources (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).

Adnoddau

Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr

Dim

Rhestrau Darllen Bangor (Talis)

http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/uxc-3033.html

Rhagofynion a Chydofynion

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau:

Opsiynol mewn cyrsiau: