Stiwdio Aria Taith Rithiol
Fideo - Drama, Theatr a Pherfformio
Mae'r rhaglen hon wedi esblygu wrth i'r diwydiant proffesiynol newid yn barhaus. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo bod ganddyn nhw safonau cyfredol y diwydiant trwy ddefnyddio cyfleusterau theatr o'r radd flaenaf ym Mhontio, canolfan gelf ac arloesi Bangor.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Drama llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Drama ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Drama ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein hymchwil o fewn Drama, Theatr a Pherfformio
Mae ein holl addysgu yn seiliedig ar ein diddordebau ymchwil, felly cewch eich addysgu gan bobl sy'n flaenllaw yn eu maes ac sy'n angerddol am y pwnc. Mae gan ein staff brofiad proffesiynol helaeth ac yn eu plith mae gweithwyr proffesiynol megis cyfarwyddwr theatr ac ysgrifennwr sgriptiau.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.