Newyddion: Hydref 2017

Cyfansoddiad o bwys yn ymddangos ar CD

Mae darn cerddorfaol o bwys a gyfansoddwyd gan Guto Pryderi Puw wedi'i gynnwys ar CD diweddaraf y fiolinydd enwog Madeleine Mitchell.

Caiff Guto ei gydnabod yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'n Bennaeth Cyfansoddi ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Cafodd ei gomisiynu gan Madeleine Mitchell i ysgrifennu concerto i'w berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor yn 2014. Ysbrydolwyd y gwaith, Violin Concerto - Soft Stillness, gan ddyfyniadau o ddrama Shakespeare The Merchant of Venice i nodi 450 mlynedd ers geni'r dramodydd.  

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2017