Newyddion: Hydref 2017

Allwn ni stopio newyddion ffug yn y 10 mlynedd nesaf?

Mae Vian Bakir (Athro Cyfathrebu Gwleidyddol a Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor) yn besimistaidd, ond mae'n ein hannog i beidio â rhoi'r ffidil yn y to. Ar y llaw arall mae Andrew McStay (Athro mewn Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor) yn fwy gobeithiol.

Wrth siarad yn ddiweddar yn y gynhadledd CommsCymru ar ymddiriedaeth, rhoddodd Bakir olwg ar y gwahanol atebion i ddatrys newyddion ffug a gafwyd yn y 79 cyflwyniad a wnaed i ymchwiliad presennol llywodraeth y Deyrnas Unedig i newyddion ffug.  (Ysgrifennwyd yr arolwg hwn o atebion a gynigiwyd ar y cyd gydag Andrew McStay.)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017

Cyfansoddiad o bwys yn ymddangos ar CD

Mae darn cerddorfaol o bwys a gyfansoddwyd gan Guto Pryderi Puw wedi'i gynnwys ar CD diweddaraf y fiolinydd enwog Madeleine Mitchell.

Caiff Guto ei gydnabod yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'n Bennaeth Cyfansoddi ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Cafodd ei gomisiynu gan Madeleine Mitchell i ysgrifennu concerto i'w berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor yn 2014. Ysbrydolwyd y gwaith, Violin Concerto - Soft Stillness, gan ddyfyniadau o ddrama Shakespeare The Merchant of Venice i nodi 450 mlynedd ers geni'r dramodydd.  

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2017