Mawrth 2014

SuLlMaMeIGSa
1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031

Symposiwm INTER/actions ar Gerddoriaeth Electronig Ryngweithiol

Lleoliad:
Ysgol Cerddoraieth, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Sadwrn 15 Mawrth 2014 – Dydd Sul 16 Mawrth 2014
Cyswllt:
Ysgol Cerddoraieth

Mae INTER/actions yn gynhadledd a gŵyl fach am ddim dros ddau ddiwrnod, yn canolbwyntio ar berfformio a rhyngweithio ym maes cerddoriaeth electronig, i’w chynnal ar 15-16 Mawrth, ar ôl Gŵyl Gerdd Newydd Bangor.

Mae’r cyfansoddwyr fydd yn cymryd rhan yn cynnwys Arlene Sierra (Caerdydd) gyda’r perfformiad cyntaf yn y byd o ‘Urban Birds’, ar gyfer tri phiano, offerynnau electronig a samplau o gân adar, fel rhan o Ŵyl Ddwyflynyddol Sefydliad y Gymdeithas Hawliau Perfformio, yn ogystal â chyngerdd o garreg filltir Stockhausen, sef y darn ‘Mantra’ gyda Deuawd Piano Pestova/ Meyer.

Freida Abtan, Nicholas Collins a Gilbert Nouno yw ein prif gyflwynwyr, gyda pherfformiadau gan Richard Craig, Clare Hammond, Kathleen Supove a Seth Woods.

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor sy’n trefnu’r digwyddiad, mewn partneriaeth arbennig â Diaphonique ac Yamaha. Bydd yn cynnwys dwy gyngerdd, nifer o sesiynau ar bapur, a gweithdy byw ar offerynnau electronig dan arweiniad Gilbert Nouno (IRCAM).

Ewch i’r wefan i gael manylion, ar: http://www.bangor.ac.uk/music/interactions

https://www.facebook.com/InteractionsSymposium

https://www.facebook.com/events/666090173449936/

Mae’r holl ddigwyddiadau am ddim ac ar agor i’r cyhoedd, ac eithrio’r gyngerdd ar 15 Mawrth, y gellwch brynu tocynnau ar ei chyfer yma:

http://shop.bangor.ac.uk/browse/product.asp?compid=1&modid=1&catid=335