Holl Newyddion A–Y

Ailgreu'r profiad o addoli yn y cyfnod canoloesol

Mae project sy’n ymchwilio profiad Canoloesol o addoli yn cael sylw mewn stori nodwedd ar safle we’r Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Yr Athro John Harper a Dr Sally Harper o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol sy’n arwain project: ‘Y profiad o addoli mewn eglwys gadeiriol ac eglwys blwyf ganoloesol ddiweddar.’

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2013

Archesgob Caergrawnt yn anrhydeddu Athro o Fangor

Mae Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams, wedi cyhoeddi bod yr Athro John Harper, athro ymchwil mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill gradd Doethur mewn Cerddoriaeth. Mae’r Archesgob yn ysgrifennu bod y cymhwyster yn cydnabod cyfraniad clodwiw’r Athro Harper at ddatblygiad cerddoriaeth eglwysig a’i gwerthfawrogiad fel ysgolhaig, gweinyddwr, addysgwr a chyfansoddwr, ac at well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng cerddoriaeth a litwrgi’r eglwys.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010

Arweinydd côr a chanwr talentog o Fôn yn graddio

Wedi tair blynedd o siwrnai gynhyrfus ac ar ôl teimlo allan o’i gynefin at y dechrau, graddio’n hyderus ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon wnaeth myfyriwr dawnus a anwyd ym Môn. Enillodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Syr Thomas Jones, Kiefer Jones, 22, o  Amlwch, radd BMus ddosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015

Bangor a Pontio: Llwyddiant Byd-eang Bloomsday

Yn gynharach yr wythnos hon, fel rhan o ddigwyddiad rhyngwladol Global Bloomsday, cydweithiodd Pontio ag Ysgol Saesneg ac Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor i gynhyrchu perfformiad rhyfeddol o'r bennod 'Sirens' allan o'r nofel Ulysses gan yr awdur o Iwerddon, James Joyce.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2013

Bangor yn yr 20 uchaf ym Mhrydain am safon Profiad Myfyrwyr yno

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Brasil ym Mangor

Bydd sylw pawb wedi ei hoelio ar Frasil eleni yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd, ond ymddengys nad pêl-droed yw'r unig beth sy'n ennyn diddordeb pobl yn y wlad. Mae cerddoriaeth a dawns o Frasil wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y degawdau diwethaf, ac mae academydd o Fangor yn gwneud ymchwil i'r 'ffasiwn' am gerddoriaeth a dawns 'Affro-Frasilaidd'.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014

Brexit and Britpop: Europeans have stronger cultural links to the UK thanks to English language music

Dyma erthygl yn Saesneg gan Jochen Eisentraut o’r Ysgol Cerddoriaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2016

CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times

Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times

Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2011

Cerddoriaeth ffermydd gwynt

Bydd y ffermydd gwynt ar y môr ger Llandudno yn ysbrydoli ac yn darparu’r sain i gyfansoddiad cerddorol ar gyfer Gŵyl LLAWN Llandudno gan Ed Wright, sy’n ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfansoddwr ac artist sonig. Bydd yn perfformio  fel y ‘Labordy Tonnau Sonig’ gyda Charles Gersholm.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2015

Cerddoriaeth yn mynd â hi yn Seremoni’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

Enillodd staff yr Ysgol Cerddoriaeth anferth o bleidlais o hyder gan eu myfyrwyr yn seremoni’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr eleni, a gynhaliwyd mewn cinio arbennig yn Neuadd Prichard-Jones ar 24 Ebrill, a mwy na 200 o bobl yn bresennol. Y myfyrwyr eu hunain sy’n enwebu ar gyfer y gwobrau hyn, a phwyllgor arbennig o blith y myfyrwyr, dan oruchwyliaeth Undeb y Myfyrwyr, yn dewis yr enillwyr. Eleni, cafodd staff yr Ysgol Cerddoriaeth dair gwobr a phum enwebiad – mwy na’r un Ysgol arall yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2013

Cerddorion yn paratoi i losgi piano!

Bydd aelodau o Ysgol Cerdd Prifysgol Bangor yn ymuno gydag Annea Lockwood, artist sain o Seland Newydd / UDA  mewn perfformiad o 'Piano Burning’ yn Hen Iard Nwyddau Treborth, Bangor. Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 29 Mehefin am 6.15pm, a bydd yn rhan o lansiad tymor newydd Dinas Sain Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013

Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf

Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017

Cofrestrwch rwan! Corau a Cherddorfeydd 2012-13

Sut i gofrestru am y Corws, Cerddorfa Symffoni, Côr Siambr a mwy.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Cofrestrwch rwan! Corau a Cherddorfeydd 2013-14

Corws Prifysgol Bangor

Mae Corws y Brifysgol yn gôr cymysg mawr o fyfyrwyr a staff o bob rhan o’r Brifysgol, a hefyd yn cynnwys cantorion o’r gymuned leol. Yn nhymor 2013-14, byddwn yn perfformio cyngerdd tymhorol yn Rhagfyr, ac ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol yn Ebrill i berfformio Offeren Nelson Haydn a Hymnus Paradisi Herbert Howells.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013

Cyfansoddiad o bwys yn ymddangos ar CD

Mae darn cerddorfaol o bwys a gyfansoddwyd gan Guto Pryderi Puw wedi'i gynnwys ar CD diweddaraf y fiolinydd enwog Madeleine Mitchell.

Caiff Guto ei gydnabod yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'n Bennaeth Cyfansoddi ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Cafodd ei gomisiynu gan Madeleine Mitchell i ysgrifennu concerto i'w berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor yn 2014. Ysbrydolwyd y gwaith, Violin Concerto - Soft Stillness, gan ddyfyniadau o ddrama Shakespeare The Merchant of Venice i nodi 450 mlynedd ers geni'r dramodydd.  

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2017

Cyfansoddiad sy’n ymdrin â dyslecsia’n cael sylw ar Radio 4

Bydd gwaith cerdd a fideo newydd a ysgogwyd gan ddyslecsia, a'r wyddoniaeth y tu ôl i’r cyflwr yn derbyn sylw ar raglen ‘All in the Mind Radio 4, sy’n ymchwilio’r rhwystredigaethau a’r potensial o fewn ein hymennydd. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu nos Fawrth 18 Rhagfyr am 9.00 yn ac eto am 3.30 brynhawn Mercher 19 Rhagfyr. Bydd hefyd ar gael ar lein wedi’r darllediad gyntaf.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012

Cyfansoddwr o Fangor yng nghanol ffrae am gorachod gardd...

Mae un o gomisiynau diweddaraf Dr Owain Llwyd - trefnu cerddoriaeth hysbyseb teledu i'r cwmni dodrefn o Sweden, IKEA - wedi bod yn destun nifer fawr o gwynion gan y Gymdeithas Ryngwladol er Atal Creulondeb i Gorachod Gardd. Mae Dr Llwyd wedi'n sicrhau na niweidiwyd unrhyw gorrach wrth gynhyrchu'r fideo.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2013

Cyfansoddwr o staff yr Ysgol Gerddoriaeth yn derbyn perfformiad cyntaf o ddarn wedi ei ysbrydoli gan Dylan Thomas gan Gerddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd

Mae nifer o gyfansoddwyr wedi nodi can mlynedd geni bardd enwocaf Cymru, Dylan Thomas, drwy gyfansoddi darn newydd er cof amdano, ond bu man cychwyn Pwyll ap Siôn ychydig yn anarferol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014

Cyfres o berfformiadau gwych yng Ngŵyl Gerdd Bangor

Fe fydd un o brif wyliau cerddol Cymru, Gwyl Gerdd Bangor yn agor eleni ar Fawrth 1af gyda chyngerdd arbennig gan Gôr Glanaethwy, sêr y gyfres deledu ‘Britain’s Got Talent.’ Ac am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion y  ‘Swingles’ yn serennu mewn cyngerdd unigryw.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016

Cyhoeddi Swyddi Darlithio Cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn dilyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi dau benodiad allweddol yn yr Ysgol Cerddoriaeth o dan nawdd cynllun staffio academaidd y Coleg. Y rhain yw’r penodiadau cyntaf a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Cynhadledd - Boddi Mewn Celfyddyd

Wedi blynyddoedd o ddymchwel a phrotestio, yn 1965, daeth y dŵr i foddi Cwm Celyn, gan foddi diwylliant, hanes bro a thraddodiad yn ei sgil.

Ond esgorodd dicter a thor calon y genedl nid yn unig ar ddeffroad gwleidyddol, ond hefyd deffroad celfyddydol wrth i genhedlaeth o Gymry ganfod dull o fynegi eu dirmyg trwy gerddoriaeth, barddoniaeth, drama a chelf.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015

Darlithydd ym Mangor yn cyfeilio ar ymgyrch hysbysebu Cwpan y Byd McDonald’s

Gellir clywed darlithydd cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor yn canu’r piano ar ymgyrch hysbysebu Cwpan y Byd McDonald’s ar y we, ac mae wedi cael ei wylio dros bum miliwn o  weithiau ar YouTube yn barod.

 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2014

Dathliad creadigol o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched

Bydd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor a Gŵyl Gerdd Bangor yn cyfrannu at ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth trwy ddarlledu cyngerdd o gerddoriaeth gerddorfaol gan bum cyfansoddwraig o Gymru ar BBC Radio 3.

Mared Emlyn o Eglwysbach yn Nyffryn Conwy yw un o’r cyfansoddwyr, a gwblhaodd ei PhD mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ddwy flynedd yn ôl. Daeth ysbrydolaeth ei darn newydd, Porthor, o’r traeth o’r un enw ym Mhenrhyn Llŷn, sy’n enwog am y sŵn arbennig a grëir drwy gerdded ar y tywod; o hyn daw ei enw Saesneg, ‘Whistling Sands’.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016

Dathlu Gwaith Merched mewn Cerddoriaeth

Bydd dau gyngerdd clasurol yng Nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor yn uchafbwynt i'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth (4 – 7 Medi) sy'n dathlu cyraeddiadau cerddorion benywaidd. Amserwyd y Gynhadledd i gyd-daro â chofio 40 mlynedd ers marwolaeth y gyfansoddwraig Grace Williams (1906-77), un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymreig yr ugeinfed ganrif i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.

Bydd y ddau gyngerdd ar ddydd Llun 4 Medi yn Neuadd Powis am 5.45pm a nos Fercher 6 Medi yn Theatr Bryn Terfel Pontio am 7.30pm yn cynnwys cerddoriaeth Grace Williams, yn ogystal â pherfformiadau cyntaf o ddarnau gan y cyfansoddwyr blaenllaw o Brydain, Nicola LeFanu ac Eleanor Alberga.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2017

Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf

Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014

David Evans (1943-2013)

Bu farw Dr David Evans, cyn Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn 69 oed. Yn gyfaill da i bawb, fe'i cofir gydag anwyldeb gan ei gydweithwyr a channoedd o gyn-fyfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2013

Dotio at Dot!

Mae fideo cerddoriaeth gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn prysur ddod i sylw’r byd; wrth ysgrifennu’r datganiad hwn mae dros 43,953 o bobl wedi gwylio 'Everybody Dances to Techno' gan Dot ar YouTube, ac mae'r sylwadau a'r negeseuon o gefnogaeth yn dod o bob cwr o'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017

Dr Xenia Pestova yn recordio 3 CD

Cwblhaodd Dr Xenia Pestova recordio ei thrydedd CD ar John Cage: darnau ar gyfer dwy biano yn Lwcsembwrg ym Mehefin. Bydd y tair disg yn cael eu rhyddhau ar label bwysig Naxos Records label.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2013

Dyddiaduron yn Archifau’r Brifysgol yn ysbrydoli sioe

Mae Cwmni Pendraw yn dod a’i sioe llwyddiannus Mr Bulkeley o’r Brynddu i Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio nos Fawrth 26 Ebrill. 


Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2016

Dyfarnu Aur i Fangor

Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o  gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Dyfarnu grant Partneriaeth Ryngwladol a Symudedd yr Academi Brydeinig i'r Dr Jochen Eisentrau

Mae'r Dr Jochen Eisentraut, darlithydd rhan-amser mewn Cerddoriaeth, wedi derbyn grant Partneriaeth Ryngwladol a Symudedd yr Academi Brydeinig ar gyfer taith cyfnewid addysgu, ac ymchwilio ar y cyd, gyda'r Universidade Federal da Bahia, Brasil.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2013

Dyfarnu Medal Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwraig o Fangor

Medal Cwmni’r Brethynwyr (Efydd): Mae Un o Chwe Medal i’w Dyfarnu Erioed yn mynd at Elina Hamilton, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor

Bob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2016

Efrydiaeth Ddoethurol AHRC mewn Cerddoriaeth

Mae’n bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gynnig Efrydiaeth dan nawdd AHRC ar gyfer astudiaeth PhD mewn cerddoriaeth, yn cychwyn ym Medi 2013. Mae’r efrydiaeth yn cynnwys ffioedd Cartref/UE yn ogystal â grant cynnal di-dreth ar gyfradd gyfredol Cynghorau Ymchwil y DU, sef £13,590).

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013

Efrydiaeth MA Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2014

Ei gerddoriaeth yn creu awyrgylch ‘epig’ ar y sgrin

Rhaglen llawn drama a chynnwrf fel yr X Factor oedd yn nychymyg y cyfansoddwr  Owain Llwyd, wrth gyfansoddi cerddoriaeth epig ar gyfer y cyfryngau- ac roedd yn llygaid ei le i wneud hyn, gan fod y rhaglen wedi dewis a defnyddio’i gerddoriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010

Eisteddfod Genedlaethol- Gweithgareddau Dydd Mercher: Hanes, Aduniad a Cherddoriaeth

Y Brifysgol Ddoe a Heddiw; Aduniad; Cerddoriaeth: Trydedd Iaith ein Cenedl?

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Fideo feiral gan fyfyrwyr o Fangor

Cael shafio’u pennau ar gyfer achos da oedd y sbardun i ddau fyfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor greu fideo cerddoriaeth sydd bellach yn feiral ar y rhyngrwyd.

Erbyn hyn, mae fideo ‘The Changing Man’ gan Colonel Dax wedi ei wylio dros 160,000 o weithiau ar YouTube, ac wedi ennyn ymatebion a chefnogaeth gan bobl o bellafoedd Awstralia, America, Sbaen a nifer o wledydd eraill.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2017

Fy Ffrind Dylan Thomas

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth mewn cydweithrediad â Pontio, yn falch o gyflwyno My Friend Dylan Thomas, gŵyl sy’n dathlu ymateb cerddorol i waith un o awduron amlycaf Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2014

Galwad am Bapurau - Adopting the Cultural Other: Western Participatory Borrowings

Mae gennym ddiddordeb mewn papurau sy'n adrodd am ymchwil neu'n damcaniaethu am ymchwil i ffenomenau o'r fath o feysydd cerddoriaeth, dawns, iaith, crefydd, celf a ffurfiau diwylliannol eraill. Bydd y gynhadledd yn un amlddisgyblaethol a chroesawir cyfraniadau o feysydd ethnogerddoleg, anthropoleg, cymdeithaseg, daearyddiaeth ddiwylliannol a disgyblaethau eraill.
Saesneg fydd iaith y gynhadledd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013

Golygathon cyntaf erioed ar Gerddoriaeth i’w gynnal yn Adran Gerdd Prifysgol Bangor

Fe fydd y ‘Golygathon’ cyntaf o’i fath erioed ym maes Cerddoriaeth yn cael ei gynnal yn Adran Gerdd Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 24 Chwefror, 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2017

Grant hael i adfer pianos

Derbyniodd yr Ysgol Cerddoriaeth grant hael o £26,000 gan Bangor Alumni / Grŵp Rhoddion Prifysgol Bangor tuag at adfer pianos. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2013

Grant o Bwys gan AHRC wedi’i ddyfarnu i PRoMS – ‘Cynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddoriaeth / The Production and Reading of Music Sources, 1480-1530’

Bydd llawysgrifau cerddoriaeth ac argraffiadau o ‘Oes Aur’ polyffoni yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil tair-blynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Gwaith myfyriwr Bangor i ymddangos yng Ngwyl BEAM

Mae gŵyl sy’n hyrwyddo technoleg greadigol o fewn Cerddoriaeth yn cynnwys arddangosfa o waith cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2011

Gweithgareddau Eisteddfod Dydd Iau - Ychwaneg o gerddoriaeth ar Stondin Prifysgol Bangor ar Faes yr Eisteddfod

Ysgol Cerddoriaeth  Prifysgol Bangor sy’n trefnu’r arlwy ar gyfer dydd Iau pob blwyddyn ar ‘stondin’ Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod.  Eleni eto mae diwrnod llawn o weithgareddau at ddant pawb.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015

Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015

Gwobr Syr Geraint Evans yn cydnabod cyfraniad darlithydd a chyfansoddwr

Cyflwynwyd Gwobr Syr Geraint Evans 2013 Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru i Dr Guto Pryderi Puw, o Brifysgol Bangor, i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru, fel cyfansoddwr, darlithydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn ddiweddar (30 Tachwedd 2014) yng Nghlwb Caerdydd a’r Sir.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014

Gŵyl INTER/actions ar gyfer Cerddoriaeth Electronig Ryngweithiol yn ennill grant o fri, ‘Beyond Borders’, gan Sefydliad Cerddoriaeth y Gymdeithas Hawliau Perfformio

Mae Gŵyl INTER/actions, wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei dewis ar gyfer cynllun ‘Beyond Borders’ y Gymdeithas Hawliau Perfformio.  Mae'r ŵyl wedi derbyn £12,000 o grant i gomisiynu darn newydd ar raddfa fawr gan y cyfansoddwr o fri o Ogledd Iwerddon, Ed Bennett, i’w berfformio gan Dr Xenia Pestova o’r Ysgol Cerddoriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2014

Gŵyl INTER/actions yr Ysgol Cerddoriaeth yn ennill grant sylweddol gan sefydliad New Music Biennial y PRS

Dewiswyd yr INTER/actions Festival of Interactive Electronic Music gan y Sefydliad PRS New Music Biennial i gomisiynu gwaith newydd gan Arlene Sierra. Dyfarnwyd £20,000 i’r Ŵyl.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2013

Haf o berfformiadau byd-eang

Bydd darlithydd o Brifysgol Bangor wrthi’n brysur yn perfformio ym mhedwar ban byd yr haf hwn. Bydd Dr Ed Wright, sy’n dysgu cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio ei gyfansoddiadau electroacwstig ei hun mewn amryw o leoliadau.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2012

Hanner canrif ers Sgt Pepper ac ymweliad y Beatles â Bangor

Mae’n hanner canrif ers i Sgt Pepper ddysgu ei fand i chwarae, gyda rhyddhad albwm, Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band; sydd yn aml wedi ei ddisgrifio fel yr ‘albwm cysyniadol’ o bwys cyntaf, ac a ystyrir yn gyffredinol fel un a dorrodd gŵys newydd. Gellir dadlau iddo hefyd cael ei ystyried yn un o’r ‘adegau’ yna a newidiodd ffurf newydd ar gelfyddyd (ac efallai a esgorodd ar hynny).  

Mae hefyd yn hanner canrif (25-27 Awst 1967) ers i’r Beatles ymweld â Bangor, ymweliad a brofodd i fod yn drobwynt yn hanes y grŵp.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017

Hear this: it's no longer enough to just look at paintings

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew Lewis, Athro Cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2015

INTER/actions: Symposiwm ar Gerddoriaeth Electronig Ryngweithiol

Mae INTER/actions yn symposiwm a gwyl fach yn canolbwyntio ar berfformio a rhyngweithio ym maes cerddoriaeth electronig.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013

Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Llwyddiant cerddorol ‘Bodedern’

Yng nghymanfa ganu Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Modedern eleni, daeth llwyddiant i ran un o gyn-ymchwilwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Dyfarnwyd y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn i’r Dr Godfrey Wyn Williams o Bontcysyllte ger Llangollen, cyn-fyfyriwr doethurol o’r Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor. Brodor o Bentre Broughton, ger Brymbo ydyw, yn un o saith o blant a dreuliodd flynyddoedd lawer yn mireinio’i grefft fel cyfansoddwr tonau cynulleidfaol. Yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfodau Llandefgan, Llanrwst, Bancffosfelen, Mynytho, Y Tymbl Treuddyn a Llanbedr Pont Steffan daeth ei osodiad hyfryd o eiriau’r Prifardd Cen Williams, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr y Brifysgol, i’r brig yn ystod y gwasanaeth a ddarlledwyd nos Sul, Awst 6ed eleni. Enw’r dôn oedd ‘Bodedern’ a’r gobaith yw y caiff ei mabwysiadu’n ddiymdroi gan gynulleidfaoedd led led Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017

Llwyddiant i ddoniau Ensemble Cymru

Mae wedi bod yn wythnos nodedig ar gyfer un o sêr ifainc Ensemble Cymru, Collette Astley-Jones cyn myfyrwraig Prifysgol Bangor, wrth iddi ddathlu cael swydd newydd!

Mae Collette yn aelod o deulu Ensemble Cymru a wnaeth waith eithriadol, yn fwyaf diweddar fel rheolwr cerddorfaol ar gyfer taith genedlaethol Pedr a’r Blaidd. A hithau ond newydd orffen ei gradd Meistr mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor fis Hydref diwethaf, nid yw wedi cymryd llawer o amser i ddawn Collette gael ei hadnabod o fewn y diwydiant, am iddi gael ei phenodi’n ddiweddar gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn Cynorthwy-ydd Cynllunio Artistig ac Ensemble.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014

Llyfr newydd gan Dr Pwyll ap Siôn wedi ei chyhoeddi

Mae cyfrol The Collected Writings of Michael Nyman a olygwyd gan Dr Pwyll ad Siôn (Uwch-Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth) wedi cael ei chyhoeddi gan Ashgate Press.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2013

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor yn rhyddhau dau CD

Mae Dr Xenia Pestova, o’r Ysgol Cerddoriaeth, yn rhyddhau dau CD ym mis Hydref a mis Tachwedd. Bydd “John Cage: works for two keyboards, volume 1” ar gael ar Naxos Records a “Shadow Piano”, ei halbwm unawdol cyntaf, i’w ryddhau ar Innova Records.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013

Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016

"Modern Maritime Battlefield Archaeology: Case Studies from the Battle of Jutland and the U-boat Wars".

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2017

Myfyriwr MA yn ennill cystadleuaeth celfyddyd sain ryngwladol

Mae darn o gerddoriaeth gan Richard Garret, myfyriwr MA rhan-amser mewn Cyfansoddi Electroacwstig ym Mangor, wedi ennill gwobr ryngwladol am ddarnau bychain o sain yn gysylltiedig â thestun newid hinsawdd.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2013

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Mae myfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor i’w longyfarch ar ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni.

Mewn cystadleuaeth o safon ardderchog a gynhaliwyd ac a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul 14 Hydref 2012, bu Huw Ynyr, canwr yn cystadlu yn erbyn Lois Eifion, sy’n astudio gradd uwch MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a phedair arall. Prif enillwyr cystadlaethau perfformio Eisteddfod yr Urdd sy’n cael gwahoddiad i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel.  Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, sef medal a’r Ysgoloriaeth o £4,000, i Huw gan Bryn Terfel.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012

Myfyrwraig Cerddoriaeth yn cipio Medal Prif Gyfansoddwr yr Urdd

Llongyfarchiadau i Lois Eifion Jones, myfyrwraig ôl-radd cerddoriaeth o Benisarwaun, ger Caernarfon, ar ennill Medal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2013

Myfyrwraig Prifysgol Bangor i berfformio gyda mab Frank Zappa

Mae myfyrwraig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at berfformio darn o waith Frank Zappa ar daith o amgylch y DU yn hwyrach y mis hwn.

Bydd Sioned Eleri Jones, 30, o Fangor, yn perfformio un o ganeuon y gitarydd chwedlonol ar y clarinét gyda'i fab, Dweezil, sydd yn teithio gyda'i fand Zappa Plays Zappa.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2012

Myfyrwyr arwain yn dysgu gan feistr

Roedd yn bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth groesawu’r arweinydd byd-enwog (sydd hefyd yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor), Owain Arwel Hughes, i Fangor yn ddiweddar, i arwain dosbarth meistr i fyfyrwyr. Cafodd pum myfyriwr lwcus, o fyfyriwr israddedig ym mlwyddyn 1 hyd at fyfyriwr ôl-raddedig blwyddyn olaf, gyfle i arwain tair Dawns Slafonig gan Dvořák, a hynny dan lygaid barcud Dr Hughes.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2013

Myfyrwyr Bangor yn cystadlu yng Nghân i Gymru eto eleni

Yn dilyn llwyddiant Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, myfyrwyr Prifysgol Bangor, yng nghystadleuaeth Cân i Gymru y llynedd, a llwyddiant Nia Davies Williams, myfyrwraig MA cerddoriaeth, a ddaeth yn drydydd yn 2012, mae dau o fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth y brifysgol wedi cael eu cynnwys ar restr fer y gystadleuaeth boblogaidd. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu am 7.45 efo’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn rhaglen arbennig am 9.30 nos Wener 28.2.14.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2014

Myfyrwyr Bangor yn ennill Cân i Gymru

Mae dau gyfaill sy’n cyd-chwarae mewn band ac yn astudio yn yr un brifysgol yn cystadlu yn y rownd derfynol ar y rhaglen Cân i Gymru  gyda chân a gyfansoddwyd wrth iddynt deithio adref o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2013

Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru.

Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Oes Aur Canu Pop Cymraeg

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn arddangos dros 300 mlwyddyn o ddiwydiant ac arloesi, a bydd arddangosfa’r flwyddyn nesaf (2013) yn rhoi sylw i ddiwydiant o bwys, er efallai un nad yw mor amlwg i bawb ar yr olwg gyntaf.  Mae Hannah Way, sy’n byw ar hyn o bryd yn Nhalysarn, yn ymchwilio ‘Oes Aur’ pop Cymraeg  ar ran yr Amgueddfa. Mae hi’n ymchwilio i effaith labeli annibynnol ar y sin bop Gymraeg ac effaith y cyfryngau newydd ar y rhai hynny sydd wedi goroesi.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012

Opera Prifysgol Bangor - Dido a Aeneas

Ym Mis Mai bydd Cerddoriaeth Gynnar Bangor, ag arweinwyd gan Chris Collins ac Opera Prifysgol Bangor a chyfarwyddwyd gan Marian Bryfdir yn uno i berfformio opera adnabyddus Purcell. 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2016

Osian Huw Williams yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Myfyriwr Prifysgol Bangor, Osian Huw Williams yw enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn nos Fercher.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2015

Perfformiadau agraffiadau gan ymchwiliwr yn y Weriniaeth Tsiec

Roedd gweithiau prin gan Jacobus de Kerle (1531/2-1591), i’w clywed mewn cyngherddau yn Brno (St Leopold, 4 Ebrill) ac ym Mynachdy Rajhrad (6 Ebrill), a’r cyngherddau hynny wedi’u neilltuo i weithiau gan gyfansoddwyr o’r Capel Imperial. Dan arweiniad arbenigol Vladimír Maňas (Prifysgol Masaryk, Brno), bu Ensemble Versus (gyda’r gwesteion Martina Komínková (ffliwt), Richard Šeda (cornetto a ffliwtiau) a Tomáš Lajtkep (tenor a thrombôn bas) yn perfformio motetau Kerle, sef Media vita ac Adoramus te Christe, a’r ddau wedi'u golygu gan Christian Leitmeir, y prif awdurdod ar y cyfansoddwr Ffleminaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014

Perfformiodd Dr Xenia Pestova yn y 'Southbank Centre' a 'Glasgow Concert Halls'

Perfformiodd Dr Xenia Pestova yn y 'Southbank Centre' a 'Glasgow Concert Halls' ar gyfer y 'PRS New Music Biennial' / Gemau'r Gymanwlad.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Perfformio, Pontio a PhD

Mae Cymru’n enwog am ei mynyddoedd, chwedlau a cherddoriaeth, sef yr union resymau a ddenwyd myfyriwr PhD o Halifax, Swydd Efrog i astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2015

Premiere o waith newydd gan un o gyfansoddwyr ffilm a theledu mwyaf talentog Cymru

Bydd gwaith newydd gan gyfansoddwr talentog a drefnodd y gerddoriaeth ar gyfer rhaglun newydd yr Hobbit yn cael ei berfformio yn un o brif ŵyliau cerddoriaeth Cymru.

Mae Owain Llwyd, 30, sydd hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer yr X-Factor, Top Gear a Big Brother, yn edrych ymlaen yn arw at y premiere fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor, sy’n dechrau ar Fawrth 4.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2015

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Rhif 6

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi y bydd staff academaidd a myfyrwyr o'r Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Gŵyl Rhif 6 yn 6 oed eleni. Mae’r ŵyl yn wledd o gerddoriaeth, celfyddydau, diwylliant a gastronomeg a gynhelir dros benwythnos 7-10 Medi ym mhentref hudolus Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, cartref y gyfres deledu gwlt The Prisoner. Rhai o'r prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni fydd Bloc Party, The Flaming Lips, a Mogwai, ynghyd â sgyrsiau arbennig gan Irvine Welsh a Maxine Peake.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Unwaith eto, Prifysgol Bangor yw’r uchaf o brifysgolion Cymru yn y mesur diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2015

Prifysgol Bangor yn uchel yng ngraddau’r Times Higher Education ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau

Mae’r tabl celfyddydau a'r dyniaethau 2018 yn rhestru prifysgolion gorau’r byd ar draws eu cenhadaeth - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agweddau rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2017

Recordio Cerddoriaeth Gŵyl Gerdd Dandwr Mewn Pwll Nofio!

Mae  grwp o blant ysgol  cerddorol o Fôn wedi creu symffoni  unigryw dandwr yn eu pwll nofio lleol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014

REF 2014: Ymchwil Cerddoriaeth yn yr 20 Uchaf

Mae canlyniadau REF 2014 wedi sicrhau safle Prifysgol Bangor fel un o'r 20 uchaf ymhlith sefydliadau Prydain ar gyfer ymchwil gerddorol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014

Rhyddhaodd Dr Xenia Pestova 3 CD ar Naxos Records

Rhyddhaodd Dr Xenia Pestova 3 CD ar Naxos Records. Daeth "John Cage: works for 2 keyboards, volume 3" allan ym mis Gorffennaf 2014 yn cynnwys y ddeuawd biano Pestova / Meyer.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Richard Craig, the recently appointed Head of Performance, has had a productive start to his first Semester

Richard Craig, the recently appointed Head of Performance, has had a productive start to his first Semester. As a specialist in contemporary music, he collaborates with composers integrating cutting-edge technology with his own research into contemporary performance practice.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2016

Sain a delweddau’n mynegi profiad o ddyslecsia

Mae darn o farddoniaeth gan fachgen 12 oed, sy’n disgrifio’i deimladau a’i rwystredigaethau wrth ymdopi â dyslecsia, wedi ysbrydoli gwaith cerdd a fideo newydd gan gyfansoddwr electroacwstig, yr Athro Andrew Lewis o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.

Ysgrifennwyd y darn gan Tom Barbor-Might pan oedd yn blentyn, wrth dderbyn cefnogaeth gan Ganolfan Dyslecsia Miles, ym Mhrifysgol Bangor. Roedd barddoniaeth Tom wedi ei osod ar hysbysfwrdd yn y Ganolfan am sawl blwyddyn.

Mae Tom bellach yn gynhyrchydd rhaglenni dogfen teledu. Nid yw Tom wedi clywed y darn sy’n seiliedig ar ei eiriau eto. Bydd yn mynychu ail berfformiad y darn, Lexicon, yn BEAST at 30 yn Birmingham nos Sadwrn, 1 Rhagfyr.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012

Sioned yn ennill Tlws y Cerddor

Llongyfarchiadau mawr i’r cerddor Sioned Eleri Roberts, un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ar ennill cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Staff a myfyrwyr Bangor yn ymddangos yn y Royal Academy of Music

Perfformiwyd gwaith yr Athro Andrew Lewis mewn cyngerdd yn yr academi ar 1 Gorffennaf, ynghyd â gwaith myfyiwr Bangor, Kimon Grigoriadis. Perfformiwyd y gwaith hwn gan fyfyriwr arall, Katherine Betteridge.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2013

Swyddi: Cadair mewn Cerddoriaeth

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn eithriadol ac egnïol i lenwi swydd Cadair mewn Cerddoriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013

Theori Cerddoriaeth Ganoloesol mewn Cyd-destun, Gorffennaf 2012

Yr Ail Weithdy ar Theori Cerddoriaeth Ganoloesol i’w gynnal ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012

Trydydd safle yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru i Nia

Daeth Nia Davies Williams, myfyrwraig MA mewn cerddoriaeth yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn drydydd yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru neithiwr (3.3.12)

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012

Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor – y gorau yng Nghymru!

Mae'n swyddogol: Prifysgol Bangor yw’r lle gorau yng Nghymru i astudio gradd mewn Cerddoriaeth. Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, yn gosod Ysgol Cerddoriaeth Bangor ar y brig yng Nghymru, gyda chyfradd boddhad cyffredinol enfawr o 91%.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Ysgol Cerddoriaeth yn ail-agor ar ôl gwerth £2M o waith ail-ddatblygu

Bu Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn dathlu ei hagoriad ar ôl gwaith ail-ddatblygu gyda seremoni ar gyfer staff a myfyrwyr. Roedd y seremoni yn dathlu cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £2filiwn ar yr adeilad, gan greu cyfleusterau haeddiannol i un o'r pum adran cerddoriaeth gorau yn y DU fel y pleidleisiwyd gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2016

Ysgol Cerddoriaeth yn enill dwy wobr Cronfa Goffa Thomas Ellis

Ar ôl edrych drwy ugeiniau o geisiadau oddi wrth nifer hynod o dalentog o ymgeiswyr, mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi enillwyr Cronfa Goffa Thomas Ellis eleni.

Bydd y darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Guto Pryderi Puw, yn derbyn £1500, a bydd y myfyriwr PhD, Gwawr Ifan, hefyd o Brifysgol Bangor yn derbyn £1000.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011