Newyddion: Mehefin 2017

Tech firms want to detect your emotions and expressions, but people don't like it

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew Mc Stay, Darllenydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2017

Dyfarnu Aur i Fangor

Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o  gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Dotio at Dot!

Mae fideo cerddoriaeth gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn prysur ddod i sylw’r byd; wrth ysgrifennu’r datganiad hwn mae dros 43,953 o bobl wedi gwylio 'Everybody Dances to Techno' gan Dot ar YouTube, ac mae'r sylwadau a'r negeseuon o gefnogaeth yn dod o bob cwr o'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017