Gwybodaeth am y cyrsiau

Cyswllt

Dr Hana Vlhova-Woerner
Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion mewn Cerddoriaeth
h.vlhova-woerner@bangor.ac.uk

Cyrsiau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

MA, MMus a Diploma Uwch-radd

Mae’r holl gyrsiau Meistr trwy Ddysgu mewn Cerddoriaeth yn gofyn am 12 mis o astudiaeth lawn-amser. Ceir opsiynau rhan-amser (yn para rhwng 24 a 60 mis) hefyd ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau. Mae gradd Meistr yn cynnwys 180 o gredydau, a’r cwrs wedi’i rannu’n ddwy ran. Cymerir Rhan Un yn ystod Semestrau’r Hydref a’r Gwanwyn, ac mae’n cynnwys 120 o gredydau o astudiaeth trwy ddysgu, dan arolygaeth ac annibynnol. Cyflwynir holl waith Rhan Un i’w asesu yn ystod Wythnos 10 o Semester y Gwanwyn, tra bo Rhan Dau (a wneid yn bennaf yn ystod cyfnod yr haf) yn gofyn am ddarn annibynnol sylweddol o waith sy’n werth cyfanswm o 60 o gredydau.

Mae cyrsiau Diploma yn werth 120 o gredydau, a dilynir hwy o Fedi hyd at Fai. Mae eu fframwaith yn adlewyrchiad ar Ran I yr MA ond, yn yr achos hwn, bydd y myfyrwyr yn cymryd Project Annibynnol 20-credyd, yn hytrach na ‘Paratoi ar gyfer Project Rhan II’.

Mae'r patrwm hwn wedi'i grynhoi yn y tabl isod:

Diploma Ôl-Radd
('Lefel D')
 
Meistr
('Lefel M')
 

modiwlau trwy ddysgu
100 credyd

-- Dechrau Mis Hydref --
modiwlau trwy ddysgu
100 credyd
Rhan Un (120 credyd)
project
annibynnol

20 credyd
------ Dechrau Mai ------
'Paratoi ar gyfer
project rhan dau'

20 credyd
 
------ Diwedd Mai ------
(wythnos 14)







---- Diwedd Medi ----
Project rhan dau
60 credyd
Rhan Dau (60 credyd)

Graddau Ymchwil

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi hen ennill enw da yn rhyngwladoli am ymchwil ym mhob maes o astudiaeth gerddorol. Mae rhyw 25-30 o fyfyrwyr ymchwil, yn ymchwilio i bynciau o gerddoriaeth ganoloesol hyd at gyfansoddi cyfoes, yn creu cymuned fywiog o fewn yr Ysgol.

Rhaglenni Ymchwil

Mae’r rhaglenni ymchwil yn dilyn fframwaith tair haen, yn gyfwerth â: 1 flwyddyn (MA/MMus Res); 2 flynedd (MPhil) neu 3 blynedd (PhD) o astudiaeth lawn-amser.

Er eu bod yn rhaglenni hunan-gynhwysol, mae modd trosglwyddo rhyngddynt.

Meistr yn y Celfyddydau trwy Ymchwil (MA Res)

Cyfnod Cofrestru: 1 flwyddyn (llawn-amser), 2 flynedd (rhan-amser)

Cyflwyno:

  • Cerddoreg: Thesis 50,000 o eiriau neu gyfatebol
  • Cyfansoddi:
  • Perfformio:
      • un datganiad cyhoeddus hyd llawn (40-50 mun) ac un CD (40-50 mun) gyda gorgyffyrddiad rhannol o repertoire (60%)
      • traethawd hir ar faes cysylltiedig (15,000 o eiriau) neu gyfansoddiad o hyd cyfwerth ar gyfer yr offeryn dan sylw (40%).

Meistr mewn Cerddoriaeth trwy Ymchwil (MMus Res)

Cyfnod Cofrestru: 1 flwyddyn (llawn-amser), 2 flynedd (rhan-amser)
Cyflwyno:

Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)

Cyfnod Cofrestru: 2 flynedd (llawn-amser), 3 blynedd (rhan-amser)
Cyflwyno:

  • Cerddoreg: Thesis 60,000 o eiriau neu gyfatebol
  • Cyfansoddi:
  • Perfformio:
      • un datganiad cyhoeddus hyd llawn (40-50 mun) ac un CD (40-50 mun) gyda repertoire gwahanol (60%)
      • traethawd hir ar faes cysylltiedig (20,000 o eiriau) neu gyfansoddiad o hyd cyfwerth ar gyfer yr offeryn dan sylw (40%).

Doethur mewn Athroniaeth (PhD)

Cyfnod Cofrestru: 3 blynedd (llawn-amser), 5 mlynedd (rhan-amser)
Cyfnod Prawf: 1 flwyddyn (llawn-amser), 2 flynedd (rhan-amser)
Cyflwyno:

  • Cerddoreg: Thesis o hyd at 100,000 o eiriau neu gyfatebol
  • Cyfansoddi:
  • Perfformio:
      • dau ddatganiad cyhoeddus hyd llawn (40-50 mun) ac un CD (40-50 mun) gyda repertoire gwahanol (60%)
      • traethawd hir ar faes cysylltiedig (40,000 o eiriau) neu gyfansoddiad o hyd cyfwerth ar gyfer yr offeryn dan sylw (40%).

Fframwaith y Rhaglen

Mae rhaglenni ymchwil ôl-radd yn dilyn y patrwm safonol ar gyfer ymchwil yn y Dyniaethau yn y DU. Mae pob myfyriwr yn cael goruchwyliaeth fanwl ar broject unigol a gwreiddiol, a allai fod yn gyfraniad newydd a sylweddol at y maes.
Mae gan bob myfyriwr bwyllgor goruchwyliol, dan arweiniad y prif oruchwyliwr, gyda chymorth dau aelod arall o staff sydd ag arbenigedd perthnasol.

Mae myfyrwyr ymchwil yn cyfarfod yn rheolaidd â’u goruchwyliwr, ac mae ganddynt hawl i ymgynghori ag aelodau eraill o’u pwyllgor, fel y bo hynny’n briodol.  Anogir hwy hefyd i gyflwyno adroddiadau ar eu gwaith mewn seminarau a chynadleddau yn ystod pob un o’r tair blynedd o astudiaeth.

Bydd yr asesiad olaf trwy viva voce o flaen panel priodol. Mae’r panel yn cynnwys un arholwr mewnol oddi mewn i’r Brifysgol/ Ysgol (gwahanol i aelodau’r pwyllgor goruchwyliol), un arholwr allanol sy’n arbenigwr yn y maes, a chadeirydd.

Meysydd Astudiaeth

Gellir ennill graddau ymchwil ym meysydd cerddoreg, perfformio a chyfansoddi.
Fel rheol, bydd y project ymchwil yn gyfyngedig i faes penodol unigol. Fodd bynnag, yn ogystal â’u hastudiaethau ymarferol (60%), bydd perfformwyr yn dilyn rhaglen y cytunir â hi, yn cynnwys ymchwil wreiddiol i astudiaeth hanesyddol, ymarfer perfformio, golygu neu ddadansoddi, gan ganolbwyntio ar agweddau sy’n ymwneud â’r repertoire sydd i’w berfformio neu’n ganolog iddo.

Rydym yn gwahodd yn benodol geisiadau i ddilyn cyrsiau gradd trwy ymchwil mewn meysydd o astudiaeth gerddorol sydd â chynrychiolaeth gref yn ymchwil aelodau staff unigol neu mewn clystyrau ymchwil:

  • Cerddoriaeth Gynnar
  • Cerddoriaeth yr 20fed a’r 21ain ganrif
    (gydag arbenigedd cyfun mewn perfformio, cyfansoddi, hanes a dadansoddi)
  • Cerddoreg Olygyddol
  • Cyfansoddi (yn cynnwys cyfansoddi Electroacwstig, Acwsmatig a Chelf Sonig)
  • Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig
    (ewch hefyd i: Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig (ICSMuS)
  • Cerddoriaeth Geltaidd Draddodiadol
  • Cerddoriaeth yng Nghymru 

Mae mwy o wybodaeth am wneud ymchwil ym Mangor i’w gweld ar:

Gofynion Derbyn

Mae graddau uwch trwy ymchwil yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes â rhywfaint o brofiad ar lefel ôl-radd (a ddangosir, fel rheol, trwy radd Meistr).

Os gall ymgeiswyr ddangos gallu arbennig o dda yn eu maes dewisol o astudiaeth ar lefel is-radd, bydd modd eu derbyn i’r MA/MMus trwy Ymchwil.

Ar wahân i’r gofynion ffurfiol hyn, derbynnir ymgeiswyr ar gryfder eu cynnig ymchwil. Rydym yn annog darpar-ymgeiswyr yn gryf i drafod eu cynlluniau ag aelod o’r staff a/ neu â’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion cyn cyflwyno’r cais ffurfiol.