Myfyriwr wrth ddesg gyda ffôn yn ysgrifennu

Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

 

 

stiwdio Aria Taith rithiol

Ein Hymchwil o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth

Mae'r Ysgol yn rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol.  Yn yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil (REF 2014), roedd holl ymchwil yr Ysgol naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran ansawdd.
 

Cryfderau/Arbenigeddau'r Ymchwil

Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).

Mae gennym berthynas arbennig o gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud â'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o agweddau o'n gweithgareddau ymchwil, ac yn gymorth i hyrwyddo ein gwaith hefyd. Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn gymorth i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt. Ymhlith y cwmnïau a'r sefydliadau y buom yn cydweithio â hwy'n ddiweddar mae BAFTA Cymru, cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, NoFit State Circus a'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.

Digwyddiadau Ymchwil

Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar.  ⁠Mae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr ôl-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol.  Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Cysylltu â ni

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?